Beth Yw Ystyr Pride i Ti?

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Fel rhan o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy Na Mis, aethom i’r digwyddiad Pride Cymru yng Nghaerdydd a siarad gyda phobl ifanc am bethau’n ymwneud â materion LHTDC+. Mae’r blog yma yn rhannu rhai o’r atebion i’r cwestiwn ‘beth yw ystyr Pride i ti?’

Mae Pride yn golygu bod yn ti dy hun

Lizzie, 22 – Mae’n ddathliad! Rydym yn cael dathlu’r ffaith bod pawb yn gallu bod yn pwy ydyn nhw.

Nova, 19 – Mae’n debyg ei fod yn gyfle braf i fod yn ti dy hun.

Jess, 18 – Wel, Pride ydy pan fydd pobl yn cael bod yn nhw’u hunain ac nid oes neb yn gorfod smalio bod yn unrhyw beth nad ydynt.

Toby, 15 – Mae pobl yn gallu cyfarfod a bod yn nhw’u hunain heb orfod poeni am bethau.

Mal, 18 – Mae’n golygu lot gan fy mod i’n teimlo fel y gallaf fynegi fy hun heb gael fy marnu.

Darcey, 23 – Cyfle i fynegi dy hun gan nad wyt ti’n gallu o ddydd i ddydd.

Carenza, 20 – I mi, mae Pride yn ofod preifat llawn cydnabyddiaeth a derbyniad ble gellir dysgu cymaint, a bod yn ddiogel gyda phwy wyt ti.

Mae Pride yn golygu cynhwysedd a chymuned

Tezni, 23 – Gallu dathlu mwy nag Balchder am glywed pobl, mwy nag Balchder am weld pobl – ond Balchder i bawb.

Avery, 19 – Dyma fy Mhride cyntaf. Doeddwn i ddim yn siŵr iawn beth i’w ddisgwyl ond mae’n awyrgylch mor groesawus. Dwi wir yn meddwl mai dyma mae Pride yn fod i gyfleu – gofod diogel i bawb pa un ai wyt ti’n rhan o’r gymuned LHDTC neu yn ffrind. Mae’n le i ddod a gwerthfawrogi pawb am y bobl ydynt, beth bynnag yw hynny, ac mae hynny’n grêt.

Maddie, 16 – Y gymuned yn dod at ei gilydd. Fel [pobl] LHDT a ffrindiau yn dod at ei gilydd a bod yn nhw’u hunain. Ac i gyfarfod ffrindiau ac ati. Rwy’n berson anneuaidd. Dwi wedi dioddef bwlio am 5 mlynedd yn yr ysgol uwchradd am fod yn fi, mae Pride jest yn le braf i fod.

Chris, 18 – Helpu’r genhedlaeth iau i dderbyn eu hunain o oedran ifanc fel nad oes rhaid iddynt ddioddef fel y gwnaethom ni yn gweithio allan pwy ydym ni a’n teimladau.

Abi, 23 – Fel aelod o’r gymuned LHDTC+, mae’n bwysig iawn i mi gan y gallaf fod o gwmpas pobl sydd yn rhan o’m nghymuned ac rwy’n teimlo’n ddiogel ac yn cael fy nerbyn.

Mae Pride yn golygu adlewyrchu ar gynnydd

Wren, 16 – [Rwy’n falch o] pa mor bell mae’r gymuned wedi dod yn ei flaen ers i’r symudiad gychwyn oes yn ôl.

Lily, 16 – Y ffordd rydym wedi llwyddo i newid a chael hawliau. Nid yw popeth yn grêt ond mae’n gwella.

Echo, 20 – Dwi’n meddwl ei fod yn esiampl cŵl iawn o ryddhad cwiar a pa mor bell rydym wedi dod. Mae Pride yn brotest o hyd, a dyma ddylai fod, ond mae’n dangos [symud ymlaen] o’r symudiad gwreiddiol pan roedd yr heddlu yn brwydro yn dy erbyn pob cam. Bellach gallet ti gael ardal fwy hamddenol sydd yn fwy diogel i ni, ac mae plant yn gallu bod yma heb deimlo perygl – dwi’n meddwl bod hynny’n cŵl iawn.

Ffion, 15 – Dwi’n meddwl ei bod yn bwysig dathlu’r hanes a’r llwyddiannau dros y blynyddoedd – mae yna lawer!

Toby, 15 – I mi, mae’n cynrychioli pa mor bell rydym wedi dod pan ddaw at gydraddoldeb a derbyn pobl eraill. Mae’n anhygoel gallu dysgu am yr hanes a dathlu ein cynnydd.

Mae Pride yn golygu dathliadau a llawenydd

Ron, 22 – Mae’n golygu llawer iawn o glityr ymhobman. Dwi’n meddwl mai dyma’r lle gorau i fod.

Sarah, 30 – Dwi erioed wedi gweld Pride mawr fel hyn, felly mae’n golygu bod mwy o bobl yn hoyw sydd yn grêt. Mae pawb yn hapus iawn. Mae pawb mewn tymer da. Mae pawb yn edrych yn anhygoel.

Tess, 22 – Mae wedi bod yn amser da iawn i gael parti, i beidio poeni. Mae popeth yn hwyl fel y dylai fod. Mae’n grêt.

Chloe, 21 – I mi, mae Pride yn bwysig gan ei fod yn ymwneud â dathlu. Mae cymaint o frwydro wedi bod, a cymaint o ymgyrchu, dwi’n meddwl bod hynny’n gallu bod yn flinedig iawn dros amser. Gad i bawb ddod at ei gilydd a chael ychydig o hwyl.

Lizzie, 22 – Mae’n ddathliad o’r ffaith bod pawb yn rhydd. Mae’n wych. Mae’n amser da.

Tezni, 23 – Mae Pride yn golygu dathlu pawb a phopeth gan nad yw ots pwy wyt ti nac sut rwyt ti’n adnabod dy hun, fe ddylet ti fod yn falch ac fe ddylet ti fedru dathlu hynny.

Mae Pride yn golygu brwydro am hawliau a chydraddoldeb

Mollie, 22 – Teimlaf fel bod Pride yn ymwneud â dweud wrth y bobl sydd yn ein casáu nad ydym yn mynd i unlle.

Chris, 18 – Cyflwyno syniadau gwahanol i bobl sydd efallai heb glywed (am fod yn LHDTC+) o’r blaen.

Ffion, 15 – Gyda gwahanol wledydd yn cymryd cam yn ôl i raddau, mae’n bwysig iawn bod gennym hyn i ddangos ein bod ni’n symud ymlaen, a byddem yn parhau i symud ymlaen beth bynnag a ddaw.

Gwybodaeth Berthnasol

Eisiau mwy o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy na Mis? Ymwela â chyflwyniad yr ymgyrch yma.

Cer i weld tudalen gwybodaeth LHDTC+ TheSprout am wybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogol LHDTC+ lleol a chenedlaethol.

Cofia, os wyt ti’n rhannu ein stwff o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy Na Mis ar gyfryngau cymdeithasol, cofia defnyddio’r hashnod #MwyNaMis.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd