A Ddylai Llywodraeth Cymru Wahardd Plastig Untro?

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r wythnos hon yn Wythnos Forol Genedlaethol, wedi’i drefnu gan The Wildlife Trust, dathliad o bopeth morol. Mae’r erthygl hon yn un o gyfres o erthyglau yn edrych ar faterion morol yr wythnos hon (dolenni i’r erthyglau eraill isod). Heddiw, edrychwn ar ymgynghoriad newydd gan Lywodraeth Cymru yn edrych ar leihau plastig untro, problem enfawr i fywyd morol yn fyd eang.

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad yn gofyn am farn pobl ar leihau’r defnydd plastig un defnydd diangen. Maent yn edrych ar sicrhau bod polisïau yn cael eu creu i leihau’r sbwriel plastig yn y cefnforoedd a dibyniaeth y cyhoedd ar blastig untro.

Clicia yma i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad

Catastroffig

Mae plastig untro yn broblem catastroffig i’n cefnforoedd a bywyd morol. Mae’r Marine Conservation Society (sydd yn gefnogol iawn o’r ymgynghoriad yma) wedi bod yn cadw cofnod o’r broblem blastig untro ar draethau Cymru ers bron i 30 mlynedd. Plastig yw’r eitemau mwyaf cyffredin i’w darganfod ar draethau Cymru yn ystod y Great British Beach Clean. Ar gyfartaledd, dyma’r niferoedd o eitemau cafodd eu darganfod i bob 100m o draethau Cymru (tua hyd un cae pêl-droed):

  • 162 darn o blastig bach (darnau wedi torri oddi ar eitemau mwy rhan amlaf)
  • 32 stwmp sigarét (sydd yn cynnwys plastig)
  • 20 pecyn bwyd

Ban ar blastig

Mae’r ymgynghoriad yma yn edrych ar leihau’r defnydd o eitemau sydd eisoes wedi’u gwahardd o ardaloedd eraill y DU, fel ffon wlân cotwm, tröydd a gwelltyn plastig, yn ogystal ag eitemau ychwanegol fel platiau, cyllyll a ffyrc a chynhwysyddion bwyd a diod polystyren. Mae Llywodraeth Cymru yn awgrymu gwahardd cynnyrch oxo-ddiraddiadwy, sydd yn golygu bod rhaid defnyddio cynnyrch sydd yn gallu cael ei ailgylchu.

“Mae’n newyddion gwych,” meddai Gill Bell, Pennaeth Cadwraeth yng Nghymru yn y Marine Conservation Society.

“Mae angen i ni symud at economi ailddefnyddiadwy sydd yn grêt i’r blaned, yn ogystal â helpu creu swyddi newydd sydd yn cyfrannu at adferiad gwyrdd yng Nghymru. Mae cwmnïoedd wedi bod yn cynhyrchu plastig untro am flynyddoedd ac mae’n difetha ein traethau.”

Mynd ymhellach

Mae’r Marine Conservation Society yn gobeithio mai’r ymgynghoriad yma fydd y cyntaf o sawl mesur i leihau gwastraff yng Nghymru. Gosod gwaharddiad ar bob eitem untro diangen, plastig neu beidio, sydd yn allweddol i leihau llygredd yn y moroedd ymhellach. Byddai’r Marine Conservation Society yn hoffi gweld Llywodraeth Cymru yn bod yn fwy uchelgeisiol ac yn edrych ar ofyn i gwmnïoedd dalu tuag at gostau glanhau eu cynnyrch oddi ar y traethau, sydd yn debygol o ddod yn gyffredin yn Ewrop.

Pan fydd yr ymgynghoriad yn cau, bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r atebion i ddatblygu deddfwriaeth. Fel pobl ifanc, mae dy farn di yn bwysig, felly sicrha dy fod di’n dweud dy ddweud yma: Lleihau Plastig Untro Yng Nghymru

Mwy o ddarllen

Mae’r wythnos hon yn Wythnos Forol Genedlaethol, wedi’i drefnu gan The Wildlife Trust. Heddiw, edrychwn ar ymgynghoriad newydd gan Lywodraeth Cymru yn edrych ar leihau plastig untro, problem enfawr i fywyd morol yn fyd eang.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd