Tillie, 14: Wyddwn i Ddim Faint o Ddulliau Atal Cenhedlu Oedd ar Gael

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Fel rhan o’r ymgyrch Chwareus Nid Amheus, mae Tillie, 14 oed, wedi rhannu ei barn am iechyd rhyw a pherthnasau ac wedi siarad am ei phrofiad yn cael mynediad i gefnogaeth SHOT: Y Gwasanaeth Perthnasau Iach.

Cael gwybodaeth am ryw a pherthnasau

Mae llawer o bobl yn cael gwybodaeth am ryw gan rhieni neu’r rhyngrwyd, ond weithiau mae’r rhyngrwyd yn rhoi gwybodaeth anghywir i ti.

Mae ysgolion hefyd yn gallu trefnu i bobl ddod i mewn i siarad amdano. Pwy bynnag rwyt ti’n derbyn cefnogaeth ganddynt, mae’n beth da i siarad gyda rhywun a dysgu sut i aros yn ddiogel a deall ble i gael help.

Dysgu

Ers derbyn cefnogaeth gan y tîm SHOT, rydym wedi trafod perthnasau, atal cenhedlu, gwybodaeth STI, pwysau cyfoedion, rhyw a’r gyfraith, caniatâd, ymddygiad peryglus, a diogelwch ar-lein.

Mae wedi helpu siarad am y peth. Wyddwn i ddim faint o ddulliau atal cenhedlu oedd ar gael. Dwi wedi mwynhau dysgu am amddiffyn dy hun.

Dwi’n meddwl ei bod yn well gwybod popeth rhag ofn bod rhywbeth yn mynd o’i le, fel condom yn torri yng nghanol rhyw.

Gwybodaeth berthnasol

Eisiau mwy o’r ymgyrch Chwareus Nid Amheus? Ymwela â chyflwyniad yr ymgyrch.

Cer draw i dudalen gwybodaeth Iechyd Rhywiol TheSprout sydd â llwyth o wybodaeth iechyd rhywiol lleol a chenedlaethol a dolenni i wasanaethau cefnogol.

Os wyt ti’n rhannu cynnwys yr ymgyrch Chwareus Nid Amheus ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddia’r hashnod #ChwareusNidAmheus a thagio ni.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd