Fel rhan o’n hymgyrch Y Dyfodol yn ein Dwylo, siaradom gyda Julia a Sarah, a gychwynnodd y Sustainable Studio, am yr ysbrydoliaeth a’r heriau a ddaw wrth weithio’n gynaliadwy.
Pwy yw rhai o’ch dylunwyr neu frandiau cynaliadwy gorau?
Rhannodd Sarah ei chariad am Vivienne Westwood: “Dwi’n meddwl mai hi oedd y catalydd i mi fynd i’r diwydiant fasiwn, ond roedd hynny cyn iddi fod yn trendi. Dwi’n meddwl ei bod yn ddylunydd chwyldroadol. Mae hi wastad wedi gwneud pethau o flaen ei hamser, ac nid yw’n poeni am farn pobl eraill mewn gwirionedd – dwi’n hoffi hynny amdani. Wrth ddylunio, dwi’n hoffi defnyddio’r un math o feddwl yn fy ngwaith i”.
Soniodd Sarah hefyd am gefnogi brandiau lleol a Chymraeg fel Hiut Denim, sydd yn cynnig gwasanaeth trwsio am ddim am oes y dilledyn.
Rhannodd Julia ei siwrne o siopa’n gynaliadwy dros y blynyddoedd. “Yn tyfu i fyny, roeddwn i’n hoff o’r feib syrffio a sgrialu, felly byddwn i’n mynd am Howies bob tro – brand Cymraeg. Yn fwy diweddar, dros y 5 mlynedd diwethaf, dwi wedi siopa mewn siopau elusennau yn unig. Mae Patagonia yn gwmni gwych, ond dwi ddim wedi prynu’n newydd, dim ond wedi bod yn berchen ar bethau ail-law”.
Mae’n parhau, “Wrth i ni gychwyn, roedd yna frand Good One oedd yn cŵl iawn. Roeddent yn cymysgu ac yn creu steil newydd. Hi oedd un o sefydlwyr Fashion Revolution, ac roedden ni bob tro’n ei dilyn hi”.
Pan ddaw at feddwl am ddylunwyr a brandiau dillad ffasiwn gynaliadwy eraill mae Julia’n cyfaddef, “Dwi’n hoffi edrych bob hyn a hyn a gweld beth mae pobl yn ei wneud. Rydym wastad yn edrych ar ddatblygiadau newydd mewn technoleg defnydd, fel polyester wedi ei ailgylchu. Dwi’n meddwl ei fod yn syniad da cadw llygaid ar beth sydd yn digwydd nesaf gan fod cymaint o ddatblygiadau yn ddiweddar”. Ychwanegodd Sarah, “gellir cael ysbrydoliaeth o ddylunwyr mawr a chyflwyno hyn i frandiau dy hun, yn enwedig gyda uwchgylchu – mae’n ddiddiwedd”!
Stori DA-TI
Mae gan Sarah a Julia frand o’r enw DA-TI.
“Roedd gennym frand arall cyn DA-TI, sef Zolibeau, sydd yn golygu prydferth prydferth. Roeddem yn ei alw’n hyn gan ein bod eisiau cymryd pethau fydda’n cael eu taflu a’u troi’n eitemau prydferth. Dyna oedd cychwyn DA-TI a’n harbrofi gyda’r brand”, eglurai Sarah.
“Meddyliwyd sut oedd posib cymryd uwchgylchu a’i droi’n rhywbeth mwy masnachol. Yna sefydlwyd y stiwdio, a gymerodd lot o amser, ac yn y cyfnod yma cafwyd ychydig o ail-frandio. Daeth Covid-19, ac roedd cyfle i ni ail-ganolbwyntio a chwarae gyda’r prosiect ar y cyd yma”.
A dyna pryd ganwyd y DA-TI newydd. Ychwanegodd Sarah, “Mae DA-TI yn dod o’r geiriau Cymraeg ‘da wyt ti’, felly mae popeth rydym yn ei gynhyrchu yn ymwneud ag edrych yn dda arnat ti, teimlo’n dda am dy hun ac yn cael eu creu yn foesol ac yn gynaliadwy”.
Felly beth yn union yw DA-TI? Eglurai Sarah. ‘nid un peth yn unig ydyw, rydym yn aml ddimensiwn. Rydym wedi arbrofi lot gyda phethau gwahanol. Rydym wedi gweithio gyda llawer o bobl wahanol, fel cerddorion, ac wedi dylunio gwisgoedd arbennig. Rydym yn ceisio newid pethau wrth weithio gyda gwahanol bobl. Fel arall, mae’n dod ychydig yn hen a diflas. Rydym yn hoff o wthio’r ffiniau”.
Pan ofynnwyd am y pethau mwyaf heriol iddynt greu, dywedodd Sarah mai siaced cafodd ei greu wrth iddi arbrofi gyda origami oedd. “Roeddwn yn plygu defnydd ac wedi gwneud sawl sampl oedd ddim cweit yn iawn. Doeddwn i ddim am roi’r ffidl yn y to. Roeddwn yn benderfynol o wneud rhywbeth efo hyn. Felly, fe wnes siaced o hen mac o siop elusen a’i gymysgu gyda defnydd lliwgar wedi’i wneud o origami”.
Yn gyffrous iawn hefyd, cawsant “greu gwisg ar gyfer Owain Wyn Evans llynedd, ac roedd rhaid creu hwn mewn pythefnos. Roedd ar gyfer cynhyrchiad GALWAD, peth mawr ar Sky Arts. Doedden ni erioed wedi creu gwisg o’r blaen”!
Gwybodaeth berthnasol
Mae’r ymgyrch Y Dyfodol yn Ein Dwylo yn cael ei gynnal mewn cydweithrediad â Bloedd Amgueddfa Cymru. Mae’r rhaglen gydweithredol yma yn gweithio gyda rhai 16-25 oed i arbrofi, creu ac arloesi.
Siaradom gyda Julia a Sarah, sylfaenwyr y Sustainable Studio, am y newid mewn agweddau a sut i gofleidio ffasiwn gynaliadwy. Darllena amdano.
Mae gan Sarah a Julia arddangosfa mis nesaf sydd yn archwilio beth mae dylunwyr eraill yng Nghymru yn ei wneud, a beth yw’r dyfodol iddyn nhw.
Yn bresennol, mae’r Sustainable Studio yn cynnal arddangosfa gelwir yn ‘Reframing Sustainable Fashion. Mae’r arddangosfa yn cael ei gynnal o 9 Chwefror tan 11 Mawrth 2023 yn yr Urban Crofters, Crofts Street, Caerdydd, CF24 3DZ.