O Berthynas Iach i Ffantasi’r Dyfodol: Y Sprout Yn 2021

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

Mae 2021 wedi bod yn flwyddyn prysur iawn i’r Sprout! Gad i ni edrych ar y 5 ymgyrch cynhaliwyd yn y flwyddyn ddiwethaf.

#TiYnHaeddu Perthnasau Iach

Gall perthynas fod yn hwyl ac yn foddhaol, ond weithiau gall fod yn ddryslyd ac yn anodd gwybod beth i wneud os bydd pethau yn mynd o’i le. Bod hynny’n ffrindiau, partner rhamantus neu aelodau o’r teulu, #TiYnHaeddu cael perthnasau iach.

Bu 6 person ifanc yng Nghaerdydd yn tyrchu’n ddofn i mewn i’r gwahaniaethau rhwng perthnasau iach, afiach a cham-drin yn ystod yr ymgyrch #TiYnHaeddu.

Y Dyfodol Ffeministaidd

Ymgyrch pythefnos o hyd oedd Y Dyfodol Ffeministaidd, wedi ei greu ar y cyd gyda phobl ifanc o Greawdwyr Ifanc gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd.

Daeth y syniad am yr ymgyrch Y Dyfodol Ffeministaidd o drafodaeth gyda’r bobl ifanc yn ystod diflaniad a llofruddiaeth Sarah Everard yn fis Mawrth 2021. Yn dilyn y digwyddiadau yma, roedd cryn sylw ar gyfryngau cymdeithasol ac yn y newyddion am ddiogelwch merched. Gofynnwyd cwestiynau fel ‘pam oedd hi’n cerdded ar ben ei hun yn y nos?’ a ‘beth oedd hi’n gwisgo?’ i geisio gwneud synnwyr o’r digwyddiadau hunllefus yma. Mae sylwadau fel hyn yn achos pryder mawr.

O hyn, daeth pobl ifanc o bob cwr o Gaerdydd at ei gilydd i drafod materion cysylltiedig pwysig, fel hawliau merched, grymusom ddiogelwch a chydraddoldeb. Bu’r grŵp yn gweithio â’i gilydd i greu cynnwys ar gyfer ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r materion sydd yn parhau i wynebu merched heddiw ac ymgyrch ar gyfer newid!

Gwên o Haf: Beth Mae’n Ei Olygu i Fod yn Berson Ifanc yng Nghaerdydd?

Fel rhan o’r ŵyl Gwên o Haf yng Nghaerdydd yn haf 2021, rhoddwyd cyfle i bobl ifanc creadigol rhwng 14 a 18 oed i gymryd rhan mewn comisiwn celf. Derbyniodd 7 o bobl ifanc £300, a chostau deunyddiau ac offer, i greu darn o gelf am yr hyn roedd bod yn berson ifanc yn byw yng Nghaerdydd yn ei olygu iddyn nhw.

Roedd gan y bobl ifanc 3 wythnos i greu darn o gelf o’r syniad cychwynnol i’r darn gorffenedig. Arddangoswyd y darnau yn ystod wythnos olaf Gwên o Haf ar brif safle’r ŵyl gyda’r artistiaid ifanc yn arddangos eu gwaith gyda balchder.

Cynhyrchwyd yr ymgyrch gyda chymorth newyddiadurwr ifanc, a oedd hefyd yn derbyn tâl, fu’n cyfweld yr holl artistiaid gan holi am eu hysbrydoliaeth, ystyr y gwaith, a’r profiad

Cerdyn Post o’r Dyfodol

Wyt ti wedi meddwl beth ddaw o’r byd yn y dyfodol, mewn 50 mlynedd efallai? Mae pobl ifanc wedi derbyn yr her gan ddarlunio eu delwedd nhw o’r dyfodol ar gyfer Pen-blwydd Canolfan Gelfyddydol y Chapter yn 50 oed.

Gwahoddodd y Chapter bobl ifanc rhwng 5 a 16 oed o Gaerdydd, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful i gymryd rhan yn y gystadleuaeth. Yr her oedd gyrru cerdyn post i’w hunain o ddyfodol dychmygol, 50 mlynedd i ffwrdd.

Ar ôl derbyn 1,200 o gyflwyniadau gan 17 o ysgolion bu’r Chapter yn gweithio gyda phanel arbenigol o feirniaid i ddod i’r canlyniad anodd am y tri uchaf ymhob grŵp oedran. Yn dilyn hyn, cafwyd pleidlais gyhoeddus ar-lein i ddewis un enillydd, Anna Hughes, a chafodd ei cherdyn post ei arddangos ar flwch golau Chapter am 6 mis!

Gwaith y 9 uchaf a chyfweliadau gyda’r artistiaid yn yr ymgyrch Cerdyn Post o’r Dyfodol.

Cefnogi Pobl Ifanc Caerdydd

Wyt ti’n berson ifanc yng Nghaerdydd sydd angen cymorth, ond ddim yn siŵr ble i droi? Cer i weld yr ymgyrch Cefnogi Pobl Ifanc Caerdydd – sydd yn rhannu’r cymorth sydd ar gael gan wasanaeth Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd (CACID).

Rhannwyd llawer iawn i wybodaeth am y gwasanaeth a sut i gael help pan fyddi di ei angen. Gellir clywed gan gynghorwr CACID a llawer o bobl ifanc sydd wedi rhannu eu stori am gael cymorth gan wasanaeth Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd.

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

promo cymru
Sprout Cymraeg : Newyddion a Gwybodaeth i Bobl Ifanc Caerdydd