Derbyn Cefnogaeth gan SHOT: Y Gwasanaeth Perthnasau Iach

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Fel rhan o’r ymgyrch Chwareus nid Amheus, siaradom gydag Oscar (16), Fatimah (15), Troy (17) a Vishal (18) am eu barn am iechyd rhyw a pherthnasoedd. Gofynnom hefyd am eu profiadau o dderbyn cefnogaeth gan SHOT: Y Gwasanaeth Perthnasau Iach.

Oscar, 16

Cyn siarad gyda SHOT, roeddwn yn arfer cael gwybodaeth am ryw a pherthnasau gan bobl ifanc eraill neu gan fy athrawon. Byddwn i’n defnyddio gwefannau a Google i chwilio am wybodaeth, ond gall pethau fynd ben i waered os ydi’r wybodaeth yn anghywir.

Rydym angen siarad am ryw a pherthnasoedd oherwydd mae’n dda i siarad cyn gwneud unrhyw beth fel dy fod yn gwybod beth i’w wneud.

Mae siarad gyda SHOT wedi helpu fi i feddwl cyn gwneud dim, fydd yn help mawr imi yn y dyfodol.

Roedd dysgu am atal cenhedlu yn ddefnyddiol a’n ddiddorol iawn.

Fatimah, 15

Cyn cyfarfod fy ngweithiwr SHOT, doedd gen i ddim syniad sut i aros yn ddiogel. Dwi wedi mwynhau gwybod fod help ar gael ar gyfer pobl fy oed i. Rydym wedi trafod perthnasau, aros yn saff, ac ymddygiad peryglus. Os nad oeddwn i’n gwybod hyn, efallai byddwn i’n feichiog erbyn hyn.

Roedd siarad gyda fy ngweithiwr SHOT yn helpu i ysgafnhau fy maich ac mae’n help mawr gyda fy iechyd meddwl.

Troy, 17

Roeddwn i’n arfer cael gwybodaeth gan mam am ryw a pherthnasau, ond mae wedi helpu i siarad gyda rhywun o SHOT am berthnasau ac iechyd rhyw. Mae wedi helpu fi i beidio poeni.

Rydym wedi siarad am berthnasau, pwysau gan gyfoedion, cadw’n ddiogel, caniatâd, ymddygiad peryglus, a chadw’n ddiogel ar-lein, roeddwn i wedi mwynhau dysgu am hwnnw.

Mae pobl ifanc angen siarad am berthnasau ac iechyd rhyw i ddeall pethau.

Vishal, 18

Fy mrodyr neu trwy fod mewn perthynas oedd yn tueddu dysgu i mi am ryw a pherthnasau.

Bydd siarad gyda’r bobl yn SHOT yn ddefnyddiol i rai, gan nad ydynt yn gwybod gymaint am ryw.

Gwybodaeth Berthnasol

Eisiau mwy o’r ymgyrch Chwareus Nid Amheus? Ymwela â chyflwyniad yr ymgyrch.

Cer draw i dudalen gwybodaeth Iechyd Rhywiol TheSprout sydd â llwyth o wybodaeth iechyd rhywiol lleol a chenedlaethol a dolenni i wasanaethau cefnogol.

Os wyt ti’n rhannu cynnwys yr ymgyrch Chwareus Nid Amheus ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddia’r hashnod #ChwareusNidAmheus a thagio ni.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd