Prydferthwch yn Llygaid y Ffilter Instagram

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Y Dyfodol Ffeministaidd. Mae’n trafod y dylanwad mae’r cyfryngau yn ei gael ar ferched ifanc, syniadau am beth sy’n digwydd pan fydd pobl ifanc ddim yn cydymffurfio i safonau prydferthwch, a pwy sydd yn gyfrifol am wneud gwahaniaeth.

Beth yw delwedd corff?

Delwedd corff yw’r ffordd yr ydym yn meddwl ac yn teimlo am ein corff. Gall llawer o bethau ddylanwadu ar ein delwedd corff, fel teulu, ffrindiau, diwylliant, cyfryngau a phrofiadau blaenorol.

Yn aml mae’r bai yn cael ei roi ar y cyfryngau, fel teledu a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, fel yr achos mwyaf o ddelwedd corff gwael gan eu bod yn annog ac yn cyhoeddi cyrff wedi’u golygu i’r eithaf, sydd yn afrealistig ac yn amhosib.

Gall fod yn anodd derbyn weithiau nad yw’r person sydd ar y sgrin fawr, ein ffonau, neu mewn cylchgronau, yn wir cynrychioli’r ffordd mae person yn edrych mewn bywyd ‘go iawn’. Hyd yn oed os ydym yn deall hyn, gall fod yn anodd iawn i beidio cymharu dy hun i’r delweddau ar naratif rydym yn ei weld bob dydd!

Beth mae pobl ifanc Caerdydd yn ei feddwl am y safonau prydferthwch yn y cyfryngau?

Mae’r blog yma yn rhannu’r hyn ofynnodd theSprout i bobl ifanc, a barn rhai o’r grŵp Creawdwyr Ifanc o Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd. Dyma ofynnwyd:

  • Sut mae’r teledu a chyfryngau cymdeithasol yn dylanwadu ar ddelwedd y corff?
  • Beth sydd yn gwneud i bobl feddwl bod rhaid edrych ffordd benodol?
  • Beth sydd yn digwydd os nad yw merched yn cydymffurfio i safonau prydferthwch?
  • Sut gallem ni gefnogi merched a hyrwyddo delwedd corff positif/caru dy hun?
  • Pwy sydd yn gyfrifol am hyn?

Sut mae’r teledu a chyfryngau cymdeithasol yn dylanwadu ar ddelwedd y corff, a beth sydd yn gwneud i bobl feddwl bod rhaid edrych ffordd benodol?

Trafodwyd rôl golygu lluniau yn y cyfryngau fel un o’r prif ffyrdd mae teledu a chyfryngau cymdeithasol yn gallu dylanwadu problemau delwedd y corff ymysg pobl ifanc:

“Yn aml, mae lluniau wedi cael eu golygu. Mae pobl eisiau edrych fel ‘pobl’ eraill, ond mae hyn yn amhosib mewn gwirionedd”

AR —

“Rwy’n credu bod llawer o bobl enwog yn defnyddio Photoshop ac ati ac mae hynny’n gwneud i bobl feddwl bod angen iddyn nhw edrych fel yna hefyd”

Ava —

“Mae’r cyfryngau yn hyrwyddo safonau prydferthwch afrealistig fel ffigwr ‘hourglass’ a’r ‘thigh gap’. Yn aml, mae delweddau modeli wedi cael eu golygu er mwyn portreadu’r corff perffaith, ond nid dyma realiti”

Hal —

Mae hyrwyddo safonau prydferthwch afrealistig yn y cyfryngau yn mynd y tu hwnt i olygu lluniau, ond roedd hwn yn un ffordd o roi pwysau ar bobl i deimlo fel bod rhaid iddynt edrych ac ymddwyn mewn ffordd benodol:

“Mae llawer gormod o raglenni ar y teledu yn ymwneud ag edrych yn dda, fel cystadlaethau colur a ffitrwydd ac ati. Mae’r rhain yn rhoi pwysau ar bobl i ymddwyn mewn ffordd benodol er mwyn ychwanegu i’w hedrychiad”

Tomos —

“Mae’r cyfryngau yn hyrwyddo arferion sydd ddim yn iach a diwylliant o ddiet sydd yn niweidiol i bobl ifanc gan eu bod yn meddwl bod rhaid dilyn yn ddall yr hyn sydd yn digwydd”

Anhysbys —

“Rydym yn cael ein cyflyru i feddwl bod rhaid edrych fel model, er nid yw’r modeli yn edrych fel model eu hunain mewn gwirionedd!”

Hallie —
This image has an empty alt attribute; its file name is BEAUTY-IS-IN-THE-EYE-OF-THE...-INSTAGRAM-FILTER-1-1024x1024.png

Aeth un person ymhellach a defnyddio Bydysawd Sinematig Marvel (MCU) fel esiampl o sut mae’r cyfryngau yn dylanwadu ar ddelwedd y corff i bawb, gan arwain at iechyd meddwl gwael:

“Mae hyper-rywioli dynion a merched yn digwydd – yn enwedig yn y ffilmiau MCU gorau, wrth roi steroidau at y cyhyrau ac ati. Er bod MCU yn cael llawer o ffans fel fi, maent yn cyfrannu at waethygu iechyd meddwl pobl sydd ddim yn edrych ar gyfryngau yn feirniadol”

Rheswm bosib dros hyn yw bod y cyfryngau yn blaenoriaethu elw dros iechyd meddwl a chynrychiolaeth gywir o gyrff pobl:

“Prif ffynhonnell incwm teledu ydy rhaglenni corff a cholur”

Logan —

Beth sydd yn digwydd os nad yw merched yn cydymffurfio i safonau prydferthwch?

Roedd consensws cryf ymysg y bobl ifanc bod cymdeithas yn codi cywilydd ac yn gwawdio merched sydd ddim yn cydymffurfio i safonau prydferthwch cymdeithas, ac yn gwneud iddynt deimlo’n ddrwg am eu cyrff. Gall hyn arwain at hunan barch isel gan fod ‘gofalu am dy edrychiad yn ôl safonau cymdeithas’ yn cael ei weld fel ymgorfforiad o brydferthwch merched.

“Mae merched yn gweld lluniau ar gyfryngau cymdeithasol ac yn meddwl bod rhaid cyrraedd y safonau yma sydd wedyn yn arwain at bobl eraill yn codi cywilydd arnynt ac yn gwneud iddynt deimlo’n ddrwg am eu hedrychiad a’u corff”

Ava —

“Weithiau mae yna farn bod y rhai sydd yn ceisio torri’r ymddygiad yma a pheidio cydymffurfio i gorff neu edrychiad delfrydol cymdeithas, yn cael eu hystyried yn ‘llai nag’ gan ferched a dynion”

Anhysbys —

“Mae merched sydd ddim yn cydymffurfio i safonau delwedd y corff yn cael eu hystyried yn llai benywaidd, bron fel petai fenyweidd-dra yn cael ei ddiffinio gan y disgwyliad afrealistig yma o brydferthwch merch”

Hal —

“Mae gan aelodau cymdeithas, dynion yn enwedig, ddisgwyliadau enfawr o ferched sy’n gallu arwain at sefyllfaoedd o gamdriniaeth pan fydd merched ddim yn cyrraedd y ‘disgwyliadau’ yma”

Tomos —
This image has an empty alt attribute; its file name is BEAUTY-IS-IN-THE-EYE-OF-THE...-INSTAGRAM-FILTER-3-1024x1024.png

Awgrymodd un person ifanc bod yna ganlyniadau pa un ai wyt ti’n cydymffurfio i safonau prydferthwch neu ddim:

“Mae merched yn gallu cael eu bwlio, codi cywilydd a cham-drin am beidio cydymffurfio i safonau prydferthwch, ond os ydyn nhw, maent yn aml yn cael eu gor-rywioli. Nid oes posib ennill!”

Hallie —

Awgrymodd person ifanc arall bod unrhyw ganlyniadau o beidio cydymffurfio yn ymwneud â chymdeithas, yn hytrach na phroblem fewnol. Iddo ef, nid yw gwir brydferthwch ar y tu allan nac wedi’u selio ar safonau prydferthwch arferol

“Nid yw’n ddiwedd y byd, er bydd eraill yn meddwl ei fod o. Nid oes diffiniad cywir o brydferthwch. Mae prydferthwch yn y galon, y meddwl a’r cymeriad”

Eshaan —

Sut gallem ni gefnogi merched a hyrwyddo delwedd corff positif a charu dy hun, a pwy sydd yn gyfrifol am hyn?

Awgrymodd un person ifanc nad yw’r cyfryngau yn rhoi cynrychiolaeth onest o’r ffordd mae pobl ‘go iawn’ yn edrych, neu sut maent yn ymddwyn mewn cymdeithas.

“Ymhob ffilm bron, mae’r lodes mewn loes yn ferch gwallt melyn maint 8, ac mae gan yr arwr 6-pac ac wyneb perffaith wedi’i siafio’n lân. Mae angen troi’r cymeriadau yma ar ei ben a chael merch ‘fat cat’ a bachgen mewn trallod”

Tomos —

Roedd person ifanc arall wedi gofyn a gallai llwyfannau cyfryngau cymdeithasol wneud mwy i helpu pobl ddeall y gwahaniaethau rhwng realiti a delweddau ffug o bobl sydd wedi’u golygu:

“A yw’n rhy radicalaidd gofyn i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel Instagram labelu’r pethau sydd wedi cael eu golygu? Weithiau, mae angen syniadau radicalaidd i sicrhau newid”

Halyna —

Awgrymwyd hefyd bod angen rhoi cyfrifoldeb ar y llywodraeth i greu polisi i daclo safonau prydferthwch sydd ddim yn iach:

“Mae llywodraethau yn gyfrifol am greu polisi i wneud newidiadau arwyddocaol ar draws y cyfryngau i sicrhau nad yw safonau prydferthwch afrealistig yn cael eu dangos”

Anhysbys —

Gall sefydliadau addysgiadol, fel ysgolion, colegau, chweched dosbarth a phrifysgolion, helpu i addysgu pobl ifanc am ddelwedd y corff, safonau prydferthwch, hunan-barch, a’r gwahaniaeth rhwng yr hyn sydd yn wir a’r hyn sydd yn ffug:

“Gall sefydliadau addysgol helpu pobl ifanc i ddeall peryglon y cyfryngau a thudalennau cymdeithasol i helpu pobl i ddeall yr hyn sydd yn ffug!”

Anhysbys —

Mae gan bobl mewn cymdeithas, fel ti a fi, gyfrifoldeb hefyd i drin eraill gyda charedigrwydd a pharch, ac i beidio cymharu ein gilydd i’r safonau uchel, anghyraeddadwy yma:

“Trwy beidio codi cywilydd ar ferched am eu hedrychiad a phethau eraill nad allent ei reoli”

Ava —

Gwybodaeth berthnasol  

Am wybodaeth bellach am y grŵp ymgyrchu, ac i ddarllen mwy o gynnwys yr ymgyrch Y Dyfodol Ffeministaidd, clica yma.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd