Eich Teimladau Am Y Pandemig Coronafeirws

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Yn ôl yn fis Mai eleni, cwpl o fisoedd i mewn i’r cyfyngiadau Covid-19, roedd 24,000 o blant a phobl ifanc Cymru yn rhan o ymgynghoriad i ddarganfod sut roeddent yn teimlo. Mae adroddiad wedi cael ei greu o’r atebion, gelwir yn ‘Coronafeirws a Fi‘. Rydym am edrych ar ffigyrau diddorol o’r adroddiad.

Datblygwyd yr ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru, Comisiynydd Plant Cymru, Senedd Ieuenctid Cymru a Phlant yng Nghymru. Gofynnwyd i rai 3 i 18 oed yng Nghymru i lenwi arolwg, gan roi cyfle i chi fynegi’r ffordd roeddech chi’n teimlo. Yn yr erthygl yma, rydym yn edrych ar atebion oedran 12-18 yn benodol, cyfanswm o 11,002 o bobl ifanc.

Poeni?

Un o’r cwestiynau gofynnwyd oedd ‘Sut wyt ti wedi bod yn teimlo yn ystod Argyfwng y Coronafeirws?’

  • Hapus – roedd 50% ohonoch yn dweud eich bod yn teimlo’n hapus y rhan fwyaf o’r amser; 40% peth o’r amser a 10% ddim yn aml iawn
  • Pryderus – roedd 14% ohonoch yn dweud eich bod yn teimlo’n bryderus y rhan fwyaf o’r amser; 41% peth o’r amser a 44% ddim yn aml iawn
  • Trist – roedd 16% ohonoch yn dweud eich bod yn teimlo’n drist y rhan fwyaf o’r amser; 41% peth o’r amser a 43% ddim yn aml iawn
  • Diogel – roedd 78% ohonoch yn dweud eich bod yn teimlo’n ddiogel y rhan fwyaf o’r amser; 18% peth o’r amser a 4% ddim yn aml iawn

Mae’n beth da bod y mwyafrif ohonoch yn teimlo’n hapus ac yn ddiogel. Y pethau oedd yn cael yr effaith fwyaf ar eich teimladau oedd methu treulio amser gyda ffrindiau (72%), ddim yn gallu gweld aelodau teulu (59%) ac ysgolion a cholegau yn cau (42%).

Iechyd Emosiynol a Meddyliol

Roedd pobl yn poeni bod y cyfyngiadau Coronafeirws yn mynd i gael effaith negyddol ar iechyd meddwl pobl. Roedd yr arolwg yn gofyn a oeddech chi’n hapus yn gofyn am gefnogaeth iechyd emosiynol neu feddyliol gan y bobl ganlynol:

  • Ffrindiau neu deulu- 83%
  • Cyfryngau cymdeithasol neu wefan – 53%
  • Athrawon neu staff arall yr ysgol – 53%
  • Doctor – 52%
  • Tîm Iechyd Meddwl- 43%
  • Cynghorwr Ysgol – 39%

Gan fod y mwyafrif ohonoch adref gyda’ch teulu, mae’n grêt bod 83% yn teimlo’n hyderus yn gofyn iddynt am help gan mai nhw yw’r rhai hawsaf i chi ofyn iddynt yn y cyfnod yma. I’r rhai oedd ddim yn hyderus yn gofyn am help teulu roedd yr arolwg yn ddefnyddiol i roi opsiynau eraill o gefnogaeth gellir mynd atynt.

Addysg

I’r mwyafrif ohonoch, un o’r pethau roedd y pandemig yn cael yr effaith mwyaf arno yn eich bywydau oedd y ffaith bod rhaid cau ysgolion a cholegau. Roedd arholiadau wedi’u canslo, rhai ddim yn cael profi wythnosau diwethaf erioed yn yr ysgol, colli allan ar ddawns diwedd flwyddyn a bywyd yn symud i ddysgu ar-lein,

Yn yr arolwg, roeddech yn cael dewis pa frawddegau oedd yn wir i chi. Gellir dewis cymaint ag yr hoffech. Dyma oedd y 5 uchaf:

  • Dwi’n poeni am gwympo tu ôl gyda fy addysg – 54%
  • Dwi’n drist ar golli cyfleoedd roeddwn i’n edrych ymlaen atyn nhw – 53%
  • Dwi’n poeni ar sut gallai hyn effeithio ar fy nghanlyniadau arholiad – 52%
  • Does gen i ddim cymhelliad i wneud gwaith ysgol gartref – 48%
  • Dwi’n poeni am ddechrau ysgol newydd neu flwyddyn newydd ym mis Medi – 30%

Roedd llawer eisiau mwy o gyswllt a chymorth gan yr ysgol, gyda nifer eisiau gwersi dros fideo. Roedd rhai ohonoch yn cael trafferth gweithio o adref gan fod rhieni yn gweithio ac roeddech chi angen mwy o gefnogaeth.

Arholiadau

Dan amgylchiadau arferol, os fydda rywun yn dweud nad oes rhaid sefyll arholiad, mae’n debyg byddech chi’n hapus am hyn. Ond mae tynnu’r hawl yma i ffwrdd mor sydyn yn ystod y pandemig yn golygu bod rhai ohonoch yn ansicr sut i deimlo am y peth. Dyma sut roeddech chi’n teimlo am ganslo’r arholiadau:

  • Ansicr – 50%
  • Pryderus – 18%
  • Hapus – 17%
  • Crac – 6%
  • Trist – 5%
  • Arall – 4%

Ar ôl yr holl waith roedd yn sefyllfa od iawn i chi fod ynddi ac roedd rhai ohonoch yn poeni am y graddau byddai’r athrawon yn ei roi ac os fyddech chi’n cael yr hyn roeddech chi ei angen i fynd i’r brifysgol.

Gwybodaeth

Roedd yr arolwg yn holi o ble roeddech chi’n cael eich gwybodaeth am y Coronafeirws, ac roedd posib dewis mwy nag un ffynhonnell. Y prif atebion oedd:

  • Teledu – 71%
  • Rhieni neu deulu – 70%
  • Postiadau ar gyfrifon newyddion cyfryngau cymdeithasol – 48%
  • Gwefannau newyddion neu apiau – 48%

Ymlacio

Roedd gorfod aros yn y tŷ yn rhoi digon o amser i ni ymlacio, ac roedd hyn yn cael ei ategu gyda’ch atebion i’r cwestiwn os oeddech chi’n ymlacio fwy neu’n llai aml ers i’r ysgolion gau.

  • 61% – Ymlacio mwy
  • 22% – Tua’r un peth
  • 16% – Ymlacio llai

Roedd y mwyafrif ohonoch yn dweud eich bod wedi bod yn siarad gyda ffrindiau ar-lein ac yn ymarfer corff. Roedd darllen, gwylio’r teledu a threulio amser gyda theulu hefyd yn ymddangos yn aml.

———-

Tra bod y mwyafrif ohonoch ddim wedi’ch effeithio’n negyddol yn ystod y cloi mawr, roedd pethau yn anodd iawn i rai ohonoch. Efallai eich bod wedi colli rhywun agos yn y cyfnod yma. Gallech chi fod yn teimlo’n drist neu’n bryderus, ddim yn gallu ymlacio, ddim yn gallu cael mynediad i’ch cefnogaeth iechyd meddwl neu emosiynol arferol neu fod gwaith ysgol/coleg yn ymdrech neu’n poeni am fethu arholiadau.

Bydd Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yn defnyddio canlyniadau’r arolwg yma i helpu gyda gwneud penderfyniadau, a sicrhau eu bod yn gwrando ar eich llais wrth ddatblygu gwasanaethau neu bolisïau yn y dyfodol.

Eisiau darllen yr ymgynghoriad lawn, neu fersiwn byrrach gyda symbolau hawdd i’w darllen? Maen nhw ar gael yma.

Edrycha ar ein tudalennau Coronafeirws.

Yn edrych ar ffigyrau diddorol o’r adroddiad ‘Coronafeirws a Fi’, ymgynghoriad gyda 24,000 o blant a phobl ifanc Cymru am eu teimladau am y pandemig.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd