Mae’r Term ‘Trais ar Sail Anrhydedd’ yn Gymhleth

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Er bod llai o stereoteipio rhywiol ac o ran rhyw yn digwydd mewn cymdeithas, mae llawer o bobl yn dioddef o hyd ac mae gennym gyfrifoldeb i gefnogi’r bobl yma. 

RHYBUDD SBARDUN: Mae llawer o drafod am camdriniaeth emosiynol a chorfforol yn yr erthygl yma.
Cafodd yr erthygl hon ei hysgrifennu gan berson ifanc fel rhan o’n Hymgyrch #TiYnHaeddu: Perthnasau Iach. I ddarganfod mwy am yr ymgyrch clicia yma.

Beth yw’r ‘hyn a elwir yn drais ar sail anrhydedd’?

Tra bod sawl ffurf o gamdriniaeth sydd yn digwydd mewn perthynas sydd ddim yn iach, mae’r term ‘Yr hyn a elwir yn drais ar sail anrhydedd’ yn cyflwyno math penodol o drosedd sydd yn llai adnabyddus, ond yn gyffredin iawn o fewn cymunedau.

Mae ‘Yr hyn a elwir yn drais ar sail anrhydedd’ yn gasgliad o ymarferiadau sydd yn cynnwys camdriniaeth gorfforol (cicio a churo), pwysau seicolegol (monitro llym, codi cywilydd, brawychu, gorfodaeth), priodasau dan orfod ac wedi’u trefnu, gadawiad, a ffurfiau eraill o gamdriniaeth yn ymwneud â’r hyn sydd yn cael ei ganfod fel amddiffyn cred ac ‘anrhydedd’ diwylliannol a chrefyddol. Mae’r gair ‘canfod’ yn arwyddocaol yma wrth ddiffinio’r term gan mai canfyddiad unigolyn o’u ffydd neu ddiwylliant yw hwn yn hytrach na’r ffydd neu ddiwydiant ei hun yn ysgogi’r gamdriniaeth.

Gad i ni edrych ar esiamplau

Nid yw’r syniadau sydd yn gysylltiedig â’r gair ‘anrhydedd’ yn gysylltiol ag unrhyw ddiwylliant neu grefydd ac mae i’w weld dros y byd. Er esiampl, yn y DU, mae gennym syniadau am y dillad dylai ferched wisgo ac mae’r confensiwn yma yn esgeuluso merched yn cael eu harasio neu gam-drin am eu hedrychiad.

Mae’r term “shotgun wedding” yn cael ei ddefnyddio pan fydd teulu yn gorfodi perthnasau i briodi pan fydd merch yn feichiog. Yn anffodus, gall bobl LHDT+ brofi camdriniaeth gan berthnasau sydd yn gred bod hunaniaeth ryw neu rywioldeb y person yn codi cywilydd ar y teulu ac yn adlewyrchu’n ddrwg ar eu henw da.

Mae’n bwysig nodi bod y gair anrhydedd yn cael ei osod yn ymwybodol o fewn dyfynodau i bwysleisio’r eironi bod y fath yma o gamdriniaeth yn hollol ddianrhydeddus ac yn cael ei yrru gan yr angen i ddal pŵer a rheolaeth dros eraill.

Mae llofruddiaeth erchyll Banaz Mahmood yn amlygu’r anghyfiawnder y mae rhai merched ifanc du a lleiafrifoedd ethnig yn wynebu yn ddyddiol, ond hefyd yr angen i roi diwedd ar drais ar sail anrhydedd.

Mae Llurguniad Organau Rhywiol Merched (FGM) a Phriodasau Dan Orfod yn esiamplau o ymarferiadau niweidiol sydd yn gallu achosi niwed i rai o’r bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas, ac yn cynrychioli rhai o’r ffurfiau trymaf o gamdriniaeth hawliau dynol, ac mae angen iddo stopio.

Beth ydy FGM?

Mae Llurguniad Organau Rhywiol Merched (Female Genital Mutilation) yn tynnu, torri neu newid organau rhywiol merched am resymau sydd ddim yn feddygol. Mae llawer o ymarferiadau niweidiol yn ffitio o dan yr ymbarél yma, gan gynnwys torri’r clitoris a fflatio’r bronnau.

Mae’n ffurf o gamdriniaeth llai cyfarwydd, ond oherwydd dewrder rhai unigolion sydd wedi penderfynu siarad am eu profiadau personol, mae wedi rhoi cyfle i ni ddysgu mwy am y mater. Mae merched yn dioddef y weithred yma yn ystod cyfnodau cynnar datblygiad fel arfer, ac yn achos Leyla, dim ond 7 oed oedd hi:

Mae’n amlwg  bod y trawma cynt Leyla yn dal i gael effaith arni o ddydd i ddydd. Mae’r archwiliadau fagina, ôl-fflachiau a chael ei dal i lawr yn gorfforol, yn sicr o fod wedi gadael effaith ar Leyla ac achosi llawer o boen, emosiynol a chorfforol, iddi wrth iddi dyfu, yn addasu ei bywyd yn dilyn y llawdriniaeth.

Mae’n bwysig wrth drafod pethau fel FGM nad ydym yn tybio ein bod yn deall yr hyn mae goroeswyr wedi dioddef. Yn y fideo isod, mae grŵp o ferched wedi cael eu recordio yn trafod eu profiadau o gael eu torri, yn trafod y gorffennol ac yn chwalu’r stigma o gwmpas FGM.

Ydy priodasau dan orfod yn dal i ddigwydd?

Priodas dan orfod ydy pan fydd un, neu’r ddau ochr, yn priodi heb ganiatâd neu yn erbyn eu hewyllys. Yn y DU, mae hyn yn cael ei adnabod fel ffurf o gamdriniaeth ddomestig ac yn esiampl ddifrifol o gamdriniaeth hawliau dynol unigolyn.

Mae’r pwysau sydd yn cael ei roi ar bobl i briodi yn erbyn eu dymuniadau yn gallu digwydd mewn sawl ffurf, gan gynnwys corfforol (bygythiadau, trais corfforol neu rywiol), emosiynol (codi cywilydd ar y teulu) ac weithiau gall arian chwarae rhan yn  creu straen wrth gymryd cyflog rhywun oddi arnynt.

Llinellau Gymorth Cenedlaethol

Isod mae ychydig o linellau cymorth cenedlaethol sydd yn bwynt cyswllt dda ar unrhyw un o’r pynciau trafodwyd yn yr erthygl yma:

  1. Llinell Gymorth Byw Heb Ofn: Llinell gymorth genedlaethol 24 awr am ddim yn cael ei ddarparu gan Gymorth i Ferched a Refuge. Galw, tecstio, sgwrsio byw ac e-bost. Galwa 0808 80 10 800
  2. Domestic Violence Assist: Yn arbenigo mewn helpu mewn argyfwng i atal camdriniaeth rhag mynd yn waeth
  3. National Centre for Domestic Violence: Yn arbenigo i helpu cael gwaharddeb mewn argyfwng i atal rhywun rhag cael ei gam-drin ymhellach
  4. The Forced Marriage Unit (FMU): Mae gan yr Uned Priodas Dan Orfod llinell gymorth gyhoeddus, yn rhoi cyngor a chefnogaeth i ddioddefwyr priodasau dan orfod. Galwa: 020 7008 0151 o 9yb tan 5yh, Llun i Gwener.
  5. Meic: Meic yw’r Llinell Gymorth Genedlaethol i blant phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Mae’n llinell gymorth gyfrinachol am ddim lle gallet ti siarad â chynghorydd am unrhyw beth sydd yn dy boeni. Gallant roi gwybodaeth a chyngor i ti a helpu ti i ddarganfod yr help rwyt ti angen. Ffonio, neges testun neu sgwrs ar-lein rhwng 8yb a hanner nos bob dydd.

Gwybodaeth berthnasol

Mae’r erthygl yma yn rhan o’r ymgyrch Perthnasau Iach. Os wyt ti eisiau darllen mwy am yr ymgyrch Perthnasau Iach a gweld mwy o gynnwys, gan gynnwys gwybodaeth i gefnogi profiadau pobl ifanc, clicia yma.

Os wyt ti eisiau help neu gyngor am berthnasau, neu os oes unrhyw beth arall yn dy boeni, yna cysyllta â Meic a siarad gyda chynghorydd cyfeillgar. Mae Meic yn llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth sydd yn agored o 8yb a hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos, i blant a phobl ifanc Cymru.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd