Problemau Moesol, Cymdeithasol ac Amgylcheddol Ffasiwn Sydyn

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Yn ifanc, byddwn yn mynd gyda mam i sêl cist car a siopau elusen i chwilio am ‘fargen’ neu ‘ddêl’ da, a dyma oedd cychwyn fy nghariad am ddillad ail-law.

Yn ifanc, roedd yna ddiniweidrwydd ac anymwybyddiaeth am effaith y diwydiant ffasiwn sydyn. Nawr yn hŷn ac yn ddoethach rwy’n deall yr effaith mae’r diwydiant ffasiwn sydyn yn ei gael ar yr amgylchedd, ar bobl, ac ar yr hinsawdd. Bellach, nid ‘bargen’ a ‘dêl’ yw’r rheswm am siopa, ond am amodau gwaith gwell, llai o lygredd, amgylchedd gwyrddach, a dillad cynaliadwy.

Dwi’n credu nad oes digon o bobl yn ymwybodol o effaith negyddol y diwydiant. Felly, yn y blog yma, rwyf am geisio datgelu’r diwydiant yma sydd ddim mor llawn o ‘batrymau prydferth ac yn hollol trendi’ ag yr wyt ti’n meddwl.

Cynhyrchu gwastraffus

Oeddet ti’n gwybod nad wyt ti’n gwisgo tua 50% o dy ddillad ar gyfartaledd? Ac o’r stwff yr wyt ti’n gwisgo, dim ond tua 7 gwaith rwyt ti’n eu gwisgo! Ddim yn swnio’n rhy ddrwg? Ond mae’r cwpwrdd dillad yna yn rhan o:

  • 10% o allyriadau carbon y byd
  • 11kg o wastraff tecstilau’r byd
  • 52 o micro-gasgliadau bob blwyddyn, yn lle’r ddau dymor arferol

Bellach mae 400% mwy o ddillad yn cael ei gynhyrchu o gymharu â 20 mlynedd yn ôl, a’r mwyafrif o hyn yn mynd i’r domen sbwriel mae’n debyg. Cymaint o steiliau , lliwiau a phatrymau newydd! A sori am y ‘spoiler’ – ond nid yw dillad ffasiwn sydyn yn pydru yn y domen sbwriel.

Yn lle pydru, maent yn rhyddhau nwyon afiach, gwenwynig, fel CO2 a methan (28 gwaith gwaeth am allyriadau nag CO2). Mae’r rhain wedyn yn creu nwyon tŷ gwydr sydd yn cyfrannu at y byd yn symud yn nes at drychineb hinsawdd. Ond paid poeni, byddi di wedi cael dillad neis newydd i fynd allan ar y penwythnos… neu beth?

Moesau ffasiwn sydyn

Mae 400% mwy o ddillad yn golygu bod gan lawer o bobl swydd. Gad i ni ddychmygu’r swydd yma am eiliad…

  • Gweithio sifft 14-16 awr, gyda dim cyfyngiad ar yr oriau rwyt ti’n gweithio weithiau
  • Tâl isel ofnadwy, digon i fwydo dy hun am y diwrnod canlynol
  • Anafiadau yn aml na fedri di adrodd, gan fod rhaid i ti ennill arian
  • Mae egwyl yn fyr (os yw’n cael ei ganiatáu o gwbl)
  • Gweithio mewn amgylchedd cyfyng
  • Llwyth gwaith parhaus, teimlo fel na fydd hyn byth yn dod i ben

Fyddet ti’n hoffi swydd fel hyn? Mae’n swydd angenrheidiol i rai pobl, er mwyn bwydo’r teulu, talu biliau ac i greu steil, lliwiau a phatrymau newydd wrth gwrs…

Effaith ffasiwn sydyn ar anifeiliaid

Nid yw anifeiliaid na bywyd gwyllt y môr yn ddiogel chwaith. Mae lliw defnydd, ffibr plastig a chemegau yn llygru’r dŵr a defnyddio ffwr, cotwm a gwlân yn niweidio’r anifeiliaid.

  • Arbrofi ar 115 miliwn o anifeiliaid mewn labordai.
  • Anifeiliaid fel llygod mawr, cwningod, cŵn, cathod, moch cwta ac adar – creaduriaid fydda’n gallu bod yn anifail anwes i rywun…
  • Weithiau mae anifeiliaid mewn perygl yn rhan o hyn hefyd; anifeiliaid dylai cael eu hamddiffyn nid bod yn eitem o ddillad.
  • Mae anifeiliaid hefyd yn cael eu rhoi mewn cawell, trapio ac yn aml yn cael tynnu eu croen yn fyw i greu tecstilau.

Byddai pawb yn brawychu petai hyn yn digwydd i bobl, felly pam caniatáu i hyn ddigwydd i anifeiliaid. Mae hyn yn digwydd i tua 100 miliwn o anifeiliaid y tir bob blwyddyn.

Bywyd y môr

Mae bywyd y môr yn gorfod ymdopi â chanlyniadau’r diwydiant ffasiwn hefyd. Mae’r diwydiant yn gyfrifol am 20 i 30% o’r holl micro-blastig sydd yn mynd i’r môr.

Mae micro-ffibr yn ddarnau bach iawn o blastig sydd mewn dillad fel cotwm a polyester. Pan fydd hwn yn cael ei fwyta gan greaduriaid y môr, mae’n niweidio y tu mewn iddynt, yn arwain at broblemau calon, a namau geni ar y creaduriaid môr bychan.

  • Dyma ychydig o ffyrdd i leihau micro-ffibrau:
  • Golchi llwyth llawn
  • Osgoi gosodiad delicet ar y peiriant golchi
  • Sychu dillad ar y lein
  • Ystyried gosod hidlydd ar y peiriant golchi neu ddefnyddio bag londri

Llygredd dŵr

Mae 79 triliwn litr o ddŵr yn cael ei ddefnyddio’n flynyddol, sydd yn cyfrannu at tua 20% o ddŵr gwastraff diwydiannol.

Cemegau mewn lliw yw’r gwaethaf am 20% o lygredd dŵr byd-eang.

Ar ôl i’r dillad cael eu gwneud yn defnyddio dŵr, sydd bellach wedi ei lygru, mae’n cael ei ddychwelyd i’r afonydd a’r moroedd.

Syniadau i gloi

Wrth i’r diwydiant ffasiwn sydyn dyfu’n fwy llachar ac yn fwy gwych, mae’r byd yn cynhesu, y gweithwyr yn cael eu hecsbloetio, a’r dŵr yn cael ei lygru.

Felly, wrth i ti gerdded heibio’r siopau stryd fawr, cer i mewn i siop elusen i gychwyn, ble mae’r dillad wedi cael eu caru yn barod. Wrth wisgo’r rhain, rwyt ti’n lleihau’r domen sbwriel a’r llygredd, wrth achub yr anifeiliaid, edrych yn wych, ac yn gwisgo darn unigryw sydd â stori nad oes gan neb arall!

Ond, os wyt ti’n teimlo’n anghyfforddus gyda’r syniad o ail-law, yna cliria’r cwpwrdd dillad… ti ddim yn gwisgo 50% ohono. Gyrra dy bethau i’r siop elusen leol neu postia ar-lein ar apiau fel Vinted neu Depop. Beth bynnag rwyt ti’n gwneud, paid â thaflu! Mae sbwriel un person yn drysor rhywun arall!

Gwybodaeth Berthnasol

Mae’r flog hon yn rhan o’r ymgyrch Y Dyfodol yn Ein Dwylo, sydd yn cael ei gynnal mewn cydweithrediad â Bloedd Amgueddfa Cymru. Mae’r rhaglen gydweithredol yma yn gweithio gyda rhai 16-25 oed i arbrofi, creu ac arloesi.

Darllen mwy am yr ymgyrch Y Dyfodol yn Ein Dwylo

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd