Anya, 14: Dwi’n Deall Nawr Beth Rwy’n Haeddu Mewn Perthynas

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Fel rhan o’r ymgyrch Chwareus Nid Amheus, mae Anya, 14 oed, wedi rhannu ei barn am iechyd rhyw a pherthnasau ac wedi siarad am ei phrofiad yn cael mynediad i gefnogaeth SHOT: Y Gwasanaeth Perthnasau Iach.

Derbyn cymorth gan SHOT

Cefais fy nghyfeirio at SHOT gan y Gwasanaethau Plant.

Cyn siarad gyda fy ngweithiwr SHOT, roeddwn i’n edrych ar-lein neu yn gofyn am wybodaeth a chyngor am ryw a pherthnasau gan fy chwaer a fy nghefndryd. Mae llawer o bethau ar TikTok yn anghywir!

Ers derbyn cymorth, mae fy ngweithiwr SHOT a minnau wedi sgwrsio am berthnasau, atal cenhedlu, pwysau gan gyfoedion, rhyw a’r gyfraith, cadw’n saff, caniatâd, ac ymddygiad peryglus.

Mae hi wedi bod yn werthfawr i ddysgu beth mae perthynas iach yn edrych fel a sut i aros yn ddiogel mewn ac allan o berthynas. Dwi’n deall nawr beth rwy’n haeddu mewn perthynas – sut dylwn i gael fy nhrin!

Siarad heb feirniadaeth

Mae’n dda i siarad gyda rhywun sydd ddim yn athro na’n weithiwr cymdeithasol. Mae’n hawdd siarad gyda thîm SHOT, a dwi’n mwynhau’r sesiynau.

Dwi hefyd yn trafod yr hyn dwi wedi dysgu am ryw a pherthnasau gyda ffrindiau.

Mae siarad am iechyd rhyw a pherthnasau yn gallu bod yn chwithig, ond ni ddylai fod! Fy nghyngor i yw peidio cadw popeth i mewn.

Gwybodaeth berthnasol

Eisiau mwy o’r ymgyrch Chwareus Nid Amheus? Ymwela â chyflwyniad yr ymgyrch.

Cer draw i dudalen gwybodaeth Iechyd Rhywiol TheSprout sydd â llwyth o wybodaeth iechyd rhywiol lleol a chenedlaethol a dolenni i wasanaethau cefnogol.

Os wyt ti’n rhannu cynnwys yr ymgyrch Chwareus Nid Amheus ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddia’r hashnod #ChwareusNidAmheus a thagio ni.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd