Ashleigh, 15: Mae Angen Mwy o Wybodaeth Mewn Ysgolion i Atal Beichiogrwydd

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Fel rhan o’r ymgyrch Chwareus Nid Amheus, mae Ashleigh, 15 oed, wedi rhannu ei barn am iechyd rhyw a pherthnasau ac wedi siarad am ei phrofiad yn cael mynediad i gefnogaeth SHOT: Y Gwasanaeth Perthnasau Iach.

Camwybodaeth

Cyn siarad gyda SHOT, roeddwn yn chwilio am wybodaeth rhyw a pherthnasau ar wefannau dibynadwy.

Mae’n anodd i berson ifanc wybod ble i chwilio wrth ymdopi gyda phryderon fel delwedd corff, am fod disgwyl i ni edrych ryw ffordd benodol. Ond nid oes gen i hyder mewn rhai gwefannau a chyfryngau cymdeithasol fel TikTok.

Mae angen mwy o wybodaeth mewn ysgolion i atal beichiogrwydd ac i stopio pobl rhag credu yn y chwedlau sydd ddim yn wir.

Nid oes gan bobl ifanc rywle arall i siarad am ryw a pherthnasau gyda gweithwyr proffesiynol. Mae’n ormod o gywilydd gofyn yn yr ysgol; efallai byddant yn dweud wrth ein rhieni. Ond dwi’n meddwl dylai pobl ddysgu pethau yn gynt i helpu atal pobl rhag gwneud camgymeriadau a dewisiadau drwg.

Taclo teimlo cywilydd

Dwi’n teimlo fel bod y tîm SHOT yn hawdd siarad â nhw. Mae’n wasanaeth defnyddiol iawn, ac mae’n dda i siarad. Dwi wedi dysgu llawer mwy nag yr ydw i mewn gwersi yn yr ysgol, a dwi ddim yn teimlo cywilydd yn gofyn cwestiynau.

Byddwn yn argymell SHOT i’m ffrindiau i gyd. Maent yn hawdd siarad â nhw, nid ydynt yn  barnu, ac maent yn rhoi gwybodaeth dda. Dwi wedi dysgu am berthnasau, atal cenhedlu, beichiogrwydd, pwysau cyfoedion, rhyw a’r gyfraith, aros yn ddiogel, ecsploetiaeth rywiol, caniatâd, ymddygiad peryglus, a diogelwch ar-lein. Fedri di ofyn unrhyw beth iddyn nhw a pheidio teimlo cywilydd.

Dwi’n teimlo ei bod yn haws siarad gyda mam nawr gan fod hi’n gwybod mod i’n derbyn cefnogaeth SHOT, felly mae’n gofyn i mi sut mae’r sesiynau yn mynd.

Gwybodaeth berthnasol

Eisiau mwy o’r ymgyrch Chwareus Nid Amheus? Ymwela â chyflwyniad yr ymgyrch.

Cer draw i dudalen gwybodaeth Iechyd Rhywiol TheSprout sydd â llwyth o wybodaeth iechyd rhywiol lleol a chenedlaethol a dolenni i wasanaethau cefnogol.

Os wyt ti’n rhannu cynnwys yr ymgyrch Chwareus Nid Amheus ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddia’r hashnod #ChwareusNidAmheus a thagio ni.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd