Mae’r erthygl hon yn un o gyfres o straeon yn rhannu profiadau, meddyliau a theimladau go iawn gan bobl ifanc yn byw yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod clo. I weld straeon eraill, clicia yma.
C1. Beth yw’r peth pwysicaf rwyt ti wedi dysgu am dy hun yn ystod y cyfnod clo?
Dysgais fy mod i’n ffynnu o fod yn yr awyr agored ac yn mwynhau treulio amser gyda theulu yn mwynhau’r ardaloedd lleol o harddwch naturiol. Nid oes rhaid teithio pan mae cymaint i’w gynnig yn lleol.
C2. Beth yw’r peth sydd wedi aros yn y cof fwyaf yn ystod y cyfnod clo?
Dad yn ffonio yn drist ac yn unig a finnau’n gallu gwneud dim am y peth, gan nad allwn i fynd i’w weld nac rhoi gwahoddiad iddo drosodd am swper i godi hwyliau.
C3. Eglura pa bethau rwyt ti’n ei golli fwyaf o dy fywyd cyn COVID-19. Sut wyt ti am sicrhau nad wyt ti’n cymryd y rhain yn ganiataol yn y dyfodol?
Gallu teithio’r byd yn ddibryder, mae gen i lawer o ffrindiau dramor ac mae wedi bod yn eithaf ddi-straen mynd i ymweld â nhw yn y gorffennol. Ni fyddaf byth yn cymryd rhyddid y byd yn ganiataol eto.