A Ddysgais Di am Addysg Rywiol LHDTC+ yn yr Ysgol?

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Fel rhan o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy Na Mis, aethom i’r digwyddiad Pride Cymru yng Nghaerdydd a siarad gyda phobl ifanc am bethau’n ymwneud â materion LHTDC+. Mae’r blog yma yn rhannu rhai o’r atebion i’r cwestiwn ‘a gefais di unrhyw addysg rywiol LHDTC+ yn yr ysgol?’

Dim sôn am addysg rywiol LHDTC+

Rhannodd llawer o’r bobl ifanc holwyd bod yr addysg rywiol derbyniwyd yn wael ar y cyfan. I’r mwyafrif nid oedd sôn am bobl LHDTC+ yn eu haddysg rywiol. Roedd addysg rywiol wedi ei dargedu at hunaniaeth syth a’u profiadau generig o ryw ar y cyfan. Roedd pobl ifanc yn teimlo fel eu bod yn y tywyllwch.

Nova, 19 – Dim o gwbl. Dyna ni. ‘Os wyt ti’n syth, dyma’r addysg rywiol’ oedd hi. Fel arall, cer i weithio pethau allan i ti dy hun mae’n siŵr.

Ron, 22 – Doedd dim pan oeddwn i yn yr ysgol.

Tezni, 23 – Na ydy’r ateb hawdd i hynny. Doedd gen i ddim. Roedd addysg rywiol yn yr ysgol yn eithaf ‘basic’ beth bynnag, ond dwi’n meddwl hyd yn oed llai yn nhermau stwff LHDTC. I ddweud y gwir wrthyt ti, ar draws pob pwnc, nid oedd unrhyw fath o gynrychiolaeth LHDTC+ sydd yn siomedig iawn. Pan rwyt ti’n blentyn efallai nad wyt ti’n meddwl am y peth, ond fel oedolyn ifanc yn edrych yn ôl ar fy addysg, mae’n siomedig iawn i weld hynny.

Avery, 19 – Mae’n ofnadwy nad oes addysg rywiol i gyplau cwiar, hyd yn oed os mai cyffwrdd arno ychydig fydda nhw.

Darcey, 23 – Na, dim o gwbl

Chloe, 21 – Ymm, na, ni allaf ddweud bod yna. Nid oedd yn gynhwysol o gwbl. Mwy fel, gad i ni roi’r condom yma ar y pidyn glas mawr ffug yma, a dyna ni, felly na. Fe ddylai fod, yn bendant. 100%. Hyd yn oed os mai dim ond defnyddio termau cynhwysol syml a sicrhau bod pobl yn deall bod perthnasau o’r un rhyw yn bodoli a bod hynny’n iawn.

Mollie, 23 – Na. A chefais i fy mwlio lot yn yr ysgol am mai fi oedd yr unig un hoyw… gan staff a disgyblion. Ac roeddent yn erbyn cael unrhyw fath o addysg rywiol LHDT o gwbl.

Tess, 22 – Roedd unrhyw addysg rywiol yn ddrwg iawn, ond nid oedd dim am berthnasau. Ni oeddent yn defnyddio’r geiriau cwiar neu LHDT, felly ofnadwy i ddweud y gwir.

Nid yw addysg rywiol LHDTC+ yn gynhwysol nac yn berthnasol

Pan roedd sôn am addysg ryw LHDTC+, roedd barn bod hwn yn wael iawn gan nad oedd yn gynhwysol nac yn berthnasol. Eglurodd un person ifanc sut roedd yr addysg rywiol cawsant yn gwneud iddynt deimlo’n anghyfforddus. Roedd rhai pobl ifanc yn parhau i rannu bod rhaid iddynt addysgu eu hunain gyda’u ffrindiau, neu ymgyrchu am addysg well, gan na chawsant unrhyw addysg rywiol oedd yn berthnasol iddyn nhw.

Echo, 20 – Roedd y mwyafrif o’m ffrindiau yn yr ysgol uwchradd yn cwiar, felly roedd pawb yn eistedd ar yr un bwrdd yn y dosbarth addysg rywiol ac yn gwrthod cymryd rhan yn bengaled. Nid oedd yn berthnasol i ni. Dwi’n wych. Es i ysgol un rhyw felly roedd y mwyafrif o’m ffrindiau yn lesbiaid, felly roedd pawb yn ‘ie, cŵl, mwynha dy giwcymbr’. Be ddiawl sydd gan hynny i wneud efo ni?!

Abi, 22 – Fe gawsom, ond roedd wedi’i anelu at ddynion hoyw ac ati oherwydd y stwff STD a chyffuriau, felly nid oedd llawer am lesbiaid. Ond o leiaf cawsom rywbeth. Roeddem yn ymwybodol ei fod yna.

Wren, 16 – Dwi ddim yn meddwl y cawson ni addysg ryw arno, ond dim ond fel un wers cawson ni. Sôn rhywbeth am yr acronym neu rywbeth.

Lizzie, 22 – Roedd yn siomedig iawn. Mae fel, dyma restr i ti o wledydd ble ti ddim yn cael bod yn hoyw. Pob lwc. A dyna ni.

Lily, 16 – Cwpl o flynyddoedd yn ôl ymgyrchodd ffrind i’n prifathro ac ysgrifennu llythyrau i gael ychydig o addysg LHDT+, felly cawsom wers awr. Ac nid oedd hwnnw’n gywir! Yn ôl yn fy hen ysgol, roeddwn yn rhan o grŵp LHDTC+ i geisio cael mwy o addysg, felly dwi’n meddwl y bydd y bobl yna yn cael gwell addysg flwyddyn nesaf, er ein bod ni newydd adael.

Echo, 20 – Beth sy’n gwylltio ydy, pan oeddwn i yn y Chweched, cawsom ein dysgu am ‘dam’ deintyddol a sut i’w defnyddio, ac mai dyma un o’r cynnyrch atal cenhedlu gorau i gyplau lesbiaid. Roeddem yn cael ein dysgu’n benodol amdano o safbwynt syth. Es i chweched un rhyw felly’r wers oedd “genethod, os ydy’ch cariad chi (bachgen) eisiau gwneud rhywbeth ychydig yn fwy diddorol, dyma ‘dam’ deintyddol”. Ac roeddwn i fel… ie cŵl… cer amdani… ond mae lesbiaid yn ddilys hefyd. Roedd hynny’n fy ngwylltio i.

Carenza, 20 – Heterorywiol, neu ychydig o gyfunrywiol weithiau, yw yn bennaf. Mae cymaint mwy y gallet ti ddysgu yn addysg rywiol.

Matthew, 23 – Dysgais ychydig amdano yn yr ysgol ond roeddwn i hefyd yn teimlo os byddwn i’n cael gormod o addysg rywiol byddwn i wedi mynd i banig gwadu, yn niffyg disgrifiad gwell. Roeddwn i’n stryglo i ddelio gyda’m rhywioldeb yn y dyddiau yna, amser maith yn ôl.

@feedthesprout

Sneak peak at some of our upcoming content for our Pride Campaign running from 23rd-30th of September 🌈✨🏳️‍⚧️ #lgbtqia #pride #lbgtqpride #lgbtqpride #cardiff #cardiffpride #lesbian #wlw

♬ original sound – TheSprout

Sarah, 30 – Rhoddon nhw gondomau i ni! Beth ydw i’n mynd i wneud efo condom? Dwi’n lesbian.

Awgrymiadau i wella addysg rywiol

Gan adlewyrchu ar yr ychydig addysg rywiol LHDTC+ cafwyd, roedd gan rai pobl ifanc awgrymiadau am yr hyn gellir ei wella wrth symud ymlaen.

Chris, 18 – Nodyn pwysig arall am addysg rywiol ydy i byth gwahanu neb i grwpiau. Hefyd, treulio mwy o amser ar y ffordd mae’r corff benywaidd yn gweithio. Mae yna ddynion, a merched hyd yn oed, sydd ddim yn gwybod, er esiampl, ble mae’r clitoris, ti’n gwybod. Bydda’n gyfforddus gyda dy gorff a dysgu nad yw pawb yr un peth. Mae pobl yn wahanol. Nid yw pawb yn edrych yr un peth. Ac mae pawb yn gwerthfawrogi pethau gwahanol. A hefyd, i bwysleisio pwysigrwydd cyfathrebu â’i gilydd a derbyn ei gilydd. A bod pawb yn unigryw.

Tess, 22 –[Byddai’n dda cael] rhywbeth fel perthnasau yn unig hyd yn oed – perthnasau diogel. Dwi’n teimlo fel bod llawer o siom gyda phobl LHDT; dyw pobl ddim yn siarad am faterion mewn perthnasau, felly bydd mwy o safonau perthnasau iach yn wych.

Lizzie, 22 – [Hoffwn weld] llawer o stwff rhywedd (gender). Nid yw hynny’n cael ei ddysgu. Maent yn dysgu ychydig am os wyt ti’n hoyw, mae hynny’n rhywbeth… ond nid yw cynhwysedd rhywedd yn cael ei gynnwys o gwbl. Dwi’n meddwl bod llawer o stwff cwiar yn gyffredinol, fel rhyw cwiar diogel – nid yw hynny’n cael ei gynnwys byth heblaw am ‘gwisga condom’ ond nid yw hynny’n grêt i bawb, felly nid yw’n gynhwysol o gwbl.

Maddie, 16 – Hoffwn weld y normalrwydd ohono a dweud wrth bobl ifanc am fynegi eu hunain ac ati.

Toby, 15 – Credaf byddai’n gwneud lles i addysgu pobl arno, yn enwedig yn iau, fel eu bod yn deall ei fod yn iawn ac nid oes dim o’i le gydag ef, a dyna sydd yn annog llawer o dderbyniad. Dwi’n meddwl ei bod yn bwysig cael yr opsiwn i ddysgu mwy, hyd yn oed os nad yw’n beth gorfodol, dwi’n meddwl y gall hynny gymryd cwpl o flynyddoedd. Cael yr opsiwn i addysgu dy hun, am y pethau sydd ddim mor amlwg yn enwedig, pethau fel anrhywiol a demirywiol, neu ddim label o gwbl.

Gwybodaeth berthnasol

Eisiau mwy o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy na Mis? Ymwela â chyflwyniad yr ymgyrch yma.

Cer i weld tudalen gwybodaeth LHDTC+ TheSprout am wybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogol LHDTC+ lleol a chenedlaethol.

Cofia, os wyt ti’n rhannu ein stwff o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy Na Mis ar gyfryngau cymdeithasol, cofia defnyddio’r hashnod #MwyNaMis.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd