Cefnogaeth i Bobl LHDTC+ yng Nghaerdydd

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r blog yma yn rhan o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy Na Mis. Mae’n rhannu gwybodaeth am wasanaethau cefnogol lleol a chenedlaethol yng Nghaerdydd lle gall pobl ifanc LHDTC+ fynd am gefnogaeth, cyngor ac arweiniad mewn gofod diogel.

Grwpiau LHDTC+ yng Nghaerdydd

Umberella Allies

Mae Umbrella Allies yn glwb ieuenctid LHDTC+ yn cael ei gynnal gan Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd yng Nghanolfan Ieuenctid Eastmoors yng Nghaerdydd. Mae’n agored i holl bobl ifanc 11-25 yn yr ardal. Mae’r grŵp yn cyfarfod bob dydd Gwener o 6:15-8:15yh.

Impact

Mae Impact yn grŵp ieuenctid LHDTC+ sydd yn cyfarfod bob dydd Mawrth rhwng 5-7yh yn y neuadd fingo yng Nghanolfan Cymunedol Cathays. Mae’n awyrgylch cyfeillgar a diogel sydd yn caniatáu i ti ddod yn ffrindiau gyda phobl o’r un meddylfryd wrth gymdeithasu, chwarae chwaraeon, creu celf a chrefft, cymryd rhan mewn gweithdai a theithiau allan ac ymweliadau preswyl weithiau. Mae’r grŵp yma i bobl ifanc 13-21 oed. Cost pob sesiwn yw £1.

Glitter Cymru

Mae Glitter Cymru yn grŵp i bobl Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol (BAME) sydd yn LHDTC+. Maent yn cyfarfod bob dydd Sadwrn o 2-3yp ar Zoom. Ar gyfer pob oedran. Cysyllta â Glitter Cymru ar gyfryngau cymdeithasol am fanylion pellach.

Constellation

Mae Constellation, yn cael ei gynnal gan y prosiect Amber, yn weithdy wythnosol i bobl ifanc traws 12-16 ac 17-25 oed yng Nghaerdydd canolog. Mae’r prosiect yn cynnig cefnogaeth gyda lles emosiynol, gyda gwasanaeth cwnsela am ddim a chefnogaeth ymarferol. Os wyt ti eisiau manylion pellach, cysyllta â Caryl Stock ar e-bost caryl.stock@churcharmy.org neu ar y ffôn 029 20344776.

Cardiff Foxes

Mae Cardiff Foxes  yn grŵp LHDTC+ i bobl o bob oedran. Yn cyfarfod am 10:15yb bob bore Sul yn y Pettigrew Tea Rooms, i redeg 5K sydd yn cychwyn am 10:30yb. Yn dilyn y rhedeg mae cyfarfod cymdeithasol yn y Queer Emporium neu’r Pettigrew Tea Rooms fel arfer.

Cardiff Baseliners

Clwb tenis cynhwysol LHDTC+ cyntaf Cymru yw’r Cardiff Baseliners. Cynhelir cyfarfod cymdeithasol bob dydd Sadwrn rhwng 12-2yp ym Mharc Heath. Croeso i bob oedran.

Prosiectau a chyfleoedd

Trans*form – Youth Cymru

Mae Trans*form yn brosiect 3 blynedd gyda’r bwriad o wella dealltwriaeth o traws* a hunaniaethau rhywedd anneuaidd ymysg gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio gyda phobl ifanc ledled Cymru. Mae grŵp llywio yn cael ei greu i bobl ifanc 11-25 sydd yn uniaethu ar y sbectrwm traws* neu’n cwestiynu rhywedd. Am wybodaeth bellach, e-bostia Rachel transform@youthcymru.org.uk.

Llinellau Cymorth

Meic

Meic ydy’r llinell gymorth gwybodaeth, eiriolaeth a chyngor cenedlaethol i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Gellir cysylltu â chynghorydd Meic yn gyfrinachol ac yn ddienw yng Nghymraeg a Saesneg. Mae’r llinell gymorth yn wasanaeth am ddim sydd yn agored rhwng 8yb a hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Gellir cysylltu ar y ffôn (0808 80 23456), neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein.

Switchboard

Mae Switchboard yn wasanaeth gwrando cyfrinachol i bobl mewn cymunedau LHDTC+. Maent yn cynnig cefnogaeth ar y llinell gymorth rhwng 10yb a 10yh bob dydd. Siarada â nhw am ddim ar e-bost neu neges sydyn.

Gwybodaeth berthnasol

Eisiau mwy o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy na Mis? Ymwela â chyflwyniad yr ymgyrch yma.

Cer i weld tudalen gwybodaeth LHDTC+ TheSprout am wybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogol LHDTC+ lleol a chenedlaethol.

Cofia, os wyt ti’n rhannu ein stwff o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy Na Mis ar gyfryngau cymdeithasol, cofia defnyddio’r hashnod #MwyNaMis.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd