Cynllun Cerdyn-C: Condomau Am Ddim i Bobl Ifanc

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Wyt ti’n berson ifanc yng Nghaerdydd sydd eisiau condomau am ddim? Cofrestra ar gyfer y cynllun Cerdyn-C!

Fel rhan o’r ymgyrch Chwareus Nid Amheus, rydym yn rhannu gwybodaeth am gynllun Cerdyn-C YMCA Caerdydd. Darllena am yr ymgyrch yma.

Beth ydy’r Cynllun Cerdyn-C?

Mae Cynllun Cerdyn-C YMCA Caerdydd yn caniatáu i bobl ifanc rhwng 13-25 ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg i gael condomau am ddim a mynediad at wybodaeth iechyd rhyw.

Mae’r cynllun wedi’i ariannu gan Teuluoedd yn Gyntaf Caerdydd, sy’n golygu bod cofrestru i dderbyn condomau yn rhad ac am ddim, yn gyflym ac yn ddidrafferth.

Mae’n hollol gyfrinachol, sy’n golygu na fydd unrhyw un yn gallu rhannu dy wybodaeth.

Cofrestru am Gerdyn-C am ddim

Cofrestra am Gerdyn-C wrth ymweld ag un o’n Pwyntiau Cerdyn-C yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Byddi di’n cael sgwrs breifat gyda staff proffesiynol hyfforddedig cyn derbyn y Cerdyn C. Mae hyn i sicrhau bod gen ti’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i wneud penderfyniadau gwybodus am dy iechyd rhyw. Bydd hyn yn cynnwys siarad am berthnasau, rhyw, a sut i ddefnyddio condom.

Mae’r wybodaeth rwyt ti’n rhannu â’r aseswr Cerdyn-C yn gyfrinachol. Ni fydd unrhyw wybodaeth yn cael ei rannu â neb. Os ydynt yn meddwl dy fod di mewn perygl, yna mae posib bydd rhaid iddynt siarad â rhywun arall, ond bydd yr aseswr yn ceisio siarad â thi cyn gwneud hynny. Os wyt ti’n poeni am gyfrinachedd, galli di ofyn i’r aseswr Cerdyn-C cyn rhannu dy wybodaeth.

Bydd yr aseswr Cerdyn-C yn llenwi ffurflen ac yn cymryd dy fanylion.

Bydd y broses yn cymryd 10-15 munud, ac wedyn byddi di’n derbyn Cerdyn-C a dy becyn cyntaf o gondomau.

Cael rhagor o gondomau am ddim

Unwaith i ti gofrestru ar y cynllun, bydd y broses o gasglu condomau am ddim yn cymryd llai nag 5 munud.

Mae sawl lleoliad ar draws Caerdydd i gasglu condomau. Cymer olwg ar y map i weld y lleoliadau.

Mae posib cael hyd at 10 o gondomau pob wythnos

Mae’r cynllun yn darparu amrywiaeth o gondomau (gan gynnwys di-latecs), ‘dental dams’ a liwb.

Gwybodaeth Gyswllt

Am wybodaeth bellach ar y cynllun Cerdyn-C, cysyllta â YMCA Caerdydd:

  • Ffôn: 02920 465 250       
  • E-bost: shot@ymcacardiff.wales                   
  • Ysgrifennu llythyr: SHOT, YMCA Caerdydd, The Walk, Y Rhath, Caerdydd, CF24 3AG  

Gwybodaeth Berthnasol

Eisiau mwy o’r ymgyrch Chwareus Nid Amheus? Ymwela â chyflwyniad yr ymgyrch.

Cer draw i dudalen gwybodaeth Iechyd Rhywiol TheSprout sydd â llwyth o wybodaeth iechyd rhywiol lleol a chenedlaethol a dolenni i wasanaethau cefnogol.

Os wyt ti’n rhannu cynnwys yr ymgyrch Chwareus Nid Amheus ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddia’r hashnod #ChwareusNidAmheus a thagio ni.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd