Pa Newid Sydd ei Angen yn y Frwydr am Gydraddoldeb LHDTC+?

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Fel rhan o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy Na Mis, aethom i’r digwyddiad Pride Cymru yng Nghaerdydd a siarad gyda phobl ifanc am bethau’n ymwneud â materion LHTDC+.Mae’r blog yma yn rhannu eglurhad pobl ifanc o ystyr y baneri roeddent yn ei wisgo. Mae’r blog yma yn rhannu rhai o’r atebion i’r cwestiwn ‘pa newidiadau sydd eu hangen yn y DU i helpu pobl LHDTC+?’

Hawliau LHDTC+

Echo, 20 – Mae angen cynnwys hawliau anneuaidd (non-binary) yn y gyfraith gan nad ydynt ar hyn o bryd. Mae’n parhau i fod yn gyfreithiol i wahaniaethu ar sail rhywun yn bod yn anneuaidd. Hefyd, mae angen gwahardd therapi trawsnewid (conversion therapy) i bobl traws.

Molly, 22 – Credaf fod angen lefel o dderbyniaeth ar draws y ford o hyd, nid yw yno nawr. Credaf fod mynegiant rhyw yn rhywbeth sydd yn parhau i gael ei ormesu yn y wlad ar hyn o bryd, yn nhermau newid dogfennau cyfreithiol ac ati i gyd-fynd â phwy wyt ti ar y tu mewn.

Matthew, 23 – Teimlaf fel bod yna lawer o hawliau y dylai pobl traws eu cael. Nid eu bai nhw ydyw. I fod yn glir, nid nhw sydd angen gwneud y gwaith caled, ond dwi’n meddwl dylai hawliau traws fod ar flaen y llwyfan am funud.

Gofal iechyd LHDTC+

Chloe, 21 – Yn bendant. Dwi’n meddwl, cymaint ag y mae caniatâd i briodasau o’r un rhyw nawr, credaf bod angen mwy. Yn bendant mae yna fwy i’w wneud. Mae angen gwneud mwy o eirioli, mwy o ymgyrchu, mwy o bethau i frwydro amdano. Yn arbennig yn feddygol, credaf fod gofod enfawr am welliannau yn y proffesiwn meddygol ac i fod yn fwy cynhwysol yn bendant.

Molly, 22 – Os fydda ti wedi gofyn i mi cwpl wythnosau yn ôl, yna byddwn i wedi dweud hawliau ffrwythlondeb (fertility), ond mae hynny wedi newid llawer iawn yn ddiweddar.

Echo, 20 – Mae angen iddo fod yn haws cael llawdriniaeth cadarnhau rhyw a hormonau. Mae angen mwy o arian i’r GIG yn gyffredinol gan y byddai hynny, yn benodol, yn helpu.

Addysg LHDTC+

Avery, 19 – Dwi’n meddwl ei bod yn hanfodol dysgu am [addysg rhyw LHDTC+] am ein bod yn mynd i fyd mwy rhyw-bositif. Credaf fod angen i ni ddysgu a chofleidio mwy’r ffaith bod rhyw yn beth mae pobl yn mynd i wneud, ac eisiau gwneud. Ac mae dysgu am sut i wneud yn ddiogel yn beth hanfodol sydd angen digwydd.

Mal, 18 – Mae angen addysgu pobl, yn enwedig y genhedlaeth hŷn, mae rhai ohonynt mor bell yn ôl mewn amser mae’n wallgof. Fel bod ganddynt beiriant amser. Dwi’n meddwl bydda addysgu’r bobl anwybodus yn helpu lot, yn enwedig yr ieuenctid iau sydd wedi’u magu gan y rhieni anwybodus yma a nhw yw’r rhai newydd sydd yn dweud ‘dwi’n casáu ti – ti’n hoyw’.

Nova, 19 – I gychwyn, llawer mwy o dderbyniaeth i bobl traws. Mae pethau wedi symud ymlaen lot ac rwy’n gwerthfawrogi hynny, ond mae cymaint o bethau bach. Fel y genhedlaeth hŷn, gwerthfawrogaf efallai nad ydynt yn deall ar y cychwyn, ond mae rhai sydd heb eu hamlygu iddo. Nid oes neb wedi egluro’n iawn iddynt ‘ia, dyma nhw yn bod yn nhw, gad iddyn nhw fod yn draws’. Nid yw’n anghywir. Mae’n beth syml.

Taclo trosedd casineb a gwella diogelwch

Matthew, 23 – Rwyf hefyd yn sylweddoli yn ystadegol, fel ymchwilydd, bod troseddau casineb yn dechrau codi unwaith eto, a dwi ddim yn hoff o hynny.

Molly, 22 – Darganfod ffordd i sicrhau ein bod yn teimlo’n ddiogel ymhobman ac nid Pride yn unig.

Jess, 18 – Efallai gall y cyngor wneud mwy gyda phobl traws a diogelwch. Efallai gallant osod gofal diogelwch a phethau fel yna, dyna fyddwn i’n dweud.

Gwybodaeth Berthnasol

Eisiau mwy o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy na Mis? Ymwela â chyflwyniad yr ymgyrch yma.

Cer i weld tudalen gwybodaeth LHDTC+ TheSprout am wybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogol LHDTC+ lleol a chenedlaethol.

Cofia, os wyt ti’n rhannu ein stwff o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy Na Mis ar gyfryngau cymdeithasol, cofia defnyddio’r hashnod #MwyNaMis.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd