Llwyddo Yn Y Brifysgol: Dod yn Ddewin y Darlithoedd

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Edrych ymlaen at fynd i’r brifysgol? Mae’n debyg dy fod di! Ond cofia am y darn pwysicaf: yr addysg!

Dyma awgrymiadau defnyddiol y Sprout i gadw sylw, dal gwybodaeth a chael y radd gyntaf yna!

Darllen: yr hwyl gorau gallet ti ei gael yn y gwely (yn ôl y ddelwedd stoc yma).

Gwna’r darllen bob tro

Nid oes dim gwaeth nag eistedd mewn darlith neu seminar wedi diflasu’n llwyr am nad oes gen ti unrhyw glem am yr hyn mae’r darlithydd yn sôn amdano! Ac yn waeth fyth, fedri di ddim dangos pa mor ddiflas ydyw, ac i osgoi pechu’r darlithydd fedri di ddim cyfaddef nad wyt ti wedi gwneud y darllen. Rhaid osgoi dal ei lygaid a gobeithio nad yw’n gofyn cwestiwn i ti….

I osgoi’r hunllef yma dylid clustnodi amser darllen yn y dyddiadur neu’r calendr , a meddwl am dy amser yn y llyfrgell fel swydd. Mae ychydig o waith caled yn darllen drwy Arwyddocâd Cymdeithasol-economaidd o Werthusiad Diflas Risg III yn dy arbed di rhag llosgi allan wrth ddarllen Cyflwyniad i Ddarlleniadau Cyfoes Critigol yfory.

Mae’r cyflwyniad mor bell, mae’n llawer haws gweld beth mae’r bachgen o’m mlaen yn ‘sgwennu ar y Sprout.

Cer yn analog, plîs!

Mae llawer o ddarlithwyr yn darparu allbrint o’r cyflwyniad – neu mae posib argraffu dy hun o flaen llaw. Mae i’w weld ar y sgrin fawr o dy flaen di hefyd, felly pam bod pobl yn dod a gliniaduron i ddarlithoedd?

Ceisia beidio bod y person yna sydd yn eistedd gyda’i liniadur o flaen pawb, yn fflicio rhwng y tabiau, yn chwarae ychydig o Curvefever, diweddaru Tumblr, prynu tocyn awyren i’r gap yah. Mae hwn yn sicr o wylltio’r rhai y tu ôl i ti, yn ceisio rhoi sylw i’r  ddarlith ond dy arferion pori penwan di yn tynnu sylw yn lle hynny.

Hefyd: os wyt ti’n defnyddio beiro a phapur traddodiadol i gymryd nodiadau, dangosai astudiaethau  bod ysgrifennu yn hytrach na theipio yn helpu ti i gadw gwybodaeth i mewn. Felly mae’n well i ti, ac i bawb sydd o gwmpas.

Hefyd yn helpu ti i weld yn y tywyllwch.

Gofala’r diet…

Dyw diet ansawdd isel traddodiadol myfyrwyr yn dda i ddim. Ddim yn dda i’r croen, i’r siâp… neu’r ymennydd hyd yn oed.

Newyddion da: mae bwyd i’r ymennydd yn eithaf rhad. Mae hyn yn cynnwys brocoli, siocled tywyll a physgod olewog.

Dylai cyfuno diet da gydag ymarfer corff a phatrwm cysgu da i wella’r gallu i ganolbwyntio.

Am hyfryd?

Gwna gopi clir o dy nodiadau!

Os nad wyt ti’n ffodus iawn (neu ddim, yn dibynnu ar dy safbwynt) ni fyddi di’n cael llawer o “oriau cyswllt” bob wythnos (sef darlithoedd, seminarau ac ati). Byddi di wedi gwneud nodiadau brys ac wedi anghofio popeth amdanynt ar ôl i ti fynd i’r gwaith/gampfa/adref/tafarn/darlith nesaf. Dyw’r myfyrwyr gorau ddim yn taflu’r llyfr nodiadau i un ochr… o nac ydy… maen nhw’n ei daflu i’r afon – jôc! Na, mae’n syniad da i ti anodi tudalen iawn o nodiadau (mae posib gwneud hyn ar y cyfrifiadur hyd yn oed) i’w croesgyfeirio yn erbyn y cyflwyniad Powerpoint. Fel hyn, mae posib cael cyfres o nodiadau twt fydd yn hanfodol pan ddaw at yr arholiadau, bydd popeth yn gwneud synnwyr i ti wrth ddod yn ôl ato.

Paid dioddef ar ben dy hun

Cymhara dy nodiadau

Efallai nad yw cyfathrebu gyda dy ffrindiau ar yr un cwrs yn weithgaredd gwamal wedi’r cwbl. Gall cymharu nodiadau gyda dy ffrindiau fod yn rhywbeth gwerthfawr iawn. Cei weld pa rannau o’r ddarlith oedd o ddiddordeb penodol iddyn nhw a’i hychwanegu i dy nodiadau, a gallan nhw wneud yr un peth gyda dy nodiadau di. Mae pawb yn buddio, ac mae’n ffordd dda i dorri’r ia yn y dafarn yn y nos (neu efallai mai dim ond fi sydd yn teimlo fel yna!).

 

Addysg

Edrych ymlaen at fynd i’r brifysgol? Dyma awgrymiadau defnyddiol y Sprout i gadw sylw, cadw gwybodaeth i mewn a chael y radd gyntaf yna yn y Brifysgol.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd