Chwyldro’r Caffi Trwsio a’ch Hawl i Drwsio

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Angen trwsio rhywbeth ond ddim eisiau gwario arian prin?

Efallai bod hi’n amser ailfeddwl mynd i’r siop trwsio ar y stryd fawr ac edrych tuag at dy ganolfan cymunedol lleol. Nid yw’r syniad o Gaffi Trwsio yn un newydd, ond maent yn tyfu yn sydyn iawn yn eu poblogrwydd wrth gyda chostau byw yn cynyddu.

Beth yw Caffi Trwsio?

Mae Caffi Trwsio yn grŵp sydd yn cael ei arwain gan y gymuned. Maent yn trwsio eitemau o ddillad, technoleg, dodrefn a mwy. Os oes gen ti rywbeth sydd wedi torri ac eisiau ei drwsio neu adnewyddu, yna cer ag ef draw i Gaffi Trwsio. Mae yna bobl sydd yn arbenigo mewn crefftau amrywiol yn disgwyl ar fyrddau gwahanol. Cer draw i un o’r byrddau yma i gael trwsio eitem am gyfraniad bach. Byddant yn edrych ar yr eitem ac yn ceisio trwsio tra rwyt ti’n cael eistedd yn mwynhau paned a theisen.

Fel arfer cynhelir Caffis Trwsio mewn lleoliadau cymunedol. Mae’r un agosaf i’m mhrifysgol yn cael ei gynnal bob mis yng nghyntedd y theatr leol.

Beth wyt ti’n neu yno?

Er mod i wedi arfer mwy gyda helpu allan, yn ddiweddar roeddwn angen trwsio rhywbeth fy hun. Felly ffwrdd a mi gyda phâr o hen drowsus. I’r bin roedden nhw’n mynd pan gefais i nhw. ond roeddwn i’n rhy bengaled i gael gwared arnynt, yn eu gwisgo nes i’r defnydd dorri’n dyllau, felly rhoddais i nhw i’r arbenigwr gwnïo.

Dywedodd y gallai eu trwsio am y tro, a rhoddodd gyngor ar sut i’w cynnal, yn awgrymu y dylwn i ddefnyddio darn o ddefnydd i fynd dros y twll, ond y tu hwnt i hynny, nid oedd posib achub y trowsus mewn gwirionedd.

Tra roedd hi’n gweithio, eisteddais gyda phaned o de a sgwrsio. Roedd aelodau eraill y gymuned wedi dod i gael trwsio amrywiaeth o eitemau: roedd gan un gitâr, un arall beic, ac un cwpl gyda set o oleuadau llwyfan. Dim ond ychydig bunnoedd roeddent wedi talu am y gwaith.

Ar ôl tua 10 munud, cefais fy ngalw yn ôl i’r bwrdd gwnïo i weld fy nhrowsus! Roeddent yn ôl i’w cyflwr arferol ac, fel i mi ddarganfod, yn gallu cael eu gwisgo am bedair mis arall. Rwy’n hapus i ddweud, ar ôl iddynt ildio i gael gwisgo’n barhaol o gwmpas y tŷ, cawsant eu torri yn gadachau glanhau.

Os ydw i’n mynd eto, byddwn yn mynd gyda rhywbeth gwahanol. Mae gan rhai Caffis Trwsio arbenigwyr trwsio cyfrifiaduron, felly efallai byddai’n syniad i mi fynd gyda hen liniadur.

Sut gychwynnodd hyn i gyd?

Sefydlwyd y Caffi Trwsio cyntaf yn Amsterdam gan y newyddiadurwr Martine Postma. Y weledigaeth wreiddiol oedd newid ‘diwylliant gwastraffus‘ cymdeithas. Cychwynnodd yn cynhyrchu canllawiau i’r gymdeithas leol ar sut i gynhyrchu llai o wastraff, yna sefydlodd Gaffi Trwsio, cyn sefydlu’r Sefydliad Caffi Trwsio i gefnogi grwpiau lleol.

Mae’r Caffis Trwsio ledled y byd yn rhan o syniad llawer mwy, y symudiad Hawl i Drwsio. Mae’r symudiad Hawl i Drwsio yn credu y dylai bod gan bawb yr hawl i drwsio cynnyrch eu hunain.

Ar hyn o bryd, mae hyn yn golygu darganfod pobl sydd yn deall sut i drwsio systemau sy’n bodoli ac atal y rhain rhag mynd i’r domen sbwriel. Ond yn y dyfodol, mae’r symudiad yn gobeithio y bydd holl dechnoleg yn hawdd i’w trwsio i’r defnyddwyr eu hunain, gan gynnwys:

  • Mynediad i ddarnau sbâr fforddiadwy
  • Dogfennau trwsio wedi’i gynnwys yn y pecyn
  • Cynnyrch gellir tynnu’n ddarnau’n hawdd

Yn ôl gwefan Caffi Trwsio Cymru, mae’r caffis sydd yn rhan o’r sefydliad wedi trwsio 4779 o eitemau hyd yn hyn.

Gwybodaeth Berthnasol

I ddarganfod Caffi Trwsio yn dy ardal leol, cer i: https://repaircafewales.org/cy/

I weld mwy am sut mae pobl yn achub hen ddillad, cer i weld ymweliad TheSprout i’r Sustainable Studio.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd