Paid Byth ag Ildio: Cyfarfod yr Artistiaid gyda Alicia Gil-Cervantes

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae Alicia, 18 oed o Gaerdydd, yn anghytuno bod chwarae gemau yn weithgaredd unig ac yn credu mai cymuned ydyw.

Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Paid Byth ag Ildio, ble roedd 21 o bobl ifanc Caerdydd yn cael eu comisiynu i greu darn o gelf yn dangos sut effaith mae chwarae gemau fideo yn ei gael ar eu hiechyd meddwl. Dyma stori Alicia, artist 18 oed oedd yn rhan o’r prosiect.

Pa effaith mae gemau fideo wedi ei gael ar dy iechyd meddwl?

Mae chwarae gemau yn brofiad unigryw iawn. Mae yna amrywiaeth eang o gemau o rai saethu clasurol i rai mwy heddychlon annibynnol. Mae nifer dirif o glybiau ffan, gweinyddion, ac amryw grŵp o bobl yn dilyn gemau. Mae grŵp i bawb.

Mae gemau yn weithgaredd cymunedol lle gallet ti gysylltu, ond gallet ti wahanu dy hun hefyd os wyt ti eisiau. Dy greadigrwydd a’r gêm yw ffiniau’r hyn gall rhywun uniaethu ag ef a/neu ddod. Rwyf wedi dioddef gydag iechyd meddwl a hunaniaeth yn bersonol ond mae cael gemau fideo (Xbox a pc) wedi bod yn help i fynegi pob ochr o’n hun a maethu’r rhannau ohonof sydd yn cael ei atal gan y byd tu allan.

Nid oes neb yn poeni sut mae dy avatar yn edrych neu’n gwisgo mewn gemau fideo. Fedri di fod yn unrhyw un, yn gwbl rydd o deimlo barn neu’n hunanymwybodol. Rwyt ti’n cael dy amddiffyn gan fod y bobl yn y gêm yn adnabod y person rwyt ti’n cyflwyno trwy dy gymeriad. Yn ogystal â hyn, gallet ti guddio dy ryw hefyd felly rwyt ti’n gallu chwarae unrhyw gêm yr hoffet a chael dy drin yn gyfartal.

Mae gemau fideo yn newid amgylchedd, lle cymunedol, lle i symud hunanfynegiant i’r lefel nesaf. Ond gêm ydyw yn syml. Mae wedi bod yn bwnc sawl math o hunan-therapi i mi. Rwyt ti’n dysgu amdanat ti dy hun wrth i ti chwarae trwy’r opsiynau dewiswyd neu’r avatar defnyddir. Gallant hefyd ddatgelu pethau rwyt ti’n dda yn gwneud, fel gwaith tîm, strategaeth, cyfathrebu ac mae’r rhestr yn parhau. Mae yna apiau fel discord ble mae grwpiau o bobl yn ymuno i drafod gemau a siarad â’i gilydd. Nid yw chwarae gemau fideo yn weithgaredd unig o gwbl.

Dweud wrthym am dy ddarn celf

Mae yna 4 endid i’r darn yma, mae’r un ar y chwith yn ddehongliad o ystyr ysgrifenedig y kanji ‘hunaniaeth’, ar y dde mae’r endid ‘uwch-ego’, yn y canol endid cysgod gyda ffurf lai o’i flaen, yn cyfleu’r kanji wedi’i ysgrifennu uwchben ‘ego’

Mae’r cefndir yn ofod enfys liw glitchy yn cyfleu pwysigrwydd y cymeriadau nefol.

Dyma greu cymeriad sydd wedi ei ddylanwadu, ond ddim yn wir o reidrwydd, i’r creawdwr, ehangiad o’ch hunan.

Gwybodaeth Berthnasol

I ddarganfod mwy am yr ymgyrch Paid Byth ag Ildio ac i weld yr holl waith celf anhygoel gan yr artistiaid eraill, clicia YMA.

Wyt ti’n dioddef gyda dy iechyd meddwl? Cer draw i Dudalen Gwybodaeth Iechyd Meddwl y Sprout ble mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogi lleol a chenedlaethol.

Os wyt ti’n rhannu ein hymgyrch Paid Byth ag Ildio ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddio’r hashnod #ChwaraeDaMeddwlPositif. Mae croeso i ti ein tagio fel ein bod yn gweld yr hyn rwyt ti’n rhannu!

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd