Sbectrwm Perthnasau

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Nid yw perthnasau yn statig! Mae pob perthynas yn gallu cael ei osod ar sbectrwm o iach i ymosodol, gyda pherthynas sydd ddim yn iach yn cael ei osod rhywle yn y canol.

Cafodd yr erthygl hon ei hysgrifennu gan berson ifanc fel rhan o’n Hymgyrch #TiYnHaeddu: Perthnasau Iach.
I ddarganfod mwy am yr ymgyrch clicia yma.

Sut mae perthynas rhamantus iach yn edrych?

Mae pawb yn haeddu cael perthynas grêt gyda pharch a chariad. Bydd bod mewn perthynas bositif yn gwneud i ti a dy gariad deimlo’n arbennig, yn ddiogel, yn hyderus, yn gariadus ac yn bwysig.  I gael perthynas cryf ac iach mae angen cyfaddawd a dealltwriaeth, sydd yn gallu bod yn waith anodd. Mae’n bwysig dy fod di a dy bartner eisiau, ac yn, gwneud ymdrech. Cofia, os yw’r ddau berson yn rhoi ymdrech ac ynni positif i mewn i berthynas, yna bydd y berthynas yn un mwy positif i’r ddau ohonoch.

Gad i ni edrych ar ychydig o agweddau o berthynas iach:

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng perthnasau iach a pherthnasau sydd ddim yn iach?

Mae perthnasau sydd ddim yn iach yn gyffredin, ond nid yw arwyddion perthynas fel hyn yn amlwg bob tro.  Os wyt ti yn poeni, yn ofni neu deimlo pwysau yn dy berthynas i wneud pethau, yna nid yw hyn yn iawn. Os yw hyn yn wir i ti, efallai bod hyn yn gamdriniaeth mewn perthynas. Mae perthynas iach a chariadus wedi sefydlu ar barch nid ofn.

Gad i ni edrych ar rai ffactorau cyffredin fydda’n gallu helpu ti i asesu os wyt ti mewn perthynas iach neu beidio:

Y llinell denau rhwng perthynas sydd ddim yn iach ac un sydd yn cam-drin

Mae pob perthynas sydd yn cam-drin yn un sydd ddim yn iach, ond nid yw pob perthynas sydd ddim yn iach yn un sydd yn cam-drin. Mae’r mannau cyffwrdd rhwng y ddau fath o berthynas yn gallu cynnwys agweddau tebyg:

  • Camdriniaeth gorfforol – Nodweddion o gamdriniaeth gorfforol yw niweidio corff ar y tu allan, er esiampl, pwnsio, slapio, gwthio a chicio
  • Camdriniaeth emosiynol – Gweithrediadau sydd yn cael effaith ar y ffordd rwyt ti’n meddwl neu deimlo, er esiampl, manipiwleiddio, brawychu, gwatwar, harasio, galw enwau a ‘gaslighting’
  • Camdriniaeth ariannol – Rheoli arian partner e.e. dwyn dy arian, atal ti rhag ennill arian dy hun, gwneud i ti dalu am bopeth neu ddim caniatáu i ti gael mynediad i arian personol
  • Camdriniaeth rywiol – Cael dy orfodi neu roi pwysau arnat ti i gael rhyw neu ymddygiad rhywiol sydd ddim yn teimlo’n gyfforddus i ti. Nid yw hyn byth yn iawn ac mae’n anghyfreithiol.

Mae camdriniaeth yn gallu bod yn bwnc anodd i bobl siarad amdano gan y gallai fod yn ddryslyd ac yn anodd sylweddoli bod camdriniaeth yn digwydd i ti. Mae cael dy gam-drin mewn unrhyw ffordd yn gallu gwneud i ti deimlo ofn, unigrwydd, yn ddryslyd, cywilydd, embaras, euogrwydd a dig.

Mae llawer o bobl sydd yn cael eu cam-drin mewn perthynas yn poeni rhag iddynt gael i drafferth neu’n poeni na fydd pobl yn eu credu. Cofia, os wyt ti’n cael dy gam-drin, nid dy fai di yw hyn. Nid wyt ti’n gyfrifol am yr hyn sydd yn digwydd. Mae yna ffordd allan o’r sefyllfa bob tro a phobl gallet ti siarad â nhw, nid oes rhaid i ti gadw hyn i ti dy hun.

Sut gallaf i siarad â rhywun am fy mherthynas?

Mae gan bawb hawl i beidio cael eu cam-drin ac i gael eu hamddiffyn o gamdriniaeth, ac mae yna bobl gall helpu. Mae penderfynu dweud wrth rywun a chael help yn gam pwysig i stopio’r gamdriniaeth. Gall fod yn anodd gwneud hyn, yn enwedig gyda’r ffordd mae’n gwneud i ti deimlo, ond gall munud o ddewrder i ddweud wrth rywun atal ti rhag cael dy gam-drin eto.

Os wyt ti eisiau trafod dy berthynas gyda rhywun, mae yna ddigon o opsiynau. I gychwyn, gallet ti ddewis siarad gyda rhywun gallet ti ymddiried ynddynt, fel aelod teulu, ffrind agos, athro, gweithiwr ieuenctid, doctor, nyrs ysgol neu gymydog. Os yw’n anodd i ti siarad am yr hyn sydd yn digwydd, gallet ti ysgrifennu llythyr a siarad gyda nhw ar ôl iddynt ei ddarllen.

Os nad wyt ti’n teimlo’n gyfforddus yn siarad gydag unrhyw un, yna mae yna sefydliadau arbennig sydd yn gallu helpu pobl ifanc sydd yn cael eu cam-drin neu i helpu pobl sydd yn adnabod rhywun sydd yn cael ei gam-drin. Mae’r sefydliadau yma yno i wrando a helpu.

Gwybodaeth berthnasol

Mae’r erthygl yma yn rhan o’r ymgyrch Perthnasau Iach. Os wyt ti eisiau darllen mwy am yr ymgyrch Perthnasau Iach a gweld mwy o gynnwys, gan gynnwys gwybodaeth i gefnogi profiadau pobl ifanc, clicia yma.

Os wyt ti eisiau help neu gyngor am berthnasau, neu os oes unrhyw beth arall yn dy boeni, yna cysyllta â Meic a siarad gyda chynghorydd cyfeillgar. Mae Meic yn llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth sydd yn agored o 8yb a hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos, i blant a phobl ifanc Cymru.


Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd