Beth Yw Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau?

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Y Dyfodol Ffeministaidd. Mae’n trafod beth yw bwlch cyflog rhwng y rhywiau ac agweddau pobl ifanc yng Nghaerdydd tuag ato. Mae hwn yn rhan un o erthygl dau ddarn.

Beth yw bwlch cyflog rhwng y rhywiau?

Mae bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn mesur y gwahaniaeth rhwng cyfartaledd cyflog awr dynion a merched. Mae’n fesurydd da o anghydraddoldeb (inequality) pan ddaw at fynediad i waith, gwobrau a symud ymlaen yn dy yrfa.

Beth yw barn pobl ifanc Caerdydd am y bwlch cyflog rhwng y rhywiau?

Dyma ofynnodd TheSprout, a dyma oedd barn gychwynnol y bobl ifanc:

This image has an empty alt attribute; its file name is Screenshot-2021-05-20-at-11.52.07-1024x575.png

Fel y gwelir o’r Jamboard uchod, roedd y mwyafrif o bobl ifanc yn diffinio’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau fel dynion yn cael mwy o dâl nag merched am yr un swydd. Soniwyd bod dynion yn cael mwy o hawliau a chyfleoedd yn y gweithle yn aml o gymharu â merched.

Roedd gweithio yn y meysydd STEM yn cael ei ddefnyddio fel esiampl i amlygu diwydiant sydd â mwy o ddynion ynddi. Mae’n talu’n dda iawn ond mae llai o ferched yn gweithio yn y maes yma.

Trafodwyd anghydraddoldebau hanesyddol fel dibyniaeth merched ar ddynion ar gyfer adnoddau fel arian. Gan edrych ar y sefyllfa heddiw, mae merched yn llawer mwy tebygol o weithio YN OGYSTAL Â bod y prif/unig un sydd yn gofalu am eu plant, er y bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Rhannodd rhai o’r bobl ifanc eu teimladau o dristwch, dig a diflastod tuag at y bwlch cyflog rhwng y rhywiau a pa mor “anghywir” ydyw.

I archwilio’r blwch cyflog ymhellach, gwyliom y fideo uchod am sut mae Gwlad yr Iâ yn ceisio brwydro yn erbyn y bwlch cyflog. Ar ôl gwylio, rhannodd y bobl ifanc eu hatebion i’r cwestiynau canlynol:

  • Ydy’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn deg? Pam?
  • A ddylai talu pob swydd yr un peth? Pam?
  • Yn dy farn di, pwy sydd fwyaf cyfrifol am wneud gwahaniaeth i’r bwlch cyflog?
  • Beth ellir ei wneud i ymladd y bwlch cyflog?

Bydd ymateb y ddau gwestiwn cyntaf yn cael ei drafod yn yr erthygl yma. Clicia yma i ddarllen am y ddau olaf.

Ydy’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn deg? Pam?

Roedd pob un o’r bobl ifanc yn teimlo bod y bwlch cyflog yn annheg. Nid yw rhyw rywun yn ddigon o reswm i wahaniaethu tâl:

‘Na, nid yw dy ryw yn cael effaith ar ba mor dda wyt ti’n gwneud pethau; dim ond pa mor dda mae pobl yn meddwl wyt ti.’ – Dylan

—–

‘Nid yw’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi bod yn deg o’r cychwyn cyntaf. Dylai incwm gael ei benderfynu ar y gwaith rwyt ti wedi’i wneud ac nid am y fraint sydd yn cael ei osod ar rywiau penodol.’ – Lewis

—–

‘Na, nid yw’r ffaith dy fod di wedi cael dy eni yn ryw wahanol yn diffinio pa mor dda wyt ti yn dy waith.’ – Ava

—–

‘Nid yw’n gosod esiampl dda i genhedloedd iau os wyt ti’n barnu llyfr yn ôl ei glawr.’ – Eshaan

This image has an empty alt attribute; its file name is Gender-Pay-Gap-Pt-1-2-e1621966646955-1024x857.png

“Talu yn ôl sgiliau”

Roedd rhai o’r bobl ifanc yn awgrymu y dylid talu pobl yn wahanol – ond yn ôl ffactorau gwahanol fel cynhyrchiant, yn hytrach nag rhyw:

‘Dylid talu pobl yn ôl sgiliau, profiad ac addysg yn hytrach nag rhyw.’ – Hal

—–

‘Rwy’n credu’n gryf y dylid canmol pobl ar eu sgiliau a thalent ac nid ar eu rhyw. Mae pawb yn gyfartal.’ – Hajer

—–

‘Na, os yw merched a dynion yn gwneud yr un swydd fe ddylid derbyn yr un cyflog. Dylid penderfynu tâl ar sgiliau yn hytrach nag hunaniaeth.’ – Hana

Roedd Tomos wedi meddwl am gyfatebiaeth i geisio gwneud synnwyr o anghyfiawnder y bwlch cyflog ac anghydraddoldeb rhyw. Cymharodd ef â saws coch:

‘Mae Smart Price yn gwneud y gwaith cystal! Nid yw’r ffaith bod gan fotel o saws coch sticer ffansi arno yn golygu bod y cynnwys yn llai gwerthfawr. Mae’r un peth yn wir am ferched yn y gweithle. Nid ydynt yn llai gweithgar nag dynion. Fe ddylid talu eu gwerth yn eu cyflog.’ – Tomos

This image has an empty alt attribute; its file name is Gender-Pay-Gap-Pt-1-3-1024x1024.png

“Nid yw’n deg”

Bu rhai o’r bobl ifanc yn edrych yn fwy manwl ar y mater ac yn trafod, nid yn unig pam bod y bwlch cyflog yn annheg, ond pam ei fod yn niweidiol i’n cymdeithas:

“Nid yw’r bwlch cyflog yn deg gan ei fod yn gwahaniaethu merched ac yn ffafrio dynion. Mae’r ddau ryw yn rhoi ffydd lawn yn y gweithle a’r ffordd mae’n cael ei redeg, felly os yw un rhyw yn cael mwy o dâl nag rhyw arall, mae’n gallu achosi gwrthdaro ac anghytuno yn y gweithle.’ – Samar

—–

‘Mae’r blwch cyflog rhwng y rhywiau yn ddrwg i’r economi byd-eang (ni allem fforddio i’r economi waethygu yn ystod, ac yn dilyn, y pandemig yma).’ – Eshaan

—–

‘Mae merched yn gorfod gweithio lot yn ystod y dydd, yn enwedig os ydynt yn famau sengl sydd angen gofalu am bobl eraill. Os yw merched yn cael llai o dâl, efallai bydd ymdopi’n ariannol yn anodd ac ni allant ddarparu ar gyfer eu teulu.’ – Samar

This image has an empty alt attribute; its file name is Gender-Pay-Gap-Pt-1-4-1024x1024.png

A ddylai talu pob swydd yr un peth? Pam?

Er bod yr holl bobl ifanc yn credu na ddylid gwahaniaethu cyflog o ran rhyw, roedd y mwyafrif o’r bobl ifanc yn awgrymu dylid talu swyddi yn wahanol. Roedd hyn yn ddibynnol ar sawl ffactor, fel cyfrifoldeb a lefel addysg:

‘Dylid talu yn ôl ansawdd a swm y gwaith caled sydd wedi cael ei roi i mewn i bob eiliad yn y gwaith.’ – Eshaan

—–

‘Na, ni ddylai cael tâl gwahanol am wahanol swyddi. Er esiampl, dylid talu mwy i ddoctoriaid/nyrsys nag i rywun sydd yn gweithio mewn siop. Fel doctor rwyt ti angen mynd i’r coleg a dysgu mwy o stwff.’ – Ava

—–

‘Dylid talu swyddi yn ôl lefelau cyfrifoldeb a straen ar y gweithiwr, yn ogystal ag ansawdd eu gwaith, yn hytrach nag rhyw.’ – Hal

This image has an empty alt attribute; its file name is Gender-Pay-Gap-Pt-1-5-e1621967201569-1024x922.png

“Tâl cyfartal a hawliau cyfartal”

Roedd y mwyafrif o’r bobl ifanc yn teimlo bod talu gweithwyr yn wahanol yn ddibynnol ar gyfrifoldebau eu swydd yn fwy teg nag talu pawb yr un peth. Ond mae gwahaniaethu tâl rhwng y rhywiau os ydynt yn gwneud yr un gwaith yn annheg:

‘Ni ddylid talu pob swydd yr un peth gan fod rhai yn gwneud mwy i’r gymdeithas ac mae angen mwy o ymdrech. Ond fe ddylai talu’r un peth i bobl sydd yn gwneud yr un swydd.’ – Dylan

Ond dywedodd un person ifanc bod talu pobl yn wahanol yn ôl y swydd yn annheg hefyd:

‘Fe ddylai pawb gael tâl a hawliau cyfartal; gallem roi diwedd ar lygredd a chwant (corruption & greed) sydd yn rhemp yng nghymdeithas fodern.’ – Dienw

“Incwm sylfaenol cyffredinol”

Roedd rhai o’r bobl ifanc yn awgrymu bod y gwahaniaeth cyflog rhwng swyddi yn ddealladwy. Ond bod angen ei leihau gan fod pob swydd yn fuddiol beth bynnag yw’r lefel o addysg:

‘Nid wyf yn credu y dylid talu pob swydd yr un peth. Ond rwy’n credu na ddylai’r gwahaniaeth rhwng swyddi fod mor ddrastig ag y mae. Ar ddiwedd y dydd, mae’r mwyafrif o swyddi yno i fuddio cymdeithas mewn rhyw ffordd.’ – Dienw

—–

‘Ni ddylid talu’r un peth i bob swydd, gan nad ydynt o werth cyfartal i bobl arferol. Ond, fe ddylai cael Incwm Sylfaenol Cyffredinol i sicrhau bod neb yn llithro drwy’r rhwyd. Gall unrhyw gyflog ar gyfer swyddi ddod yn ychwanegol i hyn wedyn.’ – Tomos

Cynnwys Perthnasol

Rydym wedi clywed beth sydd gan pobl ifanc Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd i’w ddweud am y bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Yn rhan 2 cawn glywed beth maen nhw’n ei feddwl am sut i daclo’r bwlch cyflog yma ar gyfer dyfodol ffeministaidd. Clicia yma i weld mwy o gynnwys ymgyrch #YDyfodolFfeministaidd.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd