Mae’n edrych fel penwythnos heulog arall yng Nghaerdydd, er efallai bydd yna ychydig o law wythnos nesaf o’r diwedd. Felly dyma’r amser i fynd allan a mwynhau! Unwaith eto, mae theSprout yma gyda phigion gorau o’r digwyddiadau fydd ddim yn torri’r banc.
Reid Beic Glan yr Afon, Casnewydd
14 Gorffennaf, 13:00 – Theatr Glan yr Afon, Casnewydd – Am ddim
Bob dydd Sadwrn, mae haid o feicwyr amatur yn beicio o gwmpas ardal llawn addewid Glan yr Afon, Casnewydd. Mae’r digwyddiad yn apelio i’r rhai sydd efallai heb fod ar y beic ers tro. Mae yna fag o nwyddau am ddim i unrhyw un sydd yn cwblhau’r cwrs ddeg gwaith! Mae’n debyg bydd y tywydd yn wych, felly beth am ychwanegu i’r her wrth feicio yno o Gaerdydd drwy Gaerffili, ar lwybr sydd yn rhydd o unrhyw draffig?https://www.sustrans.org.uk/cy/cymru Os nad yw hynny’n apelio, yna beth am deithio ar y trên. Gofynna cyn cychwyn os yw’r trên yn caniatáu beic. Gwybodaeth bellach ar Let’s Ride.
Cwis Cineworld Pixar
14 Gorffennaf – Cineworld Caerdydd- £1 (<18), £2 (18+)
Mae’r ffaith bod yr Incredibles 2 yn dod allan yn rywbeth enfawr, a gallai hyn fod yn ddigwyddiad yn ei hun! Ond yn well nag hynny, mae Cineworld Caerdydd yn cynnal cwis er budd Plant Mewn Angen y BBC. Dyma gwis gyda thema Pixar! Parcia dy ‘Cars’, gwylia dy bwntiau yn mynd ‘Up’, ail fyw’r ‘Toy Story’ a chofia, wedi’r cwbl, mae’n ‘Bug’s Life’!! Gellir cael timau hyd at 5 aelod ac mae’n hanner pris i rai dan 16, sef £1 y chwaraewr. Gwybodaeth bellach ar Facebook.
Cyd-ganu: The Greatest Showman
14, 15, 20 Gorffennaf – Canolfan Gelfyddydau Chapter – £3
Dywedodd P.T.Barnum, yr un dan sylw yn The Greatest Showman, “you should never hide your light under a bushel”. Felly ‘Come Alive’ a chanu gyda phŵer ‘A Million Dreams’ – ar ôl y ffilm cyd-ganu yma, bydd aros mewn sinema ddistaw ‘Never Enough’. Dim ond £3 ydy tocynnau yn Canolfan Gelfyddydau Chapter.
Gŵyl Haf Gleision Caerdydd
14 Gorffennaf 11yb – Parc yr Arfau Caerdydd – Am ddim i rai dan 16 oed (£3 16+)
Cyfle i gyfarfod a thynnu lluniau gyda chwaraewyr tîm rygbi Gleision Caerdydd, gan gynnwys capten Cymru a’r Llewod Prydeinig, Sam Warburton. Mae’r Gleision yn dathlu cyrhaeddiad cit newydd, gan gynnwys tri dyluniad jersi newydd. Bydd yna gyfle i dynnu lluniau gyda’r Cwpan Sialens Ewropeaidd, cwpan enillodd y Gleision yn ôl yn mis Mai. Tocynnau ar gael yma, am ddim i rai dan 16 oed.
Côr Merched Lleisiau Affinity: Be Our Guest!
15 Gorffennaf 7yh – Canolfan Gelfyddydau Chapter – £6
Dyma’r ail ddigwyddiad Disney yr wythnos hon i’r rhai ohono’ch sydd yn gwirioni ar y Lygoden Ddu! Mae côr merched yn canu llwyth o ganeuon Disney i’n diddori. Tocynnau i rai dan 18 oed yn £6 ar wefan Chapter.
Diwrnod Gemau Bwrdd i’r Teulu
15 Gorffennaf 11yb – Canolfan Gelfyddydau Chapter – AM DDIM
Mae’r Chapter yn cynnig gwledd i ni yr wythnos hon gyda llwyth o ddigwyddadau rhad i’r teulu. Mae siop gemau bwrdd annibynol Caerdydd, Rules of Play, yn cynnal y digwyddiad rhad ac am ddim yma i bobl o bob oedran. Cyfle i ddygu ychydig o gemau hwyl mewn amgylchedd trendi caffi Chapter. Gwybodaeth bellach yma.