Fel rhan o’r ymgyrch Chwareus Nid Amheus, mae Yasmin, 16 oed, wedi rhannu ei barn am iechyd rhyw a pherthnasau ac wedi siarad am ei phrofiad yn cael mynediad i gefnogaeth SHOT: Y Gwasanaeth Perthnasau Iach.
Derbyn cymorth
Mae’n bwysig i fod yn wybodus oherwydd gall beidio gwybod pethau am ryw a pherthnasau iach effeithio dy fywyd yn y pen draw. Gall hefyd effeithio’r ffordd rwyt ti’n gweld dy hun fel person, er enghraifft, efallai dy fod di mewn perthynas gwenwynig heb wybod, neu heb wybod sut i gael help.
Paid â chadw popeth i dy hun
Gall llawer o bethau effeithio’r ffordd rwyt ti’n teimlo am ryw a pherthnasau, fel delwedd corff, argraff pobl eraill ohonot ti, a’r pethau mae’r bobl o dy gwmpas yn ei wneud.
Os wyt ti’n cadw pryderon, meddyliau a chwestiynau i dy hun, gall hyn ddod yn ormod, ac arwain at hunan-niweidio a sefyllfaoedd eraill.
Mae’n bwysig i siarad â rhywun a pheidio bod ofn cael dy farnu. Rydw i’n falch i wybod fod yna wastad rhywun yno i siarad yn SHOT.
Cynyddu hyder a gwybodaeth
Yn yr ysgol, dydyn ni heb gael llawer o sesiynau am iechyd rhyw. Yn y sesiynau yma gyda SHOT, rydw i wedi dysgu pethau na fyddwn i byth wedi cael fy nysgu (yn yr ysgol). Gall gwybodaeth anghywir neu ddiffyg gwybodaeth am ryw a pherthnasau effeithio ar dy iechyd corfforol a meddyliol, felly mae’n bwysig i’w gael yn gywir.
Mae cael cymorth a chyfle i siarad am berthnasau ac iechyd rhyw wedi fy nysgu sut i ddelio efo gwahanol sefyllfaoedd ac wedi cynyddu fy hyder a sut dwi’n teimlo am fy hun. Mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn, a byddaf yn parhau i gofio’r hyn dwi wedi dysgu.
Gwybodaeth berthnasol
Eisiau mwy o’r ymgyrch Chwareus Nid Amheus? Ymwela â chyflwyniad yr ymgyrch.
Cer draw i dudalen gwybodaeth Iechyd Rhywiol TheSprout sydd â llwyth o wybodaeth iechyd rhywiol lleol a chenedlaethol a dolenni i wasanaethau cefnogol.
Os wyt ti’n rhannu cynnwys yr ymgyrch Chwareus Nid Amheus ar gyfryngau cymdeithasol, cofia ddefnyddia’r hashnod #ChwareusNidAmheus a thagio ni.