Rhannodd Nalani, 16 oed, sut mae gemau fideo wedi bod yn ffordd o ddianc o bwysau realiti, a sut mae hynny wedi bod yn fuddiol i’w hiechyd meddwl.
Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Paid Byth ag Ildio, ble roedd 21 o bobl ifanc Caerdydd yn cael eu comisiynu i greu darn o gelf yn dangos sut effaith mae chwarae gemau fideo yn ei gael ar eu hiechyd meddwl. Dyma stori Nalani, artist 16 oed oedd yn rhan o’r prosiect.
Pa effaith mae gemau fideo wedi ei gael ar dy iechyd meddwl?
Mae gemau wedi bod yn ffordd o ddianc o’r pethau sydd yn digwydd yn fy mywyd. Mae’n gadael i mi ddianc o feddwl a syniadau fy hun ac yn gwneud i mi deimlo’n dda. Mae’n caniatáu i fi, a llawer o rai eraill, i fod yn rhywun neu’n rhywle arall, a dyna pam bod chwarae gemau wedi cael effaith grêt ar fy iechyd meddwl.
Mae gemau fel Animal Crossing yn dda pan fyddaf angen ymlacio a thawelu’r meddwl os ydw i wedi cael diwrnod drwg neu mae’r ‘seizures’ wedi fy mlino. A gemau fel Danganronpa, Hatsune Miku: Project Diva, a Cuphead yw’r math o gemau dwi’n chwarae os ydw i’n cael amser drwg yn feddyliol ac angen rhywbeth sydyn i basio’r amser.
Mae gen i Nintendo Switch, Nintendo DS 2XL a PS vita gan fod y byd gemau fideo yn noddfa. Mae yno i mi pan fyddaf angen ac yn rhoi cyfle i mi gymdeithasu gyda phobl ledled y byd.
Beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r gwaith yma?
Roeddwn eisiau creu darn oedd yn adlewyrchu fy nghariad tuag at gemau a’r pwysigrwydd o iechyd meddwl da i fi, a gobeithio rhannu’r neges yma gydag eraill.
Rydym yn byw mewn oes ble mae siarad am broblemau iechyd meddwl yn cael ei groesawu ac mae’n bwysig. Rwyf eisiau dangos i bobl ifanc bod gennym ni lais hefyd, ac efallai y gallan nhw ddianc o bopeth wrth chwarae gemau fideo. Gall gemau ddatgelu ochr newydd ble gallet ti fod yn pwy bynnag a beth bynnag rwyt ti’n dymuno.
Credaf fod gemau yn wirioneddol gallu gwella iechyd meddwl gan ei fod yn annhebyg i realiti; rwyt ti’n gallu dianc o dy ymennydd yn y byd gemau fideo. Mae bydysawd arall llawn rhyfeddodau yn agored i ti wrth chwarae gemau ac rwy’n awyddus i ddweud wrth eraill bod gemau yn opsiwn os ydynt angen dihangfa o’u meddyliau.
Pa neges fyddet ti’n ei roi i rywun sydd yn cael trafferthion iechyd meddwl?
Mae’n iawn. Byddi di’n iawn. Beth bynnag sy’n digwydd a beth bynnag mae’r ymennydd yn dweud wrthyt ti, bydd popeth yn iawn.
Rwyt ti’n gryf ac yn ddewr a dwi mor falch dy fod di yma. Mae yna gariad tuag atat ti ac rwyt ti’n ysbrydoliaeth felly paid byth ag anghofio hynny. Ti wyt ti a dyna sydd yn gwneud ti’n anhygoel.
Byddi di’n goroesi popeth sydd yn digwydd ac yn dod allan ar yr ochr arall 10 gwaith yn gryfach na chynt, dwi’n addo.
Gwybodaeth Berthnasol
I ddarganfod mwy am yr ymgyrch Paid Byth ag Ildio ac i weld yr holl waith celf anhygoel gan yr artistiaid eraill, clicia YMA.
Wyt ti’n dioddef gyda dy iechyd meddwl? Cer draw i Dudalen Gwybodaeth Iechyd Meddwl y Sprout ble mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogi lleol a chenedlaethol.
Os wyt ti’n rhannu ein hymgyrch Paid Byth ag Ildio ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddio’r hashnod #ChwaraeDaMeddwlPositif. Mae croeso i ti ein tagio fel ein bod yn gweld yr hyn rwyt ti’n rhannu!