Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn 2022

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r 18fed o Fai yn ddiwrnod pan fydd Urdd Gobaith Cymru, y symudiad Ieuenctid Cymraeg, yn rhannu neges o Heddwch ac Ewyllys Da bob blwyddyn i uno plant y byd.

Hanes y neges

Cychwynnodd yn 1922 pan ysgrifennwyd y Neges Heddwch ac Ewyllys Da cyntaf gan blant Cymru. Rhannodd y Parch Gwilym Davies, o Gwm Rhymni, y neges gyntaf yma gyda’r byd gan ddefnyddio Morse Code, gyda’r bwriad o uno plant y byd. Y neges y flwyddyn honno oedd:

Dymuniad, yn dilyn colledion enbyd y Rhyfel Mawr, na “fydd raid i neb ohonom, pan awn yn hŷn, ddangos ein cariad tuag at wlad ein genedigaeth trwy gasáu a lladd y naill y llall”.

Neges Heddwch ac Ewyllys Da gan Gwilym Davies, 1922

Cafodd y neges ei darlledu am y tro cyntaf ar Wasanaeth Byd y BBC yn 1924. Heddiw mae’n cael ei gyfieithu i sawl iaith ac yn cael ei rannu’n eang o amgylch y byd gan rannu’r neges ar-lein.

Mae’r Urdd wedi bod yn gyfrifol am rannu Neges Heddwch ac Ewyllys Da newydd wedi’i ysgrifennu gan bobl ifanc Cymru bob blwyddyn ers 1955. Mae’r neges yn cael ei rhannu’n flynyddol ar y 18fed o Fai, sef dyddiad y gynhadledd heddwch cyntaf yn yr Hag yn 1899.

Y neges yn newid o flwyddyn i flwyddyn

Dros y blynyddoedd, mae’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da wedi newid yn ôl yr hyn mae pobl ifanc Cymru yn teimlo sydd yn bwysig. Mae negeseuon y gorffennol wedi cynnwys y bom atomig, ffoaduriaid, tlodi, rhyfel, trais a chynhesu byd-eang.

Heddiw, mae’r neges Heddwch ac Ewyllys da yn cael ei chyfieithu i sawl iaith ac yn cael ei rhannu’n eang ar draws y byd, diolch i’r rhyngrwyd. Ei fwriad yw ysbrydoli plant a phobl ifanc i greu byd yr hoffant dyfu i fyny ynddi.

Neges 2022

2022 yw canmlwyddiant y Neges Heddwch ac Ewyllys Da, sydd yn golygu ei fod wedi cychwyn 100 mlynedd yn ôl!

Eleni, mae’r neges yn canolbwyntio ar y thema argyfwng hinsawdd. Cafodd ei greu mewn partneriaeth â’r Urdd gan grŵp o fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth.

Mae’r neges yn alwad gan blant a phobl ifanc Cymru i holl bobl ifanc y byd i ddefnyddio’u llais a galw ar lywodraethau a chorfforaethau mawr y byd i weithredu ar frys i achub ein planed.

Cymera ran

I gael gwybod y diweddaraf, dilyna @Urdd ar Twitter, Urdd Gobaith Cymru ar Facebook, a @UrddGobaithCymru ar Instagram.

Gallet ti ddefnyddio #Heddwch100 ar gyfryngau cymdeithasol hefyd, i rannu’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da ac ymuno yn y sgwrs.

Gwybodaeth berthnasol

Cer draw i weld rhai o’r lluniau hanesyddol sydd yn ymwneud â negeseuon Heddwch ac Ewyllys Da’r gorffennol.

Eisiau gwneud mwy i helpu gyda’r argyfwng hinsawdd? Cer draw i dudalen gwybodaeth Amgylchedd theSprout.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd