Raheem Bailey: Hiliaeth A Bwlio Ymysg Pobl Ifanc

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Efallai dy fod di wedi clywed stori Raheem Bailey ar gyfryngau cymdeithasol a’r newyddion yn ddiweddar a chanlyniadau difrifol y bwlio bu’n dioddef.

Beth ddigwyddodd i Raheem?

Dywedodd Raheem, 11, o Flaenau Gwent, ei fod yn ceisio dianc o fwlïod yn ei ysgol ond bod ei fys wedi cael ei ddal wrth geisio dringo ffens i ddianc. Cafodd lawdriniaeth, ond yn anffodus, nid oedd posib achub ei fys. Dywedai ei fam bod y plant yn yr ysgol wedi bod yn cam-drin Raheem yn hiliol ac yn ei fwlio am ei daldra.

Mae Heddlu Gwent a Chyngor Blaenau Gwent yn archwilio’r digwyddiad.

Credyd llun: Rhannwyd gan Shantal Bailey, mam Raheem, ar Facebook

Beth ydy bwlio?

Bwlio ydy pam fydd rhywun yn gwneud rhywbeth drosodd a throsodd sydd yn achosi niwed i rywun arall. Nid ymosodiadau corfforol yn unig; gall fod yn pryfocio, galw enwau, bygythiadau neu fwlio ar-lein.

Mae bwlïod yn defnyddio sawl rheswm i fwlio rhywun. Gall ymwneud â thueddiadau rhywiol, lliw croen, crefydd, rhyw, taldra, pwysau, neu unrhyw nifer o resymau eraill. Ond mae un peth yn sicr – dyw bwlio BYTH yn iawn. Mae gen ti hawl i beidio cael dy fwlio.

Hiliaeth a bwlio hiliol ydy pan fydd rhywun yn cam-drin neu’n bwlio rhywun arall oherwydd hil, ethnigrwydd neu ddiwylliant. Gall fod ar lafar, yn gorfforol neu drwy negeseuon. Mae’n anghyfreithlon ymosod ar rywun yn gorfforol neu eu trin yn wahanol oherwydd hil.

Beth ddylwn i’w wneud?

Nid ti sydd ar fai os wyt ti’n cael dy fwlio. Siarada â rhywun a dweud beth sydd yn digwydd. Hyd yn oed os wyt ti’n ofni neu’n cael dy fygwth, y ffordd orau i stopio’r bwlïod ydy i ddweud wrth rywun. Unwaith i ti ddweud wrth rywun, gellir gwneud pethau i dy helpu.

Mae bob ysgol yn gorfod cael polisi gwrth-fwlio yn gyfreithiol. Cer draw at flog Meic, 6 Cam i’w Cymryd Os Wyt Ti’n Cael Dy Fwlio, sydd â chyngor ar sut i adrodd bwlio a sut i wneud cwyn swyddogol os nad yw’r ysgol yn gwrando.

Os wyt ti’n cael dy fwlio, neu’n poeni am rywun arall sydd yn cael ei fwlio, neu yn dioddef o brofiadau bwlio’r gorffennol, gofynna am help.

Efallai dy fod di wedi bwlio pobl eraill dy hun, ac mae profiad Raheem wedi gwneud i ti feddwl am dy ymddygiad, ac rwyt ti angen help i stopio.

Os yw profiad Raheem wedi cael effaith arnat ti mewn unrhyw ffordd, mae Meic yma i helpu. Os wyt ti’n ansicr pwy i siarad â nhw, neu yn cael trafferth dod o hyd i rywun sydd yn cymryd ti o ddifrif, yna mae Meic yma i wrando, cynnig cyngor ac yn gallu eirioli ar dy ran (siarad â rhywun arall i/gyda thi). Gellir cysylltu â Meic am ddim bob dydd rhwng 8yb a hanner nos ar y ffôn, neges testun a sgwrs ar-lein.

Meic

Gwybodaeth bellach

Rhannwyd y blog yma’n wreiddiol gan Meic, y llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i bobl ifanc yng Nghymru.

Mae tudalennau gwybodaeth Bwlio TheSprout yn cynnwys gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael am unrhyw beth yn y blog yma a mwy, gan gynnwys:

Childline – egluro beth ydy hiliaeth a bwlio hiliol, beth fedri di wneud, sut i helpu pobl eraill, pam bod rhai pobl yn hiliol a sut i sefyll fyny am hiliaeth.

Stop Hate UK – adnoddau ar-lein gwych i bobl ifanc, gan gynnwys beth ydy trosedd casineb ar-lein, sut i’w herio a sut i’w adrodd.

Kidscape – cyngor da am beth i’w wneud os wyt ti’n cael dy fwlio.

Bullies Out – gwybodaeth i bobl ifanc sydd yn cael eu bwlio, sut i helpu rhywun arall sydd yn cael ei fwlio ac os wyt ti’n fwli dy hun.

Young Minds – canllawiau ar fwlio, cael help a chyngor gan bobl ifanc eraill.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd