Mae’r erthygl hon yn un o gyfres o straeon yn rhannu profiadau, meddyliau a theimladau go iawn gan bobl ifanc yn byw yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod clo. I weld straeon eraill, clicia yma.
C1. Beth yw’r peth pwysicaf rwyt ti wedi dysgu am dy hun yn ystod y cyfnod clo?
Rwy’n hapus gyda chwmni fy hun ac wedi mwynhau cael amser yn yr ardd, sydd erioed wedi edrych mor dda yn fy marn i. Rwyf wedi cael amser i fynd am dro, gwylio a gwrando ar yr adar yn canu, gallwn glywed cnocell y coed ar waelod yr ardd. Rwyf wedi ymlacio lot.
C2. Beth yw’r peth sydd wedi aros yn y cof fwyaf yn ystod y cyfnod clo?
Gallu gweithio yn yr ardd yn y cyfnod clo cyntaf gan nad wyf wedi bod mewn iechyd da. Dim ond pan oeddwn yn teimlo fel y gallwn ymdopi yr oeddwn i’n gweithio. Dim ond am gyfnodau bach gallwn weithio, ond roeddwn yn gallu tyfu planhigion o hadau, rhywbeth nad oeddwn wedi gallu gwneud o’r blaen.
C3. Eglura pa bethau rwyt ti’n ei golli fwyaf o dy fywyd cyn COVID-19. Sut wyt ti am sicrhau nad wyt ti’n cymryd y rhain yn ganiataol yn y dyfodol?
Roeddwn yn colli fy ffrindiau, ond roeddem yn cynnal galwadau fideo, sgyrsiau a chwisiau, ac mae’n rhaid cyfaddef fy mod i wedi mwynhau’r rhain yn fawr iawn. Gallwn barhau gyda fy nosbarthiadau Tai Chi, rhywbeth oedd yn fuddiol iawn. Rwy’n colli mynd allan i’r siopau am gynhwysion penodol i goginio. Nid wyf yn colli’r torfeydd. Dyma’r tro cyntaf ers blynyddoedd hefyd i mi beidio cael annwyd neu deimlo’n wael, sydd yn debygol o ddangos bod pobl yn cario germau yn gyffredinol, a gyda’r system imiwnedd gwan sydd gen i, rwyf wedi bod yn lwcus iawn mewn ffordd od.