Mae gan Gyngor Caerdydd gefnogaeth ac arweiniad i bobl ifanc 16-24 oed yn gymorth i benderfynu ar gamau yn y dyfodol.
Mae meddwl am y dyfodol yn gallu bod yn anodd…
Gall meddwl am y dyfodol godi ofn arnat ti fel person ifanc.
Mae cwestiynau fel ‘beth wyt ti eisiau gwneud pan fyddi di’n hŷn?” neu “wyt ti eisiau mynd i’r brifysgol?” yn gallu bod yn gyffrous ond yn anodd ei ateb hefyd. Mae yna cymaint o lwybrau gellir eu cymryd fel y gallai fod yn anodd iawn dod i benderfyniad am dy opsiynau ar hyn sydd orau i ti.
Sut ydw i’n gallu cael help i benderfynu beth nesaf?
Mae’r safle newydd ar wefan Cyngor Caerdydd yn tynnu gwybodaeth ddefnyddiol at ei gilydd i helpu pobl ifanc i benderfynu beth nesaf yn eu bywydau.
Mae wedi cael ei ddisgrifio fel “un lleoliad ar gyfer gwybodaeth addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a gwirfoddoli” gan ei fod yn tynnu llawer o wahanol wybodaeth at ei gilydd fydd yn gymorth i bobl ifanc wrth benderfynu’r camau nesaf.
Ei fwriad yw helpu’r rhai sydd yn ystyried eu camau nesaf i deimlo’n fwy hyderus a gwneud penderfyniadau sydd yn gywir iddyn nhw yn haws ac yn fwy sydyn.
Pam bod y platfform wedi cael ei greu?
Mae’r safle wedi cael ei greu fel rhan o gynlluniau adfer economaidd ôl-pandemig y ddinas, sydd yn cynnwys canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc gall fod wedi’u heffeithio’n negyddol yn y byr a’r hir dymor o ganlyn swyddi yn cael eu colli yn y ddinas a’r ardal ehangach oherwydd COVID-19.
Datblygwyd y safle gan Addewid Caerdydd – cynllun y Cyngor sydd yn tynnu’r cyhoedd, y trydydd sector a’r sector breifat ynghyd gydag ysgolion a darparwyr addysg, i gysylltu plant a phobl ifanc gyda’r amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael ym myd addysg hyfforddiant a gwaith.
Dywedai’r Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet Dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: “Bydd y platfform Beth Nesaf? yn cefnogi pobl ifanc gyda digon o wybodaeth ac arweiniad wrth iddynt ystyried opsiynau’r dyfodol a helpu codi uchelgeisiau mewn cyfnod lle gall sawl un deimlo’n ansicr ac yn bryderus am effaith y pandemig ar eu dyfodol.“
Mae yna nifer maith o gyfleoedd gwahanol yn y ddinas ac mae’r safle newydd yma yn bwriadu cyfeirio pobl ifanc at y cyfleoedd yma, bod hynny’n parhau mewn addysg yn y Chweched Dosbarth, dilyn cwrs yn y coleg, prifysgol, profiad gwaith, swydd dan hyfforddiant, cynlluniau graddedigion, prentisiaethau a mwy. Mae yna adran am gychwyn busnes dy hun hefyd.
“Rydym yn awyddus mai hwn fydd ‘y lle i fynd’ i holl bobl ifanc wrth iddynt ystyried ‘beth nesaf?’”
Pa mor aml bydd y safle yn cael ei ddiweddaru?
Bydd diweddariadau rheolaidd yn digwydd ar y safle newydd, a bydd yn parhau i gael ei ddatblygu dros amser wrth i fwy a mwy o ddarpariaethau a chyfleoedd ymddangos. Mae Addewid Caerdydd yn gweithio’n agos gyda Phrifddinas Rhanbarth Caerdydd i roi gwybodaeth i bobl ifanc ar gyfleoedd mewn sectorau sydd yn tyfu a’r sgiliau a’r cymwysterau fydd ei angen ar gyfer y swyddi yma yn y dyfodol.
Gwybodaeth Berthnasol
Cer draw i dudalennau gwybodaeth TheSprout am wybodaeth bellach a chyngor ar y camau nesaf ar gyfer dy ddyfodol: