Caniatâd Rhywiol: Wyt Ti’n Deall?

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Cafodd yr erthygl hon ei hysgrifennu fel rhan o’n Hymgyrch #TiYnHaeddu: Perthnasau Iach. I ddarganfod mwy am yr ymgyrch clicia yma.

Mae perthnasau rhywiol rhwng dau oedolyn cydsyniol dros 16 oed yn gallu bod yn bleserus. Ond, pan fydd rhywbeth rhywiol yn digwydd heb ganiatâd un person yna mae hyn yn anghyfreithlon, heb sôn am yr effaith dinistriol gallai ei gael ar y person sydd heb roi’r caniatâd.

Beth ydy “Caniatâd”?

Caniatâd rhywiol ydy pan fydd person yn dweud ei fod yn iawn i berson arall gael cyswllt rhywiol â nhw. Os nad rhoddir caniatâd gan un ohonynt, a dyw’r person arall ddim yn stopio, yna mae hyn yn cael ei ystyried fel ymosodiad rhywiol yn ôl y gyfraith. Os yw’r gweithgaredd yma yn cynnwys rhyw (rhyw fagina, anws neu geneuol) yna bydd hyn yn cael ei ystyried yn drais neu rêp. Gall unrhyw un fod yn ddioddefwyr ymosodiad rhywiol, beth bynnag eu rhyw, tueddfryd rhywiol, hunaniaeth rhyw a chefndir.

Pryd all rhywun ddim rhoi caniatâd?

Diffiniad cyfreithiol caniatâd ydy “os yw’r person yn cytuno drwy ddewis, ac mae ganddynt y rhyddid a’r gallu i wneud y dewis yma”. Gad i ni edrych ar y ddau beth ar wahân.

Rhyddid – mae hwn yn ganolog i ganiatâd ac yn eithaf clir. Os nad yw rhywun yn rhydd i ddewis os ydynt eisiau rhyw neu beidio, neu os ydynt dan fygythiad i wneud dewis, yna nid ydynt wedi rhoi caniatâd.

Gallu – nid yw hwn mor eglur. Mae’n edrych ar gyflwr meddwl a gallu rhywun i wneud penderfyniad. Os oes gen ti broblemau iechyd meddwl, neu ddim yn hollol ymwybodol, neu dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, yna gall hyn effeithio ar dy gyflwr meddwl. Felly nid oes gen ti’r ‘gallu’ i roi caniatâd yn gyfreithiol i gael rhyw.

Dyma rhai esiamplau:
  • Os yw rhywun wedi meddwi ac yn lled ymwybodol, nid allant roi caniatâd i gael rhyw neu gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol
  • Nid all cael caniatâd os yw rhywun yn cysgu neu’n anymwybodol, hyd yn oed os ydynt oeddent wedi cytuno i weithgaredd rhywiol neu ryw gynt
  • Os yw rhywun yn ofnus ac wedi cael ei fygwth i gael rhyw neu gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, nid ydynt wedi rhoi caniatâd

Mae rhai pobl yn sôn am linellau aneglur neu ansicrwydd pan ddaw at ganiatâd. Mae’r fideo yma gan Blue Seat Studios, ‘Tea and Consent‘, yn egluro caniatâd yn glir.

Mae’n hanfodol deall nad yw’n bosib i ti roi caniatâd yn gyfreithiol os wyt ti o dan 16 oed. Yn ôl y system gyfreithiol rwyt ti’n blentyn o hyd. Mae rhai pobl ifanc yn dewis cael rhyw cyn iddynt fod yn ddigon hen yn gyfreithiol, ond mae hyn yn dal i gael ei ystyried fel torri’r gyfraith. Efallai bydd yr heddlu yn dewis peidio gwneud dim yn y sefyllfa yma, ond nid all gwarantu hyn. Bydd yr heddlu bob tro’n cosbi os yw un person dan 13 oed.

Mae’n fwy nag ‘mae na yn golygu na’

Unwaith i ti ddeall caniatâd mae’n hawdd deall bod na yn golygu na. Mae’n bwysig cofio hefyd nad yw absenoldeb ‘na’ yn golygu ‘ia’! Gad i ni archwilio hyn ymhellach wrth edrych ar esiampl o ganiatâd yn fideo parodi Meic am y Dywysoges Hir Ei Chwsg (Sleeping Beauty). 

Gan fod y ferch yn cysgu nid oedd posib iddi roi caniatâd. Yng nghyd-destun ‘bywyd go iawn’, yr unig ffordd i fod yn sicr os yw rhywun eisiau cymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol ydy i sicrhau bod y person yna mewn cyflwr ble gallant ddweud “na” os ydynt yn dymuno.

Felly os nad yw rhywun yn dweud ‘na’ sut mae person yn fod i wybod os yw’r person arall ddim eisiau rhyw, neu os ydynt eisiau stopio? Mae yna arwyddion di-eiriau dylai rhywun eu hadnabod. Efallai nad ydynt yn teimlo’n gyfforddus yn dweud ‘na’ neu ‘stop’ ond byddant yn dangos hyn mewn ffordd wahanol. Efallai wrth geisio tynnu’n ôl, tynnu dwylo’r person oddi ar eu corff, crio, edrych neu ymddwyn yn ofnus neu wedi gofidio, cadw eu coesau ar gau neu geisio dianc. Er yr arwyddion di-eiriau yma, efallai bydd rhai pobl yn mynnu ei fod yn gydsyniol gan nad oedd y person wedi dweud ‘na’. Mae’n bwysig deall bod y gyfraith wedi newid; mae’r un sydd wedi’i gyhuddo bellach yn gorfod profi bod yr un sydd yn gwneud y cyhuddiad wedi cytuno i gael rhyw.

Pam bod deall caniatâd yn bwysig?

Mae’n hanfodol bod gan bawb ddealltwriaeth dda o ganiatâd. Mae hyn yn arwain at berthnasau iach a rhyw ddiogel a pleserus i bobl ifanc cydsyniol.

Gall y goblygiadau o beidio deall caniatâd fod yn ddifrifol iawn. Mae ymosodiad rhywiol a rêp yn gallu cael effaith enfawr ar y ddau ohonoch. Bydd y person sydd heb roi caniatâd yn teimlo mewn trallod ac wedi’u treisio, a bydd y person sydd heb gael caniatâd yn gallu wynebu cofnod troseddol, dirwy, gorchymyn prawf neu arhosiad yn y carchar. Gallant gael eu cofrestru fel troseddwr rhyw hefyd.

Os nad wyt ti’n sicr am deimladau dy bartner am hyn, yna siarada â nhw! Darganfod y pethau maen nhw’n gyfforddus ag ef. Sicrha dy fod di’n cael “ie” brwdfrydig cyn unrhyw weithgaredd rhywiol a pheidio gosod y person dan unrhyw bwysau. Mae parch yn bwysig ymhob perthynas, ac mae hyn yn wir gyda rhyw hefyd. Bydda’n barchus o benderfyniadau a theimladau dy bartner ac ei di ddim o’i le!

Angen gwybodaeth bellach?

Mae’r erthygl yma yn rhan o’r ymgyrch Perthnasau Iach. Os wyt ti eisiau darllen mwy am yr ymgyrch Perthnasau Iach a gweld mwy o gynnwys, gan gynnwys gwybodaeth i gefnogi profiadau pobl ifanc, clicia yma.

Os wyt ti eisiau help neu gyngor am berthnasau, neu os oes unrhyw beth arall yn dy boeni, yna cysyllta â Meic a siarad gyda chynghorydd cyfeillgar. Mae Meic yn llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth sydd yn agored o 8yb a hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos, i blant a phobl ifanc Cymru.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd