Mae’r erthygl hon yn un o gyfres o straeon yn rhannu profiadau, meddyliau a theimladau go iawn gan bobl ifanc yn byw yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod clo. I weld straeon eraill, clicia yma.
C1. Beth yw’r peth pwysicaf rwyt ti wedi dysgu am dy hun yn ystod y cyfnod clo?
Nid oes dim yn fy ysgogi gan fod y coleg ar gau. Nid wyf yn hoff o wneud pethau – bydda’n well gen i aros yn y gwely. Ond, rwyf wedi dysgu fy mod i’n eithaf creadigol. Rwyf wedi bod yn golygu fideos ac yn peintio sydd wedi bod yn gymorth i ymlacio. Gallaf wneud hyn yn fy amser rhydd nawr.
C2. Beth yw’r peth sydd wedi aros yn y cof fwyaf yn ystod y cyfnod clo?
Y cyfnod mwyaf cofiadwy oedd tymor yr arholiadau. Roeddwn wedi bod yn adolygu ers sbel a chefais fy nhaflu braidd gydag addysg pan glywais fod yr arholiadau wedi’u canslo. Gwyddwn na fyddai’r canlyniadau mor dda gan mai’r athrawon oedd yn rhoi’r radd. Nid oedd llawer o fynd ynof ar ôl hyn, ond rwy’n dechrau gwella nawr.
C3. Eglura pa bethau rwyt ti’n ei golli fwyaf o dy fywyd cyn COVID-19. Sut wyt ti am sicrhau nad wyt ti’n cymryd y rhain yn ganiataol yn y dyfodol?
Rwy’n colli cael mynd allan i siopa – ond dyna’r cyfan. Rwy’n berson mewndroëdig iawn, felly nid oes llawer wedi cael effaith arnaf gan fod i wedi hen arfer aros gartref a gwneud pethau fy hun, felly nid oedd hyn yn newid mawr. Gallaf fynd allan i gerdded ac archebu bwyd o hyd, felly nid yw pethau’n rhy ddrwg. Ond rwy’n colli cael gweld teulu.