Yn dilyn blwyddyn o waith caled, mae aelodau Ministry of Life o Gabalfa, Pentwyn a Tremorfa wedi derbyn gwobrau ym Mhencadlys y Sprout fis diwethaf.
Mae gennym luniau ecsgliwsif o’r digwyddiad mwyaf cyffrous yn y dref. Mae blwyddyn gyfan wedi gwibio heibio a’r bobl ifanc o glybiau ieuenctid y Ministry of Life yng Ngabalfa, Tremorfa a Pentwyn wedi bod yn gweithio’n galed ar eu sgiliau cerddorol, yn dod yn wir sêr y llwyfan. Ond bellach, maent yn sêr y sgrin hefyd, ar ôl creu cyfres o fideos cerddoriaeth wych. Bu’r criw yn taro strydoedd Bae Caerdydd mis diwethaf yn eu hwdis XO ATTRACTION arbennig.
Cychwynnodd y diwrnod gyda thaith i Radio Platfform yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Yn teimlo’n fwy cartrefol yn cael eu recordio nag yn gwneud y recordio, cafodd y criw Ministry of Life gyfle i gymryd yr awenau ar y decs pan oeddent ar yr awyr.
Hwn oedd noson lansio Wicked yng Nghanolfan y Mileniwm hefyd, y sioe gerddorol lwyddiannus sydd yn ail ddweud stori’r Wizard of Oz. Cafodd ygrŵp rhagolwg ecsgliwsif o ystafell parti noson y wasg. Roedd sêr y West End wedi bod yn hapus iawn i gael ymweliad gan bobl ifanc a sêr y dyfodol XO ATTRACTION yn ôl pob sôn.
Nesaf, aeth y criw Ministry of Life draw i swyddfeydd ProMo-Cymru (pencadlys y Sprout hefyd, a hwb y llinell gymorth Meic). Dysgwyd am Meic a theSprout.
Cafodd cerddorion talentog y Ministry of Life gyfle i gyfarfod tîm golygu theSprout, a derbyn ychydig o ffrîbîs cyn rhoi tro ar ffilmio gyda sgrinwerdd.
Ac yna roedd y foment fawr wedi cyrraedd wrth i’r sêr fynd i lawr y grisiau ar gyfer y seremoni wobrwyo! Roedd y byrddau wedi’u gosod a’r llwyfan yn barod ar gyfer parti mawr.
Nid oedd rhaid i neb ddisgwyl yn hir iawn i fwyta! Roedd y bwffe yn llawn snacs o gacennau bach del i wraps blasus.
Derbyniodd pawb eu gwobrau am weithio gyda’r Ministry of Life dros y misoedd diwethaf (blynyddoedd i rai).
Mae pawb wedi bod yn gweithio tuag at y gwobrau yma ers hir. Mae cymaint o waith caled wedi bod ynghlwm. Arweiniwyd y prosiect gan bobl ifanc y Ministry of Life, fu’n dylunio ac yn archebu’r hwdis wedi’u brandio, wedi ysgrifennu a pherfformio’u caneuon, ac yna wedi trefnu i ProMo-Cymru ddod draw i saethu’r fideos a chymryd lluniau i’r wasg.
Cafodd y criw gyfle i weld y fideos cerddoriaeth XO ATTRACTION am y tro cyntaf. Golygwyd y fideos gan Daniele, golygydd fideo ProMo-Cymru.
Gyda’r gwobrau yn dod i ben, staff y Ministry of Life, Jamie, oedd y DJ wrth i’r noson meic agored gychwyn.
Am weddill y noson cawsom arddangosiad o dalentau’r criw!
Llwyddodd 10 o bobl ennill gwobr Agored Cymru – Cyflwyniad i Ganu Roc a Pop, wedi’i gefnogi gan Gerddoriaeth Gymunedol Cymru. Cafodd 16 o bob lifanc Wobr Ieuenctid efydd gyda chefnogaeth Youth Cymru. Felly’r peth naturiol i’w wneud oedd cael arddangosfa o’r hyn y gallant ei wneud ar y diwedd!
Mae ProMo-Cymru wedi dod i weithio gyda’r Ministry of Life oherwydd Ymddiriedolaeth y Mileniwm felly hoffwn ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi bod yn rhan ohono.
Diolch enfawr hefyd i Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd a’r grantiau Arloesi Ieuenctid i alluogi’r prosiect yma. Fel y gwelwch, mae wedi bod yn llwyddiant mawr. Pwy a ŵyr beth ddaw nesaf i XO ATTRACTION?