“Mae ffeminist yn berson sydd yn credu yng ngrym merch cymaint ag y maent yn credu yng ngrym unrhyw un arall” – Zendaya
Manylion yr ymgyrch
Mae Y Dyfodol Ffeministaidd yn ymgyrch pythefnos o hyd rhwng 7fed-18fed Mehefin. Mae’r ymgyrch wedi cael ei greu ar gyfer theSprout mewn cydweithrediad â phobl ifanc sydd yn rhan o Greawdwyr Ifanc Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd.
Daeth y syniad am yr ymgyrch Y Dyfodol Ffeministaidd o sgyrsiau gyda phobl ifanc yn ystod diflaniad a llofruddiaeth Sarah Everard yn fis Mawrth 2021. Yn sgil y digwyddiadau yma, roedd llawer o sylw ar ddiogelwch merched yn y cyfryngau cymdeithasol a’r cyfryngau. Cafwyd cwestiynau fel ‘pam cerdded o gwmpas ar ben ei hun yn y nos?’ a ‘beth oedd hi’n gwisgo?’ yn ceisio gwneud synnwyr o’r digwyddiadau hunllefus. Mae’n deg iawn dweud bod sylwadau o’r fath yn peri prydermawr.
Yn sgil hyn, daeth pobl ifanc o Gaerdydd at ei gilydd i drafod pynciau perthnasol pwysig fel hawliau merched, grymuso, diogelwch a chydraddoldeb (equality). Roedd y grŵp yn gweithio â’i gilydd i greu cynnwys ar gyfer yr ymgyrch – Y Dyfodol Ffeministaidd, i godi ymwybyddiaeth o’r materion sydd yn dal i wynebu merched hyd heddiw, ac i ymgyrchu am newid!
Beth sydd i ddod yn yr ymgyrch?
I gadw’n ddiweddar gyda’r cynnwys, ymwela â’r Sprout bob dydd a dilyn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ar Facebook, Twitter ac Instagram i gael dy atgoffa am gynnwys newydd. Os fyddet ti’n hoffi bod yn rhan o’r sgwrs, defnyddia’r hashnod #DyfodolFfemnistaidd a rhannu’r cynnwys o’r ymgyrch.
Dyma ellir ei ddisgwyl yn yr ymgyrch:
- Y Dyfodol Ffeministaidd
- Taflu Goleuni ar Ferched: HalaCG
- Taflu Goleuni ar Ferched: Kamala Harris
- Beth Yw Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau
- Taflu Goleuni ar Ferched: Malala Yousafzai
- Taclo’r Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau
- Taflu Goleuni ar Ferched: Kathleen Hanna
- Taflu Goleuni ar Ferched: Jan Morris
- Merched Mwslimaidd a’r Benwisg yn y Cyfryngau
- Taflu Goleuni ar Ferched: Florence Given
- Taflu Goleuni ar Ferched: Irina Sebrova
- Prydferthwch yn Llygaid y Ffilter Instagram
- Taflu Goleuni ar Ferched: Demi Lovato
- Taflu Goleuni ar Ferched: Betty Campbell
Gyda phwy ydw i’n gallu siarad am faterion sydd yn cael effaith ar ferched?
Gall y pwnc yma gynnwys pynciau sensitif iawn am hawliau a diogelwch merched. Dyma wybodaeth gyswllt ddefnyddiol i wasanaethau gellir cael mynediad atynt am unrhyw beth sydd yn rhan o’r ymgyrch:
Meic – Mae Meic yn llinell gymorth eiriolaeth, gwybodaeth a chyngor i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Gellir cysylltu ar y ffôn, tecstio neu sgwrsio ar y we o 8yb tan hanner nos, 365 diwrnod y flwyddyn.
Byw Heb Ofn – Os wyt ti, aelod o’r teulu, ffrind, neu rywun rwyt ti’n pryderu amdanynt, wedi profi camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol, gellir cysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, am gyngor a chefnogaeth am ddim neu i siarad am dy opsiynau.
Galop – Llinell gymorth Camdriniaeth Ddomestig Lesbiaid, Hoyw, Deurywiol a Traws.
Cymru Ddiogelach – Elusen annibynnol sydd â’r dasg o gefnogi, amddiffyn a grymuso grwpiau o bobl sydd yn aml yn anweledig mewn cymdeithas.