Pethau Rhad ac Am Ddim i Wneud yng Nghaerdydd 22-28 Tachwedd

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Weli di’r dyddiad? 22-28 Tach! Mae hyn yn golygu bod yna fis i fynd cyn yr wythnos sydd yn cynnwys y Nadolig! Rhywun arall yn dechrau cyffroi?

Beth wyt ti’n edrych ymlaen ato? Gweld dy deulu? Cynhesu a chael yn glud ac ychydig o amser i ffwrdd o’r gwaith a’r ysgol? Ddim yn poeni am orfod mynd allan am ddyddiau, heblaw am fynd am dro i’r parc efallai? Bwyta gormod? Anrhegion efallai? Na, tybiaf nad oes neb sy’n darllen hwn yn edrych ymlaen am anrhegion, byddai hynny’n wirion…

Mae dy Sprout lleol yma i roi ychydig o anrhegion buan i ti. Dyma i ti anrheg o ychydig ddigwyddiadau rhad ac/neu am ddim sydd wedi dod i’n sylw.

Y digwyddiad mawr i gofio amdano’r wythnos hon (nid rhad ond gallai gael effaith ar deithio) ydy gêm rygbi: Cymru yn erbyn De Affrica ar ddydd Sadwrn 24 Tach, 5:20yh yn Stadiwm y Principality.

Sglefrio allfrig Gŵyl y Gaeaf

Neuadd Dinas Caerdydd – £7

Nid oes rhaid i’r sglefrio iâ yng Ngŵyl y Gaeaf Caerdydd dorri’r banc. Gall rhai dan 15 oed a myfyrwyr fynd i sglefrio ar yr iâ am gyn lleied â £7 ar adegau distawach wrth archebu ar-lein. Ond dyw sglefrio iâ ddim yn hawdd!!!

Taith tu ôl-dref yn y CMC

Boreau’r penwythnosau – Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru – £7

Wyddost ti fod Canolfan y Mileniwm yn cynnig teithiau tu ôl i’r llwyfan? Cyfle i weld popeth nad wyt ti’n cael y cyfle i’w weld fel arfer – gweld beth sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni mewn sioeau enwog fel Wicked, neu rhai llai adnabyddus ond yr un mor wych fel Tuck? Archeba yma.

Cynhadledd Cymdeithas Cyhoeddiadau Myfyrwyr (SPA) Cymru

24 Tach – Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd – £6

Mae ein ffrindiau draw yng Nghyfryngau Myfyrwyr Caerdydd yn cynnal  Cynhadledd Cymru Cymdeithas Cyhoeddiadau Myfyrwyr. Bydd yn gyfle i gyfarfod â myfyrwyr sy’n newyddiadurwyr llwyddiannus a newyddiadurwyr go iawn hefyd, gan gynnwys Anna Lewis, cyn golygydd newyddion Gair Rhydd a gohebydd presennol WalesOnline. Tocynnau ar gael yma.

Ignite Caerdydd #37

28 Tach 6.30yh – Glee Club, Bae Caerdydd – Am ddim

Tania’r angerdd ar gyfer rhywbeth hollol ar hap gyda chyfres o bobl ysbrydoledig yn siarad ar wib. Mae’n debyg y bydd gohebydd cerddoriaeth y Sprout, Sophie, yn siarad am sut bu’r Arctic Monkeys yn help iddi drechu pryder. Tocynnau yma.

Small Fry

28 Tach – Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru – Talu faint yr hoffet

Yn addo “Rhyw, Sêls a Sosej Rôls”, mae hwn yn edrych fel tipyn o gelf perfformio gŵyl yn y Ganolfan. Mae’n astudiaeth o fywyd merch ifanc, gan ddefnyddio ei rhywioldeb yn ei gwaith ar Heol y Frenhines a thu hwnt i’w gwaith hefyd. Gorau oll, tala faint yr hoffet.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd