Bwriad yr ymgyrch Y Dyfodol Yn Ein Dwylo yw codi ymwybyddiaeth am sut gall pobl ifanc wneud dewisiadau cynaliadwy yng Nghymru, yn helpu i leihau gwastraff a bod yn ecogyfeillgar gyda ffasiwn.
Gwybodaeth am Y Dyfodol Yn Ein Dwylo
Datblygwyd yr ymgyrch Y Dyfodol Yn Ein Dwylo gan grŵp o 5 person ifanc creadigol yng Nghaerdydd, mewn cydweithrediad â Bloedd Amgueddfa Cymru. Mae Bloedd Amgueddfa Cymru yn gweithio gyda rhai 16-25 oed ledled Cymru i arbrofi, creu ac arloesi prosiectau o fewn meysydd treftadaeth a chelfyddydau.
Ganwyd yr ymgyrch o’r syniad i helpu pobl ifanc yng Nghymru i ddod yn fwy cynaliadwy, yn enwedig wrth feddwl am ffasiwn.
Mae’r Argyfwng Costau Byw, ynghyd â disgwyliadau i gael pethau’n sydyn, wedi cyfrannu at barhad llwyddiant y diwydiant ffasiwn sydyn. Ond, mae sawl problem i ffasiwn sydyn, gan gynnwys yr effaith mae’n ei gael ar yr amgylchedd, pryderon moesol ac ansawdd llawer gwaeth yn aml.
Mae yna lawer o bobl ifanc sydd ddim yn gwerthfawrogi’n llawn y broses gyfan o greu dillad a sut maent yn cyrraedd ein siopau. Rydym eisiau creu ymwybyddiaeth o sut gall newidiadau bach syml ac ystyriaethau helpu i greu siopwyr mwy moesol a chyfeillgar i’r amgylchedd yng Nghymru, heb dorri’r banc.
Yr ymgyrch
Yn ystod yr ymgyrch pythefnos o hyd byddem yn rhannu blogiau a chyfryngau cymdeithasol gyda’n cynnwys ymgyrch arbennig.
Dyma ellir ei ddisgwyl yn ystod yr ymgyrch:
- “Nid Oes Rhaid Prynu’n Newydd Bob Tro”: Y Sustainable Studio
- Depop neu Defflop? Dyna’r Cwestiwn
- Wedi Disgyn Mewn Cariad â’r Broses o Greu Dillad Fy Hun
- Archwilio Cynaliadwyedd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
- “Mae Uwchgylchu yn Ddiddiwedd”: Y Sustainable Studio
- Problemau Moesol, Cymdeithasol ac Amgylcheddol Ffasiwn Sydyn
- Dylanwad Pobl Enwog ar Ffasiwn Sydyn a Thueddiadau
- Chwyldro’r Caffi Trwsio a’ch Hawl i Drwsio
- Dy Gwpwrdd Dillad Crosio Cynaliadwy Newydd
Gwybodaeth Berthnasol
I weld y cynnwys diweddaraf, tyrd draw i wefan TheSprout yn ddyddiol. Dilyna ein cyfryngau cymdeithasol ar Facebook, Twitter, Instagram, TikTok a YouTube i gael dy atgoffa am gynnwys newydd.