Beth Mae Dy Faner LHDTC+ Di Yn Cynrychioli?

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Fel rhan o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy Na Mis, aethom i’r digwyddiad Pride Cymru yng Nghaerdydd a siarad gyda phobl ifanc am bethau’n ymwneud â materion LHTDC+. Mae’r blog yma yn rhannu eglurhad pobl ifanc o ystyr y baneri roeddent yn ei wisgo.

Baner Panrywiol (pansexual)

Avery, 19 – I mi, mae fy maner yn golygu cariad tuag at bawb ta waeth beth. I mi yn benodol, er bod hwn yn cael ei adnabod fel y faner ‘pan’, mae’n pan-rhamantus i mi. Dwi ddim yn seilio atyniad ar ryw o gwbl. I mi, mae’n ymwneud â’r cysylltiad sydd yn cael ei greu gyda phobl. Felly, y mwy o gysylltiad dwi’n ei wneud, y mwy tebygol ydw i i ddatblygu teimladau tuag at bobl yn y pen draw.

Toby, 15 – Y faner panrywiol ydy hwn. Yn y bôn, mae ‘pan’ yn golygu dy fod di’n caru pawb. Mae fel dy fod di’n caru pawb er eu hedrychiad, eu rhyw, nac unrhyw beth fel yna. Cariad pur i’r enaid ydyw.

Baner anneuaidd (non-binary)

Maddie, 16 – Dwi’n ferch, ond weithiau dwi ddim yn teimlo fel merch, ond dwi ddim yn teimlo fel dyn. Felly mae fel bod yn y canol.

Baner rhywedd cyfnewidiol (genderfluid)

Mal, 18 – Dyma’r faner rhywedd cyfnewidiol. Mae’n golygu bod fy rhywedd i’n newid. Weithiau dwi fel ‘ww, dwi’n ddyn’ ac weithiau dwi’n teimlo fel dim. Pa bynnag ffordd, dwi jest yn feibio!

Rhyngryw (intersex) – Baner Cynnydd Cynhwysol Pride

Jess, 18 – Dyma’r faner enfys wedi’i diweddaru’n llawn. Fi yw’r rhan traws* ynddo [y pinc, glas golau a gwyn].

Baner Anrhywiol (asexual)

Kerenza – Anrhywiol, sydd yn golygu dwi ddim yn teimlo atyniad rhywiol. Mae gen i gariad sydd yn fachgen ond mae’n iawn gyda’r peth ac mae gennym berthynas hapus iawn, sydd yn dangos nad oes rhaid cael rhyw i gael perthynas iach. Dwi’n meddwl efallai mai ni sydd â’r berthynas iachach dwi’n ymwybodol ohono!

Baner Traws* (trans)

Toby, 15 – Y faner traws* ydy un fi. Dwi’n traws, merch i fachgen, wedi dod allan 2 flynedd yn ôl. *Mae traws yn golygu dy fod di’n newid o un i’r llall – mae’n drawsnewidiad. Neu rywun sydd ddim yn ddyn yn caru rhywun arall sydd ddim yn ddyn yn unig.

Gwybodaeth Berthnasol

Eisiau mwy o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy na Mis? Ymwela â chyflwyniad yr ymgyrch yma.

Cer i weld tudalen gwybodaeth LHDTC+ TheSprout am wybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau cefnogol LHDTC+ lleol a chenedlaethol.

Cofia, os wyt ti’n rhannu ein stwff o’r ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy Na Mis ar gyfryngau cymdeithasol, cofia defnyddio’r hashnod #MwyNaMis.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd