Prentisiaethau

Mae prentisiaeth yn ffordd i ennill cyflog a gweithio ynghyd â staff profiadol i gael sgiliau sydd yn benodol i’r swydd.

Mae bod yn brentis yn golygu bod gen ti swydd sydd yn cynnwys ennill cymwysterau cydnabyddedig a sgiliau hanfodol tra rwyt ti’n gweithio ac yn cael cyflog

This image has an empty alt attribute; its file name is Apprentice-1024x1024.png

Gwasanaethau Cenedlaethol

Gyrfa Cymru – Os wyt ti’n chwilio am brentisiaeth, mae posib chwilio am gyfleoedd a gwneud cais ar-lein trwy Gyrfa Cymru. Gall unrhyw un dros 16 oed, sydd yn byw yng Nghymru a ddim mewn addysg llawn amser, wneud cais.

Prentisiaethau Llywodraeth Cymru – Chwilio a gwneud cais am brentisiaethau.

ACT: Prentisiaethau Gwag – Chwilia trwy’r holl brentisiaethau gan filoedd o ddarparwyr fel byrddau iechyd Cymru a chyngor Casnewydd.

NotGoingToUni – Rhestr o ddewisiadau gwahanol i fynd i’r Brifysgol, gan gynnwys prentisiaethau.

UCAS – Gwefan addysg uwch a gyrfaoedd, gydag adran prentisiaethau defnyddiol.

Meic – Llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth sydd yn cefnogi gydag unrhyw beth. Cysyllta yn ddyddiol o 8yb tan hanner nos ar: Rhadffôn (080880 23456), Neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein.

This image has an empty alt attribute; its file name is Apprentice-2-1024x1024.png

Apiau Defnyddiol

Apprentices – App wedi ei greu gan findApprenticeships.co.uk, gwefan arweiniol y DU ar gyfer swyddi fel prentis. Chwilia am brentisiaethau agos neu bell yn y DU.

This image has an empty alt attribute; its file name is Apprentice-1-1024x1024.png

Blogiau a Chanllawiau

Apprenticeships – The Mix

The benefits of doing an apprenticeship – Fish 4 Jobs

The Pros & Cons of Apprenticeships – Career Addict

Fideos

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd