Pethau Rhad Ac Am Ddim i Wneud Yng Nghaerdydd: 27 Medi – 3 Hydref

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae bwrlwm Wythnos y Glas yn parhau, y mwyafrif wedi setlo yn yr ysgol a’r bobl yn ôl yn eu gwaith. Mae pethau yn ôl i’r norm, gyda phobl yn dechrau cynilo ar gyfer y gwyliau nesaf. Felly bydda restr o ddigwyddiadau rhad ac am ddim Caerdydd yn siŵr o helpu!

Nid yw’n anodd darganfod rhywbeth i’w wneud yr wythnos hon – gan fod y myfyrwyr yn ôl mae’n debyg. Rwyf wedi darganfod cymaint o ddigwyddiadau’r wythnos hon fel nad allaf restru pob un, neu yma fydda ni fyth! Dyma rhai o’r goreuon i mi eu gweld – ond y gwir ydy, os wyt ti’n mynd am dro o amgylch y dref, yn enwedig yn agos i’r Prifysgolion, ti’n siŵr o ddarganfod llwyth o bethau diddorol i’w gwneud.

Comedi’r Grange

27 Medi – 7:30 – 10:30yh – Tafarn The Grange – Am Ddim

Mae The Grange, tafarn annibynnol yn Grangetown, yn cynnal ei noson gomedi gyntaf. Mae’n rhad ac am ddim gyda digrifwyr cyfarwydd o’r gyfres BBC boblogaidd Sesh. Manylion ar Facebook.

Cerdded Milltir Yn Ei Hesgidiau Hi 2018

28 Medi – 10yb-12yp – Cychwyn yng Nghastell Caerdydd – Am ddim

Digwyddiad sy’n cael ei gynnal gan Gymdeithas Tai Cadwyn yng Nghaerdydd ble mae’r dynion yn gwisgo esgidiau merched ac yn cerdded milltir i godi ymwybyddiaeth o faterion sydd yn cael effaith ar ferched, fel camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol. Darllena fwy ar Facebook.

Parti Croesawu HOYFest x CALM

28 Medi – 6pm tan hwyr – Moon – Am ddim (croesawir rhoddion)

Mae gŵyl gerddoriaeth fawr y HOYfest yn cael ei gynnal y penwythnos hwn, wedi’i leoli yn, ac o gwmpas Stryd Womanby. Mae’r prif ddigwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghlwb Ifor Bach trwy’r penwythnos ond bydd y cwrs cyntaf rhad hon yn cael ei chynnal yn y Moon. Er budd CALM (Ymgyrch Yn Erbyn Byw’n Druenus). Darllen mwy ar Facebook.

JAMMIND – Jamio gemau iechyd meddwl

28-30 Medi – cychwyn am 4:30yp – Prifysgol Caerdydd – Am ddim

Er bod y digwyddiad yma am ddim, bydd angen i ti roi dy benwythnos cyfan, defnyddio dy sgiliau dylunio gêm a bod yn barod i gydweithio â rhai o feddyliau niwrowyddonwyr gorau’r byd i greu gemau sydd yn archwilio iechyd meddwl. Mae’n edrych fel y bydd bwyd yno, felly dylai hynny fod yn dda. Cadwa le ar Eventbrite.

Drysau Agored: Archifau Morgannwg

29 Medi – 10yb-2yp – Archifau Morgannwg (ger cae Dinas Caerdydd) – Am ddim

Mae Archifau Morgannwg yn adeilad enfawr yn llawn hen gofnodion Caerdydd a’r siroedd cyfagos, wedi’i leoli ger Stadiwm Dinas Caerdydd. Wrth i’r rhaglen Drysau Agored ddod i ben, bydd diwrnod agored yr archifau yn canolbwyntio ar hanes glo Cymru.

Rhedeg Cymdeithasol Mawr Caerdydd

30 Medi – 10yb-12yp – Pafiliwn Grangetown – Am ddim

Mae’n rhedeg cymdeithasol, ond hefyd mae’n 10k, felly nid yw’n daith i gychwynwyr. Dwi’n dyfalu bod pobl yn rhedeg yn ddigon sydyn fel y gallant barhau i siarad â’i gilydd. Dylai fod yn hwyl – ac mae’r rhagolygon tywydd yn dda. Cadwa le ar Eventbrite.

Dydd Iau Cyntaf Y Mis: Hydref 2018

4 Hydref – 7:30yh – Chapter – £3

Mae Seren, y cyhoeddwr Cymraeg, yn cynnal noson wych o farddoniaeth a llenyddiaeth. Mae hwn yn werth mynd iddo (a dyna pam ei fod ar y rhestr hon wythnos yn fuan). Gwybodaeth yma. Talu ar y drws.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd