Iechyd Rhywiol

Wyt ti wedi drysu’n llwyr gyda mater iechyd rhywiol? Poeni am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol neu dim clem am atal cenhedlu? Angen gwybodaeth bellach am brofiadau’r glasoed (puberty)?

Edrycha ar ein rhestr o wefannau a sefydliadau sydd yn gallu helpu.

Gwasanaethau Cenedlaethol

Cynllun Cerdyn-C – Yn rhannu condomau am ddim i bobl ifanc 13-25.

Ymddiriedolaeth Terrence Higgins – Mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn elusen HIV ac iechyd rhywiol yn cefnogi pobl sydd yn byw gyda’r firws. Cefnogaeth i bobl sydd yn byw gyda HIV, gwybodaeth a chyngor iechyd rhywiol, grwpiau cefnogaeth, cwnsela a hyfforddiant. Llinell gymorth: 0808 802 1221 neu info@tht.org.uk

Brook – Iechyd Rhywiol a llesiant i rai dan 25 oed. Yn yr adran cymorth a chyngor mae yna lwyth o wybodaeth am ryw, atal cenhedlu, heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs), perthnasau, rhywioldeb, beichiogrwydd, rhyw’r person, iechyd a llesiant, camdriniaeth a thrais, cadw’n ddiogel ar-lein a dy gorff.

Cymru Chwareus – Prosiect Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig cyngor iechyd rhywiol a gwybodaeth profi STIs. Gwybodaeth ar heintiau, amddiffyniad, atal cenhedlu, risg a darganfod clinig iechyd rhywiol lleol. Yn cynnwys Teclyn Iechyd Rhywiol Digidol – ateb ychydig o gwestiynau i asesu dy risg a beth yw’r camau nesaf.

Profi a Phostio – Pecyn profi gartref gan Cymru Chwareus i brofi am STIs yn gyfforddus adref. Bydd y prosiect peilot yma yn gyrru prawf Chlamydia a Gonorea, ac/neu HIV, Syffilis, Hepatitis B a Hepatitis C trwy’r post. Dilyna’r cyfeiriadau ac yna postio’n ôl i gael canlyniadau. Mae yna fideos gyda chyfeiriadau ar gyfer pob prawf ar y wefan.

Sexwise – Gwefan wedi’i greu gan y Gymdeithas Cynllunio Teulu (FPA) yn rhoi cyngor gonest i bobl ifanc am atal cenhedlu, beichiogrwydd, STIs a phleser. Mae ganddynt fideos gwych ar y wefan hefyd (gweler yr un Pufferfish Talk Condoms isod) wedi’i greu gan animeiddwyr ifanc yn dangos gwahanol anifeiliaid yn chwalu’r chwedlau am iechyd rhywiol ac atal cenhedlu. Gwylia nhw yma.

Galw Iechyd Cymru – Clinigau Iechyd Rhywiol – Gwybodaeth am glinigau iechyd rhywiol a’r hyn maent yn ei wneud ynddynt. Gallet ti hefyd chwilio am glinig iechyd rhywiol i ddarganfod un yn dy ardal di.

Galw Iechyd Cymru – Tudalennau Iechyd Rhywiol – Gwybodaeth am atal cenhedlu, STIs, erthyliad a beichiogrwydd.

Galw Iechyd – Iechyd Rhywiol – Ffeithiau, cyngor a chefnogaeth rhyw, iechyd genitalia a STIs. Gwybodaeth a chyngor.

The Mix – Cefnogaeth i rai dan 25 oed. Mae yna lwyth o gyngor arbenigwyr a straeon pobl go iawn yn yr adran rhyw a pherthnasau, ac nid oes dim yn rhy anweddus i’w drafod.

Cyngor y BBC – Rhyw a Pherthnasau – Yn helpu ti trwy fywyd. Llwyth o wybodaeth o Oed Cydsynio i wyryfdod (virginity). Mae ffeiliau ffaith Cyngor y BBC yn cael ei greu o gyngor gan weithwyr proffesiynol yn y maes meddygol, cyrff llywodraethol, elusennau a grwpiau perthnasol eraill.

Childline – Y Glasoed (puberty) – Gwybodaeth am yr hyn gellir ei ddisgwyl yn ystod y glasoed, gan gynnwys edrych yn benodol ar lasoed merched a glasoed bechgyn.

Galw Iechyd – Cyfnodau’r Glasoed – Beth yw arwyddion y glasoed? Sut mae ymdopi gyda’r newidiadau tymer sydd yn dod ynghlwm ag ef? Mae gan Galw Iechyd ddigonedd o wybodaeth am hyn.

Meic – Os wyt ti angen gwybodaeth bellach am faterion iechyd rhywiol a gwasanaethau gall helpu, cysyllta â’r llinell gymorth Meic. Mae Meic yn llinell gymorth eiriolaeth, cyngor a gwybodaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Galwa am ddim ar 080880 23456, neges testun 84001 neu IM.

Apiau Defnyddiol

My Sex Doctor – Popeth sydd angen ei wybod am ryw yn ffitio yn dy law.

myPill – Gosod larwm atgoffa, cymryd nodiadau a thracio symptomau. Mae cynlluniwr yn atgoffa pan fydd angen pecyn newydd, galw’r doctor ayb.

Blogiau a Chanllawiau

Beth Yw’r Holl Ffwdan Caniatâd Yma? – Meic

What it’s like to take a home STI test – Sexwise

5 sexual health fears (and why you shouldn’t be scared) – Sexwise

Is sexting illegal? – The Mix

Modryb Sprout – Dwi ddim wedi cael Rhyw – theSprout

Ymgyrch Chwareus Nid Amheus – theSprout

Fideos

 

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd