Beth yw’r holl ffwdan am Secstio?

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Cafodd yr erthygl hon ei hysgrifennu fel rhan o’n Hymgyrch #TiYnHaeddu: Perthnasau Iach. I ddarganfod mwy am yr ymgyrch clicia yma.

Gyda phoblogrwydd technoleg hygyrch yn tyfu, mae secstio wedi dod yn fwy a mwy poblogaidd yn enwedig ymysg pobl ifanc. Ond wyt ti’n gwybod popeth y dylet ti am secstio? #TiYnHaeddu gwneud dewisiadau gwybodus am yr hyn rwyt ti’n ei wneud, felly sicrha dy fod di’n cadw’n ddiogel wrth ddarllen yr erthygl yma!

Beth yw secstio?

Secstio ydy pan fydd lluniau, fideos neu negeseuon o natur rywiol yn cael ei yrru i ffrindiau, partneriaid rhamantus neu bobl ddiarth ar-lein hyd yn oed. Mae secstio yn cynnwys:

  • Gyrru neu rannu lluniau a fideos ble mae’r anfonwr neu rywun arall yn rhannol, neu’n hollol noeth, yn aml yn cael ei alw’n ‘nudes’
  • Gyrru, derbyn neu rannu negeseuon testun, e-byst neu nodiadau llais o natur rywiol
  • Perfformio gweithred rywiol ar ddarllediad byw, gwe-gamera neu alwad fideo

Mae secstio yn gyfreithiol i oedolion dros 18 oed, ond mae’n anghyfreithlon rhannu’r delweddau yma heb ganiatâd yr anfonwr. Os wyt ti o dan 18 oed, mae’n anghyfreithlon anfon, derbyn neu rannu cynnwys rhywiol gan gynnwys negeseuon testun, e-byst, lluniau a fideos.

Ydw i’n cael gofyn i rywun secstio?

Os wyt ti’n archwilio dy rywioldeb neu mewn perthynas, efallai bydd temtasiwn i ofyn i rywun anfon secst neu lun noeth. Ond mae’n bwysig meddwl sut fydd y person sydd yn derbyn y cais yma yn teimlo. Os wyt ti’n awyddus i archwilio secstio, sicrha dy fod di’n ystyried y pethau yma gyntaf:

  • Oedran – Mae’n anghyfreithlon gofyn i rywun dan 18 oed i anfon lluniau noeth, hyd yn oed os wyt ti o dan 18 hefyd.
  • Teimladau – Mae rhywun yn gofyn am secst neu lun noeth yn gallu gwneud i rywun boeni, deimlo’n ofnus neu’n anghyfforddus. Meddwl sut byddet ti’n teimlo os byddai rhywun yn dy annog di i wneud rhywbeth nad wyt ti’n gyfforddus ag ef.
  • Peryglon – Gall gofyn i rywun secstio wneud iddynt deimlo’n anghyfforddus neu’n ofidus, a gall hyn gael effaith ar eich perthynas. Pan fyddi di’n secstio, unwaith i ti anfon y neges yna rwyt ti wedi colli rheolaeth ohono, wyddost ti ddim pwy arall fydd yn gweld y neges yna.

Beth yw peryglon secstio?

Mae yna lawer o beryglon pan ddaw at secstio. Ar ôl anfon neges, fideo neu ddelwedd, mae’r anfonwr wedi colli rheolaeth ar beth sydd yn digwydd iddo wedyn. Cofia, gall y pethau yma ddigwydd:

  • Gall yr anfonwr neu’r derbynnydd gael ei arestio a’i gyhuddo. Mae secstio dan 18 oed yn anghyfreithlon. Mae hyn yn cynnwys gyrru lluniau neu fideos ohonot ti a’u hanfon ymlaen at eraill
  • Mae’r person sydd yn derbyn y neges yn gallu ei ddangos a’i yrru ymlaen i unrhyw un
  • Gellir defnyddio’r negeseuon i fwlio neu ddial. Gall pobl ddefnyddio lluniau, fideos, nodiadau llais a negeseuon i frifo neu godi cywilydd ar yr anfonwr
  • Efallai bydd ffrindiau yn dewis peidio cymdeithasu gyda’r anfonwr neu ddim yn awyddus i fod yn gysylltiedig â nhw mwyach
  • Gallai’r person sydd yn derbyn y neges faniwpiwleiddio, blacmelio ac ecsbloetio’r anfonwr

Pam bod pobl yn secstio?

Er gwaethaf y peryglon, mae yna lawer o resymau pam bod secstio yn dod yn fwy cyffredin ymysg pobl ifanc. Gad i ni edrych ar rai o’r rhesymau bod pobl yn secstio:

“Dyma’r norm” – Yn aml, mae pobl yn meddwl bod secstio yn gyffredin a bod pawb yn ei wneud. Maen nhw’n teimlo bod angen iddyn nhw wneud hefyd.

“Mae’n bleserus” – Mae rhai pobl yn meddwl bod secstio yn ffordd hwyl i archwilio rhywioldeb ar-lein

“Mae’n rhoi hyder i mi” – Mae rhai pobl yn meddwl bod secstio yn gwneud iddynt deimlo’n fwy hapus am eu corff ac yn rhoi hwb o hyder iddyn nhw. Efallai eu bod yn hoff o’r sylw maent yn ei gael yn syth ar ôl gyrru llun, fideo neu neges.

“Roeddwn i’n teimlo bod rhaid i mi” – Gellir annog neu roi pwysau ar bobl i secstio, yn enwedig pan fydd yn cynnwys lluniau a fideos rhywiol. Cofia, dylai secstio fod yn rhywbeth mae dau berson dros 18 oed yn cytuno iddo. Dyma sut mae pwysau i yrru ‘nudes’ yn gallu edrych:

  • Poeni na fyddant yn dy hoffi os nad wyt ti’n gwneud
  • Gofyn drosodd a throsodd i rywun gymryd rhan
  • Gwneud i rywun deimlo’n euog
  • Cael dy alw’n enwau fel ‘oer’ neu ‘frigid’
  • Cynnig prynu anrhegion neu anfon arian

Beth ydw i’n gwneud os ydw i’n teimlo dan bwysau i secstio?

Mae angen i secstio fod yn benderfyniad cydsyniol rhwng pobl dros 18 oed. Nid yw’n dderbyniol i rywun roi pwysau arnat ti i secstio. Os yw rhywun yn gyrru negeseuon yn gofyn am luniau noeth drwy’r adeg, neu’n gyrru negeseuon, lluniau neu fideos anaddas, mae posib cadw’n ddiogel wrth flocio a riportio.

Os nad wyt ti’n hapus i wneud hyn am dy fod di mewn perthynas â’r person yma, ceisio egluro’r ffordd rwyt ti’n teimlo. Rhan o fod mewn perthynas iach ydy gallu cyfathrebu dy deimladau’n agored heb deimlo ofn na phoeni.

Er bod rhai pobl yn dweud eu bod yn secstio, efallai nad yw hyn yn wir bob tro. Cofia, ni fydd ffrind neu bartner da yn gwneud i ti wneud rhywbeth sydd yn gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus.

Beth alla i wneud os ydw i wedi rhannu llun noeth?

Os wyt ti wedi bod yn secstio ac yn poeni am beth allai fod wedi digwydd, mae yna ychydig o bethau gallet ti ei wneud:

  • Gofyn iddynt ddileu’r neges – Esbonia iddynt nad wyt ti’n gyfforddus gyda nhw’n cadw’r llun, fideo neu neges, a gofyn iddynt ei ddileu.
  • Anwybydda bygythiadau – Os wyt ti’n cael dy fygwth neu flacmelio, paid ymateb a phaid gyrru mwy o luniau. Gall fod yn frawychus iawn, ond mae’n ffordd i helpu ti i gadw rheolaeth.
  • Siarada gyda rhywun rwyt ti’n gallu ymddiried ynddynt – Gall siarad gyda rhywun am secstio fod yn beth ofnus, yn enwedig os wyt ti’n cael dy fygwth. Ond, mae yna bobl gall gefnogi a helpu. Mae’n dda siarad.
  • Riportia’r digwyddiad i CEOP – Os wyt ti o dan 18 oed ac yn poeni neu’n cael dy fygwth, yna adrodd hyn i CEOP. Nid yw llunio adroddiad yn gyfrinachol ond mae’n golygu y gallant helpu i atal yr hyn sy’n digwydd.
  • Chwilio am help gyda dy deimladau – Nid dy fai di ydyw os yw rhywun yn rhannu llun noeth ohonot neu’n dy fygwth. Os yw ymdopi gyda hyn yn anodd neu os nad wyt ti’n gwybod beth i’w wneud, cysyllta ag un o’r gwasanaethau isod.

Angen cyngor?

Os wyt ti eisiau gwybodaeth, arweiniad a chefnogaeth bellach am secstio, cer draw i weld y dolenni defnyddiol yma:

  • THINKUKNOW   – Mae THINKUKNOW yn rhannu llawer o wybodaeth am amddiffyn plant a phobl ifanc ar-lein ac all-lein
  • CEOP– Os wyt ti’n poeni am gamdriniaeth rywiol ar-lein neu’r ffordd mae rhywun wedi bod yn cysylltu gyda thi ar-lein, riportia hyn i CEOP.
  • ZipIt – Os wyt ti’n hapus i fflyrtio dros neges testun ond mae rhywbeth yn  mynd yn rhy bell ac yn gwneud i ti deimlo’n anghyfforddus, efallai gall ZipIt helpu. Mae ZipIt yn app am ddim wedi’i greu gan ChildLine gellir ei lawrlwytho o’r siop Google Play neu’r App Store. Mae’n gallu helpu symud y sgwrs yn ôl i un o fflyrtio os yw rhywun yn ceisio ei symud i secstio. Defnyddia’r GIF’s sydd ar gael yn yr app ZipIt i gadw rheolaeth ar y sefyllfa.

Gwybodaeth bellach?

Mae’r erthygl yma yn rhan o’r ymgyrch Perthnasau Iach. Os wyt ti eisiau darllen mwy am yr ymgyrch Perthnasau Iach a gweld mwy o gynnwys, gan gynnwys gwybodaeth i gefnogi profiadau pobl ifanc, clicia yma.

Os wyt ti eisiau help neu gyngor am berthnasau, neu os oes unrhyw beth arall yn dy boeni, yna cysyllta â Meic a siarad gyda chynghorydd cyfeillgar. Mae Meic yn llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth sydd yn agored o 8yb a hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos, i blant a phobl ifanc Cymru.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd