Stori Jessica

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae’r erthygl hon yn un o gyfres o straeon yn rhannu profiadau, meddyliau a theimladau go iawn gan bobl ifanc yn byw yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod clo. I weld straeon eraill, clicia yma.

 

C1. Beth yw’r peth pwysicaf rwyt ti wedi dysgu am dy hun yn ystod y cyfnod clo?

Cyn lleied yr wyf yn dibynnu ar eraill a’r byd tu allan. Mae’n ymddangos fy mod i’n mwynhau cwmni fy hun llawer mwy na’r person arferol. Roedd gweld eraill yn cael trafferth ymdopi gyda’r cyfnod clo (ac iawn hefyd) yn gwneud i mi sylweddoli hyn. Rwy’n hoffi bod yn rhywun sydd yn mwynhau cwmni ei hun ac yn gallu darganfod ffyrdd i gadw’n brysur.

 

C2. Beth yw’r peth sydd wedi aros yn y cof fwyaf yn ystod y cyfnod clo?

Y peth cyntaf sydd yn dod i’r meddwl ydy’r holl feddyliau amherthnasol wrth geisio gweithio/astudio o gartref. Yn benodol, pan roeddwn yn pendroni faint oed oedd y goeden dderw yn yr ardd wrth geisio gwneud aseiniad. Felly, yn lle ysgrifennu’r traethawd fel yr oeddwn i wedi bwriadu, treuliais amser ar Google yn ceisio darganfod oedran y goeden heb ei dorri lawr. Gyda llaw, mae posib gwneud hyn, felly allan a fi yn fy mhyjamas a bynsen flêr, yn gwisgo sanau a ‘sliders’ enfawr fy llystad i fynd i fesur cylchedd y goeden gyda thâp mesur bach. Wel, mae’r goeden yn fawr *iawn* a ni allwn ymestyn fy mreichiau o’i amgylch, felly roeddwn i’n edrych fel bod i’n ceisio rhoi cwtch i goeden. Ac fe recordiais y cyfan hefyd!

Atgof arall cyffredinol ydy pa mor od oedd pawb yn ystod y cyfnod clo (ddim cwyno ydw i). Er esiampl, clywais ddyn yn canu opera yn uchel iawn i mewn i ficroffon ger y tŷ… ar bwrpas.

 

C3. Eglura pa bethau rwyt ti’n ei golli fwyaf o dy fywyd cyn COVID-19. Sut wyt ti am sicrhau nad wyt ti’n cymryd y rhain yn ganiataol yn y dyfodol?

Y prif beth rwy’n colli ydy gweld mam-gu a thad-cu a fy nghefndryd a chyfnitherod bach. Maent yn tyfu mor sydyn, ac rwyf wedi colli allan ar flwyddyn (bron) o’u plentyndod. Yr eironi ydy mod i wedi gwneud adduned blwyddyn newydd i weld mam-gu a thad-cu yn fwy aml, ond mae COVID wedi troi’r dymuniad yma i’r gwrthwyneb.

 

Os oes unrhyw beth yn stori Jessica sydd wedi cael effaith arnat ti, siarada gyda Meic, llinell gymorth gyfrinachol i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Cysyllta yng Nghymraeg neu Saesneg – dy ddewis di! Maent yn agored 8yb tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Gellir cysylltu ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein. Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim i bawb.

 

 

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd