Sut i Gychwyn Sgwrs Anodd Gyda Ffrind

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Fel rhan o’r ymgyrch #TiYnHaeddu rydym wedi bod yn siarad gyda chynghorydd o’r llinell gymorth Meic. Gofynnwyd ychydig o gwestiynau i ddarganfod pa gyngor y byddant yn ei roi i berson ifanc sydd yn poeni am sut i gychwyn sgwrs anodd gyda ffrind. Dyma oedd ganddynt i ddweud.

Cafodd yr erthygl hon ei hysgrifennu fel rhan o’n Hymgyrch #TiYnHaeddu: Perthnasau Iach.
I ddarganfod mwy am yr ymgyrch clicia yma.

Os ydw i’n poeni am ffrind, a ddylwn i geisio siarad â nhw neu beidio?

Os wyt ti’n poeni am ffrind am unrhyw reswm, ac yn meddwl y gallet ti helpu, yna mae’n syniad da i siarad â nhw. Gall fod yn anodd rhannu pryderon am rywun i’w hwyneb, felly cyngor da fydda ystyried sut i gychwyn y sgwrs cyn i ti fynd ati i wneud.

Beth yw’r amser a’r lle gorau i gael sgwrs anodd?

Dylet ti feddwl pryd, ble a sut i gael y sgwrs yma. Mae’n well ceisio cael sgwrs bersonol, ac un gall fod yn boenus, mewn gofod distaw, gorau oll os yw hyn i ffwrdd oddi wrth bobl eraill. Bydd hyn yn eu helpu i deimlo mor gyfforddus â phosib ac amddiffyn eu preifatrwydd a’u hurddas.

Bydd y ffordd rwyt ti’n cychwyn y sgwrs a’r dull dewisir yn helpu dy ffrind i deimlo cefnogaeth. Os wyt ti mewn sefyllfa ble gallet ti gynllunio o flaen llaw, dyma ychydig o gyngor:

  • Gofyn am ganiatâd dy ffrind i siarad am y pryder(on) sydd gen ti. Bydd hyn yn eu helpu i deimlo rheolaeth ac nad ydynt yn cael eu gorfodi i mewn i sgwrs sensitif neu anodd.
  • Os ydy dy ffrind yn agored i’r syniad o siarad, gofynna pryd a lle fydda’n dda iddyn nhw. Gallet ti awgrymu mynd am dro – bydd gwneud rhywbeth sydd yn tynnu’r sylw yn gallu troi sgwrs anodd yn un llai dwys

Beth yw’r ffordd orau i gychwyn sgwrs gyda ffrind?

Cymera amser i feddwl am sut y byddet ti’n hoffi i ffrind gychwyn sgwrs gyda thi os byddant yn poeni amdanat ti.

Cychwynna wrth gydnabod y gall y sgwrs fod yn un anodd iddyn nhw a chynnig cysur wrth ddweud dy fod di’n parchu eu penderfyniad os nad ydynt eisiau siarad, neu os ydynt yn dewis stopio’ sgwrs ar unrhyw bwynt.

Dweud wrthynt mai yno i gefnogi yr wyt ti, nid i farnu.

Os nad yw dy ffrind yn awyddus i rannu eu pryderon, dweud y byddi di ar gael os ydynt yn newid eu meddwl.

Sut ydw i’n gallu bod yn gefnogol?

Fedri di fod yn gefnogol yn y ffyrdd canlynol:

  • Mynegi pwyntiau anodd mewn ffordd sensitif a pharchus
  • Bydd dweud dy fod di’n pryderu am eu bod nhw’n bwysig i ti yn gysur iddynt
  • Gwrando ar dy ffrind
  • Glyna at yr hyn sydd wedi gwneud i ti boeni yn hytrach nag gwneud unrhyw ddatganiadau beirniadol
  • Gofyn sut y maent yn teimlo am y sefyllfa ac os ydynt eisiau cefnogaeth neu beidio
  • Rho ofod ac amser i dy ffrind i adlewyrchu ar yr hyn y maent angen

Pa gyngor fydda ti’n ei roi i ffrind sydd yn cael trafferth?

Os yw pethau’n anodd ar dy ffrind, dyma ychydig o bethau gallet ti ei wneud neu ddweud i gynnig cyngor a’u helpu trwy’r cyfnodau anodd:

  • Rho ganmoliaeth iddynt am rannu teimladau, cydnabydda pa mor anodd yw hyn
  • Dweud pa mor bositif yw’r cam cyntaf yma i gael help i stopio, cychwyn neu newid rhywbeth sydd yn achosi problemau iddynt
  • Gofynna gwestiynau am beth maen nhw eisiau ddigwydd, a beth maen nhw’n credu bydda’n helpu cyflawni hyn
  • Os nad yw dy ffrind yn gallu meddwl am syniadau, gofyn iddynt ba gyngor y bydda nhw’n ei roi i ffrind yn yr un sefyllfa
  • Gallet ti gynnig syniadau dy hun os ydy dy ffrind yn ei chael yn anodd meddwl am sut i ddatrys problemau – y ffordd gorau i awgrymu’r rhain ydy dweud “wyt ti wedi meddwl am/efallai byddet ti eisiau” yn hytrach nag “fe ddylet ti” gan fod hynny yn rhoi’r gofod iddynt i benderfynu pa opsiynau sydd orau iddyn nhw
  • Cynnig chwilio am wybodaeth am bobl/sefydliadau i fynd atynt i gael cefnogaeth bellach, fel llinellau cymorth a gwasanaethau cwnsela

Beth os nad ydw i’n gwybod sut i ymateb a helpu pan fyddant yn dweud rhywbeth?

Os ydy dy ffrind yn dweud rhywbeth a tithau ddim yn siŵr sut i ymateb nac sut i’w cynghori, bydda’n onest am hynny a chynnig ceisio meddwl am ddatrysiad gyda’ch gilydd, neu ddarganfod rhywun arall gall helpu.

Yma ar linell gymorth Meic rydym yn derbyn galwadau gan blant a phobl ifanc sydd yn gofyn am gyngor ar sut i helpu ffrind. Gallet ti hefyd gysylltu am gyngor ar sefyllfa benodol dy ffrind. Hyd yn oed os nad oes gen ti syniadau am sut i’w helpu, bydd cynnig i fod yno a helpu i archwilio’u hopsiynau yn help enfawr.

Beth sydd yn digwydd os yw pethau yn mynd o’i le?

Os wyt ti’n poeni’n ofnadwy am ddiogelwch uniongyrchol ffrind, ceisia ddod o hyd i ofod distaw lle gallet ti fynegi dy bryderon, fel mynd tu allan neu fynd i’r toiledau er esiampl. Os nad yw dy ffrind yn ymateb i dy bryderon, ac rwyt ti’n poeni eu bod nhw mewn perygl o niwed difrifol, ceisia ddod o hyd i aelod o staff yn y lleoliad yr wyt ti, neu os wyt ti’n teimlo bod y perygl yn uchel galwa 999 i ofyn am  gymorth.

Mae’r un peth yn wir os nad wyt ti efo dy ffrind ar y pryd, ond gyda rheswm i gredu eu bod nhw mewn perygl uniongyrchol. Paid oedi i alw 999. Neu, os wyt ti’n gwybod eu bod nhw’n byw gyda phobl eraill, a bod hyn yn ddiogel i’w wneud, rho alwad iddynt i’w rhybuddio o unrhyw berygl.

Mae llawer o bobl yn teimlo’n anghyfforddus am wneud hyn heb ganiatâd y person sydd mewn perygl, ond os yw’n helpu iddynt gadw’n ddiogel yna mae’n werth gwneud. Mae’n debygol y byddant yn ddiolchgar i ti am gymryd y camau hyn yn y tymor hir, hyd yn oed os yw hyn yn cael effaith ar eich perthynas nawr. Mae’r mwyafrif o bobl yn dod i ddeall y rhesymau dros gymryd y camau cryf yma, ac mae perthynas yn gallu gwella fel arfer.

Galwa Meic

Os wyt ti angen siarad gyda Meic, am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Gallet ti alw, gyrru neges testun neu sgwrsio ar-lein rhwng 8yb a hanner nos bob dydd.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd