Mae chwarae gemau fideo yn gwneud i Saabiqah, 15 oed, deimlo’n ddigon dewr i daclo unrhyw beth.
Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Paid Byth ag Ildio, ble roedd 21 o bobl ifanc Caerdydd yn cael eu comisiynu i greu darn o gelf yn dangos sut effaith mae chwarae gemau fideo yn ei gael ar eu hiechyd meddwl. Dyma stori Saabiqah, artist 15 oed oedd yn rhan o’r prosiect.
Pa effaith mae gemau fideo wedi ei gael ar dy iechyd meddwl?
Pan dwi’n teimlo bod angen ychydig o amser i mi fy hun, dwi wrth fy modd mynd ar Minecraft ac adeiladu tŷ prydferth ac ymladd zombies, neu chwarae ychydig o gemau saethu a chael hwyl gyda ffrindiau a chefndryd a chyfnitherod. Dyma yw fy ffordd i fyfyrio ac ymlacio ac rwy’n mwynhau gan ei fod yn tynnu’r straen i ffwrdd!
Mae Minecraft yn gêm hyfryd, a dwi yn ei garu yn fawr iawn gan ei fod yn caniatáu i mi gael gwared ar yr holl greadigrwydd sydd yn byrlymu yn fy mhen yn barhaol fel melin draed, yn mynd ymlaen ac ymlaen o hyd. Felly, wrth eistedd yn gyfforddus yn y gadair a gafael yn y rheolwr, rwy’n adeiladu ac mae’r meddwl yn rhydd ac yn poeni am ddim arall. Rwy’n caru adeiladu tai bach cyfforddus gan mai dyma sut dwi’n teimlo wrth chwarae – yn gyfforddus ac yn hapus.
Weithiau rwy’n chwarae gêm Black Ops neu Modern Warfare. Gallai ymddangos fel gêm fawr i blentyn fel fi, ond dwi’n cael fy ngosod yn esgidiau’r milwyr sydd yn peryglu eu bywydau i achub eraill! Rwy’n teimlo’n ddewr yn trechu’r dynion drwg ac yn achub pobl, ac mae’n gwneud i mi deimlo’n hapus ar ddiwrnod isel.
Beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r gwaith yma?
Penderfynais ddarlunio fy mhersona yn Minecraft. Yn hytrach nag gwneud darn o gelf amlwg am sut mae gemau yn gwneud i mi deimlo, rwyf wedi darlunio fy hun fel y chwaraewr. Y teimlad o fod yn ddewr oedd yr ysbrydoliaeth. Gall fod yn frawychus iawn yn Minecraft i fynd allan yn y nos, gan mai yn y tywyllwch mae’r angenfilod yn ymddangos. Darluniais fy hun yn paratoi i adael, gan fy mod yn teimlo’n ddewr ac yn gryf. Mae chwarae gemau fideo wedi dysgu i mi nad ydw i ofn y tywyllwch!
Mae’r goleuadau yn rhoi teimlad cryf i’r person sydd yn edrych arno. Mae edrych ar fy nghelf yn gwneud i mi fod eisio rhoi’r consol ymlaen ac ymladd ychydig o ‘creepers’ ffrwydrol a hen zombies gwyrdd. Mae’n rhoi naws o arwr ar siwrne – dwi’n hoff ohono! Mae’r naws yn gwneud i’r chwaraewr DEIMLO’N ddewr a dyna sut mae chwarae yn gwneud i mi deimlo!
Weithiau byddaf yn teimlo ofn, ond dyna oedd yr oes gynt. Rwy’n rhyfelwr bellach! Ymhen dim byddaf yn ôl ar Minecraft yn ymladd gwrachod ac Endermen, a mynd ymlaen i ymladd yr Enderdragon hunllefus hefyd.
Bwriad y neges y tu ôl i’m gwaith ydy sicrhau dy fod di’n edrych ymlaen gydag wyneb dewr a ddim yn cael dy drechu gan yr ochr ofnus. Sicrha dy fod di’n aros yn benderfynol!
Pa neges fyddet ti’n ei roi i rywun sydd yn cael trafferthion iechyd meddwl?
Paid gadael i’r tywyllwch dy lyncu. Ac os wyt ti yn agor dy ddrws iddo, cadwa torch yn olau, bydd y torch yna yn dy arwain di yn ôl at y goleuni yn y pen draw. A chadwa dy ben yn uchel hefyd!
Gwna dy orau glas i drechu’r negyddol gyda ffon, nid yw’n hwyl ac mae’n well cadw’n benderfynol yn hytrach nag boddi mewn llyn llwyd anobaith. Bydd edrych i lawr i mewn i’r tywyllwch yn dy wneud yn fregus, ac nid yw hynny’n beth da.
Gwybodaeth Berthnasol
I ddarganfod mwy am yr ymgyrch Paid Byth ag Ildio ac i weld yr holl waith celf anhygoel gan yr artistiaid eraill, clicia YMA.
Wyt ti’n dioddef gyda dy iechyd meddwl? Cer draw i Dudalen Gwybodaeth Iechyd Meddwl y Sprout ble mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogi lleol a chenedlaethol.
Os wyt ti’n rhannu ein hymgyrch Paid Byth ag Ildio ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddio’r hashnod #ChwaraeDaMeddwlPositif. Mae croeso i ti ein tagio fel ein bod yn gweld yr hyn rwyt ti’n rhannu!