Bwriad yr ymgyrch Chwareus Nid Amheus ydy i godi ymwybyddiaeth am ble mae pobl ifanc yn gallu cael gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd rhywiol a pherthnasau.
Gwybodaeth am Chwareus Nid Amheus
Mae’r Ymgyrch Chwareus Nid Amheus wedi ei greu ar y cyd â 10 person ifanc sydd yn derbyn cefnogaeth gan SHOT: Y Gwasanaeth Perthnasau Iach.
Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Tîm Ymestyn Allan Iechyd Rhywiol (SHOT) a YMCA Caerdydd i gasglu barn, teimladau a phrofiadau pobl ifanc am gael mynediad i gefnogaeth a gwybodaeth iechyd rhywiol a pherthnasau.
Beth yw SHOT: Y Gwasanaeth Perthnasau Iach?
Mae SHOT: Y Gwasanaeth Perthnasau Iach yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth gyfrinachol i bob ifanc Caerdydd am unrhyw beth sydd yn ymwneud â pherthnasau ac iechyd rhywiol.
Mae’r gwasanaeth yn cefnogi unrhyw berson ifanc 11-25 oed yng Nghaerdydd gyda llawer o bethau, gan gynnwys:
- Gwybodaeth atal cenhedlu
- Ymwybyddiaeth heintiau a drosglwyddir yn rhywiol
- Adnabod perthnasau positif
- Dylanwad cyfoedion yn ymwneud ag iechyd rhywiol
- Profi beichiogrwydd
- Deall caniatâd
- Cymryd risgiau rhywiol
- Iaith/ymddygiad rhywiol anaddas
- Diogelwch ar-lein a phornograffi
- Gwybodaeth iechyd rhywiol cyffredinol
- Aeddfedu a thyfu i fyny
- Rhyw a’r gyfraith
Mae’r tîm SHOT yng Nghaerdydd yn helpu pobl ifanc i gael mynediad i brofi a chynnyrch atal cenhedlu mewn clinigau iechyd rhywiol. Cynigir cefnogaeth yn unigol ac fel rhan o grŵp.
Yr ymgyrch
Bydd yr ymgyrch pythefnos o hyd yma yn rhannu blogiau a chyfryngau cymdeithasol o’n cyfweliadau arbennig gyda phobl ifanc.
I gael gwybod y diweddaraf am y cynnwys, ymwela â gwefan TheSprout yn ddyddiol. Dilyna ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ar Facebook, Twitter, Instagram, TikTok and YouTube i gael dy atgoffa o gynnwys newydd.
Os wyt ti eisiau bod yn rhan o’r sgwrs, defnyddia’r hashnod #ChwareusNidAmheus
Dyma gellir ei ddisgwyl yn yr ymgyrch:
- Elin, 20: Mae Angen Normaleiddio Siarad am Ryw a Pherthnasau
- Yasmin, 16: Efallai Dy Fod Di Mewn Perthynas Gwenwynig heb Wybod
- Deall Mwy am Ganiatâd
- Y Cynllun Cerdyn-C
- Anya, 14: Dwi’n Deall Nawr Beth Rwy’n Haeddu o Berthynas
- Ashleigh, 15: Mae Angen Mwy o Wybodaeth Mewn Ysgolion i Atal Beichiogrwydd
- Dadfocsio Pecyn STI
- Cai, 14: Mae Pobl yn Barnu Pan Ti’n Ddeurywiol
- Aros yn Ddiogel Wrth Secstio
- Derbyn Cefnogaeth gan SHOT: Y Gwasanaeth Perthnasau Iach
- Tillie, 14: Wyddwn i Ddim Faint o Ddulliau Atal Cenhedlu Oedd ar Gael
- Tudalen Gwybodaeth Iechyd Rhywiol
Derbyn cefnogaeth SHOT
I dderbyn cefnogaeth SHOT, llenwa ffurflen cyfeirio. Mae posib cyfeirio dy hun fel person ifanc neu gallet ti ofyn i riant/gofalwr neu weithiwr proffesiynol i helpu.
I wneud cyfeiriad, cysyllta â SHOT: Y Gwasanaeth Perthnasau Iach drwy e-bost: SHOT@ymcacardiff.wales neu ffonia (029) 2046 5250.
Gwybodaeth Berthnasol
Cer draw i dudalen gwybodaeth Iechyd Rhywiol TheSprout sydd â llwyth o wybodaeth iechyd rhywiol lleol a chenedlaethol a dolenni i wasanaethau cefnogol.
Os wyt ti’n rhannu cynnwys yr ymgyrch Chwareus Nid Amheus ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddia’r hashnod #ChwareusNidAmheus a thagio ni.