LLUNIAU: Llwyddiant y Sêr Rap yng Ngwobrau Ministry of Life

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Yn dilyn blwyddyn o waith caled, mae aelodau Ministry of Life o Gabalfa, Pentwyn a Tremorfa wedi derbyn gwobrau ym Mhencadlys y Sprout fis diwethaf.

Joff, Cyfarwyddwr y Ministry , gyda’r dalent cerddorol Shane, Ffion, Abbie ac Alex.

Mae gennym luniau ecsgliwsif o’r digwyddiad mwyaf cyffrous yn y dref. Mae blwyddyn gyfan wedi gwibio heibio a’r bobl ifanc o glybiau ieuenctid y Ministry of Life yng Ngabalfa, Tremorfa a Pentwyn wedi bod yn gweithio’n galed ar eu sgiliau cerddorol,  yn dod yn wir sêr y llwyfan. Ond bellach, maent yn sêr y sgrin hefyd, ar ôl creu cyfres o fideos cerddoriaeth wych. Bu’r criw yn taro strydoedd Bae Caerdydd mis diwethaf yn eu hwdis XO ATTRACTION arbennig.

Ezra o Radio Platfform yn cael y criw i mewn am gyfweliad radio cyntaf.

Cychwynnodd y diwrnod gyda thaith i Radio Platfform yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Yn teimlo’n fwy cartrefol yn cael eu recordio nag yn gwneud y recordio, cafodd y criw Ministry of Life gyfle i gymryd yr awenau ar y decs pan oeddent ar yr awyr.

Terri-Mae a Rowen yn cael sesiwn jamio sydyn yn Radio Platfform.

Hwn oedd noson lansio Wicked yng Nghanolfan y Mileniwm hefyd, y sioe gerddorol lwyddiannus sydd yn ail ddweud stori’r Wizard of Oz. Cafodd ygrŵp rhagolwg ecsgliwsif o ystafell parti noson y wasg. Roedd sêr y West End wedi bod yn hapus iawn i gael ymweliad gan bobl ifanc a sêr y dyfodol XO ATTRACTION yn ôl pob sôn.

Shane yn bywiogi’r sgwrs yn hwb y llinell gymorth.

Nesaf, aeth y criw Ministry of Life draw i swyddfeydd ProMo-Cymru (pencadlys y Sprout hefyd, a hwb y llinell gymorth Meic). Dysgwyd am Meic a theSprout.

Andrew a Tom yn rhoi cyflwyniad i griw Ministry of Life.

Cafodd cerddorion talentog y Ministry of Life gyfle i gyfarfod tîm golygu theSprout, a derbyn ychydig o ffrîbîs cyn rhoi tro ar ffilmio gyda sgrinwerdd.

Abbie, Shane, Alex a Ffion yn cael tynnu eu lluniau gan ohebydd theSprout.

Ac yna roedd y foment fawr wedi cyrraedd wrth i’r sêr fynd i lawr y grisiau ar gyfer y seremoni wobrwyo! Roedd y byrddau wedi’u gosod a’r llwyfan yn barod ar gyfer parti mawr.

Diflannodd y bwffe yn sydyn iawn.

Nid oedd rhaid i neb ddisgwyl yn hir iawn i fwyta! Roedd y bwffe yn llawn snacs o gacennau bach del i wraps blasus.

Kady yn derbyn ei gwobr gyda Arielle a Joff.

Derbyniodd pawb eu gwobrau am weithio gyda’r Ministry of Life dros y misoedd diwethaf (blynyddoedd i rai).

Aelod hir dymor y Ministry of Life a’r artist ‘grime’ Taffari Falzon yn derbyn tystysgrif llwyddiant.

Mae pawb wedi bod yn gweithio tuag at y gwobrau yma ers hir. Mae cymaint o waith caled wedi bod ynghlwm. Arweiniwyd y prosiect gan bobl ifanc y Ministry of Life, fu’n dylunio ac yn archebu’r hwdis wedi’u brandio, wedi ysgrifennu a pherfformio’u caneuon, ac yna wedi trefnu i ProMo-Cymru ddod draw i saethu’r fideos a chymryd lluniau i’r wasg.

Derbyniodd Terri-Mae ddwy wobr. Gwelir yma gyda Joff ac Arielle oProMo-Cymru.

Cafodd y criw gyfle i weld y fideos cerddoriaeth XO ATTRACTION am y tro cyntaf. Golygwyd y fideos gan Daniele, golygydd fideo ProMo-Cymru.

Jamie ar y decs.

Gyda’r gwobrau yn dod i ben, staff y Ministry of Life, Jamie, oedd y DJ wrth i’r noson meic agored gychwyn.

Am weddill y noson cawsom arddangosiad o dalentau’r criw!

Perfformiad Kady yn creu argraff ar bawb.

Llwyddodd 10 o bobl ennill gwobr Agored Cymru – Cyflwyniad i Ganu Roc a Pop, wedi’i gefnogi gan Gerddoriaeth Gymunedol Cymru. Cafodd 16 o bob lifanc Wobr Ieuenctid efydd gyda chefnogaeth Youth Cymru. Felly’r peth naturiol i’w wneud oedd cael arddangosfa o’r hyn y gallant ei wneud ar y diwedd!

Kayleigh ar y llwyfan.

Mae ProMo-Cymru wedi dod i weithio gyda’r Ministry of Life oherwydd Ymddiriedolaeth y Mileniwm felly hoffwn ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi bod yn rhan ohono.

XO ATTRACTION yn arddangos eu talentau.

Diolch enfawr hefyd i Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd a’r grantiau Arloesi Ieuenctid i alluogi’r prosiect yma. Fel y gwelwch, mae wedi bod yn llwyddiant mawr. Pwy a ŵyr beth ddaw nesaf i XO ATTRACTION?

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd