Cyngor Ar Sut i Leihau Dy Ddefnydd o Blastig

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r wythnos hon yn Wythnos Forol Genedlaethol, wedi’i drefnu gan The Wildlife Trust, dathliad o bopeth morol. Mae’r erthygl hon yn un o gyfres o erthyglau yn edrych ar faterion morol yr wythnos hon (dolenni i’r erthyglau eraill isod). Mae plastig yn ein moroedd yn broblem enfawr felly edrychwn ar ffyrdd i leihau dy ddefnydd o blastig.

(Ymddangosodd yr erthygl hon ar wefan Meic yn wreiddiol ar 17.7.20)

Hyd yn oed pan ellir ei ailgylchu neu gompostio, mae plastig un-defnydd yn gadael ôl-troed carbon enfawr yn ei gynhyrchiad a’i ailgylchu – hyn i gyd ar gyfer cynnyrch defnyddir unwaith! Os wyt ti eisiau bod yn fwy ymwybodol yn amgylcheddol yna dyma 6 awgrym i leihau dy ddefnydd o blastig un-defnydd:

Gwrthod y gwelltyn!

Wyt ti wir angen gwelltyn (straw) i yfed dy ddiod? Efallai bod gan rai pobl reswm da am fod angen gwelltyn, ond nid dyma’r gwir i’r mwyafrif ohonom. Meddylia faint o ddefnydd gwneir o’r gwelltyn yna cyn ei daflu. Ydy o werth hynny? Coda’r gwydryn a sipian yn lle sugno, ac os wyt ti’n gorfod defnyddio gwelltyn beth am gario un metel neu bren gyda thi?

Defnyddio potel neu gwpan ailddefnyddiadwy

Mae rhai siopau coffi yn cynnig paneidiau rhatach os wyt ti’n defnyddio cwpan dy hun felly rwyt ti’n arbed arian yn ogystal â’r blaned – gwych de? Mae posib cael rhai eithaf ‘snazzy’ hefyd, a gellir eu prynu yn eithaf rhad mewn siopau bargen.

Cario bag siopa dy hun

Sefyllfa wych arall, ble gellir osgoi talu’r ffi bagiau yn y siopau wrth ddefnyddio bag dy hun. Paid defnyddio’r esgus “nes i anghofio”. Caria un ysgafn sydd yn plygu’n fach yn dy fag neu boced drwy’r adeg ac yna byddi di’n barod bob tro. Efallai bod rhai siopau yn rhoi bagiau papur, ond wyt ti erioed wedi bod mewn cawod gyda bag papur llawn? Dwi wedi – ddim yn olygfa bert iawn!

Pryna ffrwythau a llysiau yn rhydd

Gall fod yn rhatach i brynu ffrwythau a llysiau yn rhydd yn hytrach nag mewn pecyn plastig. Efallai bod yr archfarchnad yn cynnig bagiau papur brown, gallet ti ddefnyddio bocs neu fag dy hun o’r tŷ, neu fynd â nhw i’r cownter yn rhydd.

Ail-lenwi neu swmp-brynnu

Cer i siop dim gwastraff gyda boteli dy hun a’u llenwi gyda chynnyrch glanhau a stwff ymolchi. Byddi di yn lleihau dy ddefnydd o blastig, ac os wyt ti’n cael boteli pert byddant yn edrych yn ddel iawn yn dy dŷ di hefyd. Os nad oes siop dim gwastraff cyfagos, neu os nad allet ti fforddio gwneud hyn, yna ceisia swmp-brynnu yn lle. Er nad yw hyn yn ddelfrydol, mae swmp-brynnu yn defnyddio llai o blastig yn hytrach nag sawl botel bach. Fel arfer, mae’n rhatach i brynnu cynnyrch fel swmp hefyd.

Problemau llygredd Covid-19

Mae yna broblemau enfawr gyda masgiau, menig a weips yn llygru’r strydoedd, llynnoedd a’r moroedd yn ystod y pandemig Covid-19. Ond sut mae osgoi hyn? Nid oes angen menig mewn gwirionedd, heblaw dy fod di’n gweithio mewn gwasanaeth iechyd neu ofal. Nid yw defnyddio menig yn atal rhywun rhag cyffwrdd pethau eraill, y wyneb ac ati. Golchi dy ddwylo’n dda gyda sebon a dŵr yw’r peth gorau. Pryna fasg ailddefnyddiadwy sydd yn gallu cael ei olchi (os nad wyt ti’n gweithio yn y maes iechyd). Bydd hyn yn rhatach yn y pendraw nag defnyddio rhai tafladwy. Mae yna ddyluniadau gwych i’w cael hefyd a gallet ti gael un sydd yn cyd-fynd â dy bersonoliaeth a steil. Y cyngor ydy i gael masg tair haen.

Felly wyt ti’n derbyn yr her o leihau defnyddio plastig un-defnydd? Cer amdani!

Mwy o ddarllen

Mae’r wythnos hon yn Wythnos Forol Genedlaethol, wedi’i drefnu gan The Wildlife Trust. Mae plastig yn ein moroedd yn broblem enfawr felly edrychwn ar ffyrdd i leihau dy ddefnydd o blastig.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd