8 Ffordd i Fod Yn Gyfaill LHDTC+ Gwych

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae cyfaill LHDTC+ yn rhywun sydd yn uniaethu fel heterorywiol ac sy’n cydryweddol (cis), sy’n cefnogi hawliau cyfartal, cyfartaledd rhyw a symudiadau cymdeithasol LHDTC+. Mae’n syniad da addysgu dy hun am sut i fod yn gyfaill mwy cefnogol. Dyma 8 awgrym i ti ddod yn gyfaill LHDTC+ gwych.

Deall hanes Pride

Mae deall y siwrne mae pobl LHDTC+ wedi gorfod bod drwyddi yn hanfodol wrth gefnogi pobl LHDTC+ a’u brwydr am hawliau cyfartal. Mae gan TheSprout erthyglau ar Fis Hanes LHDT+, Hanes y Faner LHDT+ Pride a Phobl Bwysig yn Hanes LHDT+. Mae cysylltu gyda’r erthyglau yma yn bwynt cychwyn da.

Addysgu dy hun ar iaith LHDTC

Mae deall gwahanol rhywioldebau a hunaniaethau rhyw yn bwysig iawn i fod yn gyfaill LHDTC+. Bydd yn helpu ti i ddeall mwy nag ‘syth’ neu ‘hoyw’ a ‘bachgen’ neu ‘merch’.

Paid dweud “mae hynna mor gay”

Os wyt ti’n dweud, “mae hynna’n gay”, rwyt ti angen cwestiynu dy iaith. Mae’n debyg nad wyt ti wedi bwriadu cyfeirio at bobl hoyw wrth ddweud hyn, ond, mae defnyddio’r gair mewn ffordd negyddol yn gas. Ceisia bod yn ymwybodol o’r iaith rwyt ti’n defnyddio a beth allai feddwl i rywun arall.

Cofia bod gan bobl hawl i breifatrwydd

Yn aml, mae pobl LHDTC+ yn cael eu holi’n dwll am eu rhywioldeb a’u hunaniaeth rywiol. Mae’r gymuned yn taclo cwestiynau am beth yw ystyr bod yn LHDTC+, eu profiadau a’u hagwedd i gyfreithiau blaengar. Mae’n iawn i ofyn cwestiynau yn barchus, ond ceisia ymchwilio a deall pethau dy hun gyntaf os fedri di. Mae gan Google yr ateb i bron bopeth!

Sefyll gyda phobl LHDTC+

Mae bod yn gyfaill da yn fwy nag chwifio baner enfys mewn parêd Pride, gwisgo glityr a chanu Lady Gaga gyda gorfoledd. Ceisia daclo gwahaniaethu a rhagfarnu wrth siarad i fyny, arwyddo deisebau a mynd i brotestiadau am newid positif.

Gwylio ffilmiau a rhaglenni a darllen llyfrau LHDTC+

Mae yna dangynrychiolaeth pobl LHDTC+ yn y cyfryngau. I ddangos cefnogaeth ceisia gysylltu gyda straeon am bobl LHDTC+ neu gyda darnau celf wedi’i greu ganddynt. Lle da i gychwyn bydda edrych ar restr ’10 Peth i’w Wylio ar gyfer Mis Hanes LHDT’ ar theSprout.

Prynu gan fusnesau LHDTC+ bach

Nid oes angen i ti gerdded o gwmpas trwy’r dydd, bob dydd, wedi gwisgo o dy gorun i dy sawdl mewn enfys i ddangos dy fod di’n gyfaill da. Ond, os wyt ti’n mynd i ddigwyddiad ac eisiau bod yn fwy lliwgar, yna siopa’n ofalus. Mae’n hawdd disgyn i mewn i drap o brynu gan gorfforaethau mawr sydd yn elwa o Pride. Ceisia fod yn ymwybodol o hyn a darganfod busnesau bach gan unigolion LHDTC+ i gefnogi pobl cwiar.

Cydnabod y byddi di’n gwneud camgymeriadau

Weithiau bydd pobl yn dweud neu wneud pethau’n anghywir, ac mae hynny’n iawn – nid oes neb yn berffaith. Esiampl berffaith o hyn yw camryweddu rhywun neu ddefnyddio’r rhagenwau anghywir. Os wyt ti’n gwneud hyn yn ddamweiniol, paid poeni’n ormodol am y peth. Ymddiheura a chywiro dy hun! Mae’n ymarfer da i ofyn beth yw rhagenw rhywun fel y gallet ti osgoi eu camryweddu.

Adnoddau ychwanegol

Pa unai wyt ti’n LHDTC+ neu os hoffet ti gefnogi rhywun sydd yn, mae cymorth a chyngor ar gael yma.

Ansicr beth yw ystyr LHDT? Cer draw i edrych ar Eirfa Stonewall Cymru.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd