Cyhoeddwyd erthygl gyntaf theSprout yn ôl yn 2007 – ond ble mae’r erthygl yma?
Dyma ef. Ac mae pob erthygl cyhoeddwyd rhwng 2007 a 2016 yn dal i fodoli ar-lein hefyd.
Yn fis Mai 2015 symudwyd i wefan WordPress newydd ac archifwyd yr hen wefan. Ond mae posib darllen a chwilio’r 5195 o erthyglau o hyd. Os wyt ti’n hen Sproutiwr ac yn chwilio am rai o dy hen erthyglau, dyma’r lle i chwilio.
Awgrymiad sydyn – os wyt ti wedi cadw’r hen URL yn rhywle, rho’r gair “archive” o flaen y darn thesprout.co.uk. Felly bydd yr erthygl fwyaf doniol i gael ei gyflwyno i theSprout yn gallu cael ei ddarganfod ar http://archive.thesprout.co.uk/en/news/priodas-hoyw-amrhydeinig/19007.html
Felly mae posib darganfod yr erthyglau yn yr Archif sydd wedi’u tagio fel:
Weithiau byddem yn postio hen glasuron o’r Archif ar y wefan newydd, fel Sut i Goginio Eog Mewn Peiriant Golchi Llestri. Os oes gen ti awgrymiadau am erthyglau hoffet ti eu gweld ar y wefan newydd yna cysyllta neu adael sylwad isod.
Os oes gen ti unrhyw gwestiynau neu’n cael trafferth darganfod rhywbeth yn yr Archif yna cysyllta hefyd.
Y Saith Godidog (sydd yn bump mewn gwirionedd)
Fel gwledd fach o’r gorffennol, cyhoeddwyd y Saith Godidog yn 2015 pan roedd CLICarlein ar fin dod i ben, sef “saith erthygl cafodd eu darllen fwy nag eraill, neu rhoddodd ysbrydoliaeth i eraill wneud pethau gwych.” Dyma’r pump ddaeth o Gaerdydd…
- Cyfaddefiadau Darllenydd Proflen
- Pync Roc Halal
- Gwaith Budr
- Diodydd Egni: Y Da a’r Drwg
- Priodas Hoyw: Dryslyd, Ych a Fi ac Amrhydeinig
Gobeithiwn fod hyn yn esbonio ychydig am ble aeth yr hen erthyglau. Os oes gen ti gwestiwn cysyllta neu adael sylwad isod.
Cymera ran:
Eisiau cyrraedd miloedd o bobl ifanc Caerdydd? Cyflwyna dy newyddion yma neu cofrestra i ddod yn gyfrannwr.
*Eisiau dod yn adolygwr? Ymuno â Grŵp Golygyddol theSprout ar Facebook neu e-bostia info@thesprout.co.uk
Clicia yma ar gyfer manylion cyfarfod nesaf y grŵp golygyddol.
.
Gadael sylwad isod:
Mae gadael sylwad isod yn sydyn ac yn rhad ac am ddim, ond awgrymir i ti gofrestru gyda dy e-bost neu fel gwestai er mwyn cadw enw defnyddwyr yn Sproutiog ac yn ddienw (a byth postio manylion personol!).
Am wybodaeth bellach ar aros yn ddiogel ar-lein, edrycha ar ein hadran diogelwch ar-lein.