ECSGLIWSIF! XO ATTRACTON yn cyflwyno Terri-Mae ac Abbie yn: RUSSIAN ROULETTE a F.R.I.E.N.D.S.

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r XO ATTRACTION yn grŵp dawns a cherddoriaeth newydd o’r Ministry of Life, Gabalfa.

Fel adroddwyd yn ddiweddar, aeth XO ATTRACTION allan ar strydoedd Bae Caerdydd i ddangos fideos eu sengl newydd.

Mae theSprout yn falch iawn o ddangos y ddau fideo, y wefan gyntaf i wneud hynny.

F.R.I.E.N.D.S.

Terri-Mae fu’n creu F.R.I.E.N.D.S, fersiwn o’r gân lwyddiannus gan Anne-Marie. Wedi’i ffilmio gan Caitlyn, a’i olygu gan olygydd fideo cerddoriaeth Eidaleg ProMo-Cymru, Daniele.

RUSSIAN ROULETTE

Abbie oedd seren RUSSIAN ROULETTE, fersiwn o gân lwyddiannus Rihanna! Ffilmiwyd hwn gan Ffion a’i olygu unwaith eto gan Daniele.

TU ÔL I’R LLENNI

Roedd y prosiect yn ganlyniad o waith caled y grŵp yng Ngabalfa dros y flwyddyn ddiwethaf. Roedd y bobl ifanc wedi ffurfio grŵp dawns a datblygu logo a hwdis eu hunain. Yna daeth y cyfle i ffilmio’r hyn roeddent wedi ei wneud a’i drawsffurfio i fideo cerddoriaeth o ansawdd uchel gan ddefnyddio technoleg sgrin werdd.

Derbyniodd XO ATTRACTION gefnogaeth gan y Ministry of Life, ProMo-Cymru ac Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm.

Cefnogwyd y grŵp hefyd gan raglen Arian am Oes Youth Cymru, sy’n cael ei gefnogi gan Lloyds Bank. Mae hwn yn fenter gymdeithasol i ehangu ymwybyddiaeth o arian, sgiliau cyllidebu a thwyll.

Roedd gan theSprout fynediad ecsgliwsif i seremoni wobrwyo’r Ministry of Life, gyda’r cerddorion ifanc yn cymryd i’r llwyfan unwaith eto. Darllenwch fwy a chael cip ar ein lluniau ecsgliwsif yma:

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd