Pethau Rhad Ac Am Ddim i Wneud Yng Nghaerdydd: 20-27 Gorffennaf 2018

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Hon yw’r wythnos diwethaf yn yr ysgol i sawl person ifanc yng Nghaerdydd. Bydd angen meddwl am ddigon o bethau cyffrous i’w gwneud o wythnos nesaf ymlaen ar ôl dioddef yr holl fisoedd caeth mewn dosbarth myglyd poeth.

Dyma le gall theSprout helpu. Croeso i’n dewis ni o bethau rhad ac am ddim i’w gwneud yn y ddinas yn ystod y 7 diwrnod nesaf.

Clwb Comedi The Drones

20 Gorffennaf 9yh – Canolfan Gelfyddydau Chapter – £3.50

Mae’r noson gomedi yma, cynhelir ddwywaith y mis, yn dychwelyd i’r Chapter! Dyma un o’r nosweithiau allan rhataf yn y ddinas, gan mai dim ond £3.50 ydy tocyn. Bydd yna gomediwyr gwych yn sicr o fod yn perfformio bob tro, felly cer draw am dref Canton. Tocynnau ar gael yma.

Straeon Sherman 5

20 a 21 Gorffennaf 10:30-17:00 – Theatr y Sherman – Am ddim

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae Theatr y Sherman wedi bod yn cynnal rhaglen y Sherman 5. Mae’r rhaglen yn gwahodd pobl o gefndiroedd difreintiedig i’r theatr. Maent yn cynnig trafnidiaeth am ddim, sioe gyntaf am ddim a llawer iawn o ddisgownt. Ar y dydd Sadwrn bydd yna ddiwrnod llawn o ddigwyddiadau am ddim yn dathlu pum mlynedd o’r rhaglen. Bydd deg ffilm fer yn cael ei ddangos yn dogfennu cynnydd cyfranogwyr nodedig, yn ogystal ag arddangosfa ffotograffiaeth. Gwybodaeth bellach ar gael gan Sherman.

Cyflwyniad i Permaddiwylliant

21 Gorffennaf 10:30-16:30 – Global Gardens, Caerdydd – Am ddim

Wyddost ti fod gan Gaerdydd ardd fyd-eang ei hun? Wyddost ti hefyd fod gennym ni Rwydwaith Permaddiwylliant? Nid wyf yn rhy sicr beth yw ystyr hyn yn bersonol, ond mae’n ymddangos fel ffordd dda i gael dy ddwylo’n fudr. Mae’r digwyddiad yn addo garddio bwytadwy – cinio am ddim felly! Tocynnau am ddim ar Eventbrite.

Theatr Awyr Agored: King Lear

Dydd Sul, 22 Gorffennaf 8yh – Gerddi Soffia – £8 (dan 18)

Os wyt ti ar fin dechrau yn y chweched ym mis Medi, beth am ddod yn gyfarwydd gydag astudiaethau Saesneg Lefel-A yn gynnar, a gwylio’r cynhyrchiad Theatr Ieuenctid Everyman yma? Mae tudalen Facebook y digwyddiad yn addo “fersiwn byr o’r clasur”. Be well nag mwynhau’r haf wrth wylio dyn yn tynnu llygaid ei hun allan ar y llwyfan?

Rhyfeddodau Tanddwr

23-26 Gorffennaf – Gwlypdiroedd Casnewydd – £5.50

Ydy trochi mewn pyllau yn swnio fel hwyl? Beth os cei di ddefnyddio camera tanddwr? Swnio’n cŵl? Tynna luniau o bysgod a holl fywyd gwyllt y tanddaearol sydd yn llercian dan arwyneb gwlypdiroedd eang Casnewydd. Gwybodaeth bellach ar wefan y RSPB.

Ac yn olaf…

Os wyt ti’n hapus i ymlacio ar ychydig o reidiau ffair hen ffasiwn, mae Gŵyl Traeth y Bae Capital FM yn parhau. Os oes gen ti arian i’w wario beth am roi tro ar ddigwyddiadau gwyliau haf Boulders, lle gallet ti ddysgu dringo mewn diwrnod am £15 (offer yn gynwysedig). A chofia prynu dy docynnau ar gyfer Penwythnos Mawr Pride Cymru ym mis Awst.

Mwynha dy wythnos!


Yn chwilio am fwy o ddigwyddiadau? Beth am nodi tudalen digwyddiadau theSprout am wybodaeth gyfoes. Cofia ddod yn ôl wythnos nesaf am fwy o bethau gwych i wneud yng Nghaerdydd fydd ddim yn torri’r banc.

Credyd llun clawr: Kane Reinholdtsen ar Unsplash

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd